Mae'r Cyngor wedi cychwyn ar waith i ddisodli'r bont gerdded gyfredol rhwng Stryd Dyfodwg a Theras yr Afon yn Nhreorci. Bydd y cynllun, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn sicrhau llwybr Teithio Llesol o ansawdd gwell i gerddwyr a beicwyr.
Dechreuodd y gwaith i gael gwared ar y bont droed 1.5 metr o led gyfredol, a gosod pont newydd 3.5 metr o led sy'n cydymffurfio â chanllawiau Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, ddydd Iau 19 Awst. Mae'r Cyngor wedi penodi'r contractwr Walters Ltd i fod yn gyfrifol am gwblhau'r cynllun.
Mae disgwyl i'r gwaith bara am 12 wythnos, a bydd y llwybr troed dros yr afon ar gau yn ystod y cyfnod yma. Mae llwybr dargyfeirio lleol ar gyfer cerddwyr a beicwyr wedi'i amlygu. Yn ogystal â hynny, efallai y bydd angen i gontractwr y Cyngor gau ffyrdd lleol er mwyn cyflawni rhywfaint o'r gwaith. Bydd yr wybodaeth yma'n cael ei rhannu â thrigolion maes o law.
Ariennir y cynllun yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n cael ei gyflawni drwy gyllid grant gwerth £330,000 o'i Gronfa Teithio Llesol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r Cyngor wedi croesawu cyllid pwysig gan Lywodraeth Cymru i ddarparu pont Teithio Llesol newydd yn Nhreorci, gan sicrhau llwybr cerdded a beicio addas y mae modd i deithwyr ei rannu. Bwriad cynlluniau o'r fath yw gwella'r ddarpariaeth o ran Teithio Llesol, gan ganolbwyntio ar ein cymunedau.
“Mae nifer o fanteision ynghlwm wrth Deithio Llesol, ac mae gan y Cyngor rôl bwysig o ran annog rhagor o bobl i gerdded neu feicio bob dydd - boed hynny wrth deithio i'r gwaith, ysgol neu goleg, neu fel gweithgarwch hamdden. Mae Teithio Llesol yn bwysig i iechyd a lles pobl, ac mae'n rhan hollbwysig o'n hymrwymiadau o ran Newid yn yr Hinsawdd gan ei fod yn annog pobl i adael y car gartref.
"Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i gontractwr i sicrhau bod y gwaith yma o osod pont newydd yn Nhreorci mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl. Dechreuodd y gwaith ar y safle ddydd Iau, gyda llwybr dargyfeirio lleol bellach ar waith ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Diolch i chi am eich cydweithrediad ymlaen llaw."
Wedi ei bostio ar 20/08/21