Skip to main content

WI-FI AM DDIM bellach ar gael yng nghanol tref Tonypandy

Shop lined street

Mae cynllun Wi-Fi AM DDIM Cyngor Rhondda Cynon Taf bellach ar gael yn Nhonypandy, sy'n golygu bod modd i siopwyr, busnesau ac ymwelwyr â'r dref nawr ddefnyddio'r ddarpariaeth Wi-Fi gyhoeddus am ddim. 

Mae cynlluniau peilot llwyddiannus eisoes ar waith yn nhrefi Aberdâr, Aberpennar, Glynrhedynog, Porth a Threorci, sy'n golygu mai Tonypandy yw'r chweched dref y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynnig Wi-Fi am ddim ynddi. 

Mae cefnogi canol trefi yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor, yn enwedig yn ystod pandemig y Coronafeirws, sydd wedi cael effaith sylweddol ar drigolion a busnesau. 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol: “Rydw i'n falch o weld canol tref arall yn cael budd o'r ychwanegiad diweddaraf yma i gynllun Wi-Fi am ddim y Cyngor. 

“Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi'r gwaith o adfywio canol ein trefi, a bydd hyn yn helpu rhagor o'n masnachwyr lleol i ddarparu gwasanaeth digidol, manteisio ar y cyfleoedd sy'n dod law-yn-llaw â hyn, gwella eu presenoldeb ar-lein a denu rhagor o gwsmeriaid hefyd, o bosibl. Yn ogystal â hynny, bydd y Wi-Fi am ddim yn ffordd arall o annog trigolion ac ymwelwyr i siopa'n lleol. 

"Yn yr un modd â'r Wi-Fi sydd am ddim mewn trefi eraill yn RhCT, mae'r cynllun yn Nhonypandy wedi'i achredu gan 'Friendly Wi-Fi', sy'n golygu mai dim ond cynnwys ar-lein o natur briodol y bydd modd ei weld.

"Mae'r gwaith o roi'r cynllun yma ar waith yng nghanol tref Pontypridd yn parhau, dyma fydd y dref olaf yn RhCT i gael budd o'r cynllun ac wedi hyn bydd yr holl ymrwymiadau a nodwyd yn y maniffesto wedi'u cyflawni."

Bellach mae modd i drigolion, ymwelwyr a busnesau yn Nhonypandy ddefnyddio'r cysylltiad di-wifr am ddim – cadwch lygad am RCTFreeTownCentreWiFi ar y rhestr o rwydweithiau sydd ar gael. 

Mae'r Cyngor wedi profi'r system a bydd yn monitro ac yn adolygu'r defnydd o'r gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion ein cymunedau.

Does dim angen cyfrinair i ddefnyddio'r rhwydwaith ac mae modd defnyddio'r cysylltiad rhwng 7am a 7pm.

Wedi ei bostio ar 19/08/21