Skip to main content

Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Rheoli Pobl 2021

Trophies with colourful female face profile

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyrraedd rhestr fer yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Rheoli Pobl 2021 i gydnabod ei waith dyddiol.

Bydd enillwyr Gwobrau Rhagoriaeth mewn Rheoli Pobl 2021 yn cael eu cyhoeddi yn ystod Cynhadledd Rithwir Cymdeithas Rheolwyr Pobl y Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Medi.

Mae'r Cyngor wedi cyrraedd rhestr fer categori'r Rhaglen Dalent Orau, a noddir gan Tribepad.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n falch iawn bod y Cyngor yn cael cydnabyddiaeth am ei holl waith rhagorol yn y sector cyhoeddus a hoffwn longyfarch ein holl staff syn arwain y ffordd i sefydliadau eraill ledled y wlad.

“Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn y ffaith bod ein Cyngor wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Rhagoriaeth mewn Rheoli Pobl 2021 a Gwobrau 'Personnel Today' 2021, a hynny ar ôl cael llwyddiant mawr  yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

“Mae recriwtio prentisiaid yn un o ymrwymiadau hirsefydlog y Cyngor i’r gymuned leol, gan ragori ar ein hymrwymiad ddwy flynedd yn gynnar i ddarparu 150 o swyddi i brentisiaid a graddedigion erbyn diwedd tymor y Cyngor.

“Os ydych chi am feithrin y sgiliau sydd eu hangen i foderneiddio a darparu gwasanaethau i drigolion yn y dyfodol, rhaid rhoi cyfleoedd i brentisiaid - dyma rywbeth roedd Cyngor RhCT yn effro iddo yn gynnar.”

Ers dros 40 mlynedd, mae Cymdeithas Rheoli Pobl y Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn llais cyfunol dros adran Adnoddau Dynol Sefydliad gwasanaethau cyhoeddus cymwys, angerddol, ymroddedig ac amrywiol. Mae'n chwarae rhan hanfodol wrth ddylanwadu ar bobl sy'n gwneud penderfyniadau a rhanddeiliaid allweddol sy'n ymwneud â rheoli pobl ac sy'n delio â materion y gweithlu.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Rheolwyr Pobl y Gwasanaethau Cyhoeddus: “Mae prinder sgiliau wedi cael ei nodi fel pryder gan bob rhan o’r sector cyhoeddus, yn ogystal ag ar y lefel uchaf o Lywodraeth. Mae ymadawiad y DU â'r UE yn golygu y bydd angen i sefydliadau nodi a datblygu eu talent yn fwy nag erioed o'r blaen er mwyn gwella symudedd mewnol a'u gallu.

“Mae gwobr y Rhaglen Dalent Orau yn cydnabod cyflogwyr sy'n ceisio mynd i'r afael â'r her yma, ac ag anghenion eu sefydliad ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, trwy weithredu strategaethau rheoli talent moesegol sy'n addas i'r dyfodol ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth.”

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd wedi cyrraedd rhestr fer categori Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn yng Ngwobrau 'Personnel Today' 2021, i gydnabod llwyddiant ei Gynllun Prentisiaethau.

Wedi ei bostio ar 06/08/2021