Gyda'r gwaith yn datblygu'n dda, mae modd i'r Cyngor gadarnhau y bydd y Bont Wen (Pont Heol Berw) yn ailagor ddydd Sadwrn, 4 Medi.
Yn gynharach y mis yma, fe wnaeth y Cyngor rannu diweddariad ynghylch y gwaith i ailagor y strwythur rhestredig unigryw yma yn dilyn gwaith atgyweirio sylweddol ac asesiadau strwythurol. Daeth yr asesiadau i'r canlyniad bod y bont yn ddigon cryf i wrthsefyll yr un math o bwysau ag y gwnaeth cyn Storm Dennis (7.5T).
Mae disgwyl ailosod y goleuadau ar y strwythur ddydd Gwener, 27 Awst, gyda Hammonds (contractwyr y Cyngor ar gyfer y cynllun) yn mynd i'r safle o ddydd Mawrth, 31 Awst ymlaen i wneud y mân waith sy'n weddill.
Bydd profion atgyweirio yn cael eu cynnal ar y prif strwythur a bydd y gwaith yma'n cyfrannu at lywio rhaglen atgyweirio sylweddol, ar y cyd gyda Cadw, i ddiogelu'r bont ar gyfer y dyfodol. Mae'r Cyngor yn rhagweld y bydd y gwaith mawr yma'n gofyn am gau'r bont eto rhyw ben yn ystod 2022.
Wedi ei bostio ar 26/08/2021