Mae'r Cyngor yn falch iawn y bydd cwmni Loungers yn agor ei far a chaffi newydd yn natblygiad Llys Cadwyn ym Mhontypridd yn ddiweddarach y mis yma, gan ddod â brand poblogaidd 'Lounge' i Rondda Cynon Taf am y tro cyntaf.
Mae gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn yr uned yn Rhif 3 Llys Cadwyn, yn barod ar gyfer agoriad swyddogol Gatto Lounge ar 25 Awst. Mae gyda chwmni Loungers dros 120 o fariau a chaffis mewn cymdogaethau ledled y DU sy'n cyfuno elfennau o ddiwylliant bwytai, y dafarn draddodiadol Brydeinig a siopau coffi. Cadarnhaodd y cwmni ei ymrwymiad i agor ym Mhontypridd ym mis Rhagfyr 2020, ac mae'r lleoliad bron yn barod i groesawu ei gwsmeriaid cyntaf.
Gatto Lounge ym Mhontypridd fydd y bar 'Lounge' poblogaidd diweddaraf yn ne Cymru – gan ymuno â Fino Lounge yn yr Eglwys Newydd, Ocho Lounge ym Mhenarth, Juno Lounge yn y Rhath a Corvo Lounge ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i enwi ond ychydig.
Bydd yn gweini amrywiaeth eang o fwyd a diodydd, gan gynnwys bwyd heb glwten a bwyd figan, a bydd croeso cynnes i gŵn a'u perchnogion.
Cafodd datblygiad Llys Cadwyn - sydd gwerth £38 miliwn - ei gwblhau'n swyddogol yn ystod hydref 2020. Mae'r gwaith wedi'i gwblhau o ganlyniad i fuddsoddiad sylweddol gwerth £10 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru.
Mae gydag adeilad Rhif 1 Llys Cadwyn (ger Stryd y Bont) lyfrgell, man cyswllt ar gyfer cwsmeriaid a chanolfan ffitrwydd. Mae gydag adeilad Rhif 2 Llys Cadwyn (yr adeilad yn y canol) ofod swyddfa Gradd A, yn ogystal ag uned bwyd/diod. Mae'r ardaloedd o amgylch yr adeiladau ar agor i'r cyhoedd, gan gynnwys rhodfa ger yr afon a phont droed newydd i mewn i'r parc.
Mae Gatto Lounge yn ymuno â Bradleys Coffee a Trafnidiaeth Cymru yn denantiaid Rhif 3 Llys Cadwyn, gan olygu bod pob un uned yn cael ei defnyddio erbyn hyn.
Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Mae Gatto Lounge yn agor ym Mhontypridd ac yn croesawu cwsmeriaid o Awst 25 yn newyddion gwych. Dyma'r brand diweddaraf i agor yn natblygiad blaenllaw Llys Cadwyn. Rwy'n siŵr y bydd yn dod yn hoff le i drigolion lleol ac ymwelwyr â chanol y dref ac yn dod yn rhan annatod o'r gymuned ymhen dim.
“Mae Llys Cadwyn wedi trawsnewid hen safle Canolfan Dyffryn Taf yn ddatblygiad modern, gan greu swyddi lleol, cynyddu nifer yr ymwelwyr ar gyfer busnesau canol y dref a hwyluso mynediad i gerddwyr i Barc Coffa Ynysangharad. Mae'r datblygiad yn rhan holl bwysig o waith adfywio Pontypridd, ynghyd â phrosiectau cyffrous fel ailddatblygu Canolfan Gelf y Miwni ac YMCA Pontypridd, yn ogystal â chynlluniau i hen safle'r Neuadd Bingo gael ei ddefnyddio eto.
“Mae ymrwymiad brand y ‘Lounge’ i Bontypridd yn adlewyrchu uchelgais y Cyngor trwy Lys Cadwyn, wrth iddo ymuno â Bradleys Coffee a Trafnidiaeth Cymru erbyn hyn i gwblhau tenantiaeth lawn Rhif 3 Llys Cadwyn. Hoffwn i estyn croeso cynnes i Gatto Lounge, gan ddymuno pob llwyddiant wrth agor."
Mae rhagor o wybodaeth am Gatto Lounge, Pontypridd ar wefan cwmni Loungers (Saesneg yn unig). Fel arall, chwiliwch am dudalen newydd 'Gatto Lounge' ar Facebook er mwyn cael y newyddion diweddaraf am y lleoliad.
Wedi ei bostio ar 02/08/2021