Mae'r Cyngor wedi penodi contractwr i atgyweirio Pont Tramffordd Penydarren yn Nhrecynon, ar ôl derbyn Caniatâd Heneb Gofrestredig gan CADW yn gynharach eleni. Mae amserlen dros dro ar gyfer cyflawni'r gwaith wedi'i llunio.
Cafodd y bont, sydd wedi'i rhestru'n Radd II, ei ddifrodi ymhellach gan Storm Dennis ym mis Chwefror 2020 a stormydd dilynol eraill. Mae ffens diogelwch o gwmpas y bont a'r ardal gyfagos o hyd er diogelwch.
Mae'r Cyngor yn ymwybodol o arwyddocâd hanesyddol y bont ac mae wedi gweithio gydag ymgynghorwyr allanol i ddylunio cynllun adnewyddu sy'n gweddu i'r hanes hwnnw. Bydd hyn yn caniatáu i'r bont a'r Hawl Tramwy Cyhoeddus dros Afon Cynon ailagor.
Mae'r Cyngor erbyn hyn wedi penodi Walters Ltd yn gontractwr â chyfrifoldeb am gyflawni'r cynllun, a fydd yn adnewyddu'r trawstiau haearn bwrw sydd wedi hollti. Bydd angen mynd â'r bont oddi ar y safle er mwyn i'r atgyweiriadau arbenigol gael eu gwneud y gaeaf hwn, cyn ei dychwelyd a'i hailagor yn 2022.
Mae llinell amser dros dro, sy'n destun newid, yn olrhain hynt y gwaith mewn tri cham. Mae'r cam cyntaf yn cynnwys dymchwel yn rhannol pen ategweithiau'r bont, i ganiatáu symud prif drawstiau'r bont ac atgyweirio sgwrfeydd yr ategweithiau (mis Medi 2021 hyd at fis Hydref 2021).
Ar ôl hyn, bydd prif drawstiau'r bont yn cael eu trwsio oddi ar y safle, a fydd neb yn gweithio ar y safle ei hun (mis Hydref 2021 hyd at fis Chwefror 2022). Bydd y cam olaf yn cynnwys ailosod y bont a'r ategweithiau, ac ailagor yr Hawl Tramwy Cyhoeddus ar draws y bont (haf 2022).
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r broses gynllunio ar gyfer adfer Pont Tramffordd Penydarren yn Nhrecynon wedi bod yn un cymhleth. Mae'r Cyngor wedi gweithredu'n ddoeth trwy weithio'n agos â rhanddeiliaid pwysig gan gynnwys CADW, i ddylunio cynllun sy'n gweddu i statws Rhestredig y bont. Yn gynharach eleni, cyrhaeddon ni garreg filltir bwysig trwy dderbyn Caniatâd Heneb Gofrestredig, a'n galluogodd i fwrw ymlaen â'r cynllun.
“Rwy’n siŵr y bydd y cyhoeddiad heddiw bod contractwr bellach wedi’i benodi yn cael ei groesawu gan drigolion. Mae amserlen dros dro ar gyfer y gwaith hefyd wedi'i chytuno, sy'n golygu bydd gweithgarwch ar y safle o fis Medi o bosibl. Yng ngham cyntaf y gwaith bydd y contractwr yn symud y bont i wneud y gwaith oddi ar y safle. Dyma'r ateb gorau oherwydd natur arbenigol yr atgyweiriadau.
“Mae'r Cyngor yn bwrw ymlaen â'r cynllun hwn ochr yn ochr â gwaith ehangach ledled y Fwrdeistref Sirol i unioni difrod i isadeiledd a achoswyd gan Storm Dennis. Rydyn ni'n parhau i weithio ar ran olaf wal gynnal Ffordd Blaen-y-Cwm, er enghraifft, tra bod cynllun atgyweirio ar gyfer Pont Castle Inn yn Nhrefforest yn parhau i gael ei lunio gan swyddogion. Rydyn ni hefyd wedi gorffen atgyweirio'r sgwrfeydd ar Bont Heol y Berw (y Bont Wen), ac rydyn ni'n paratoi i'w hailagor dros dro.
“Bydd y Cyngor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am ei holl gynlluniau parhaus o ran isadeiledd mawr, gan gynnwys cadarnhau bod gwaith yn dechrau ar Bont Tramffordd Penydarren yn Nhrecynon – rydyn ni'n disgwyl y bydd hyn yn dechrau o fewn yr wythnosau nesaf."
Wedi ei bostio ar 17/08/21