JACS, Temple Bar, The Llwyncelyn & The Thirsty Elephant
Mae'r Cyngor wedi helpu 69 busnes lleol i fanteisio ar gyllid dau grant Llywodraeth Cymru, gwerth £366,000, er mwyn datblygu eu mannau awyr agored i gynyddu eu gallu i fasnachu a chynnig hyblygrwydd iddyn nhw yn ystod cyfyngiadau'r Coronafeirws.
Ym mis Ionawr 2021, ysgrifennodd swyddogion Adran Adfywio'r Cyngor at fusnesau bach a chanolig ar draws Rhondda Cynon Taf i hyrwyddo cyfleoedd cyllido trwy'r Grant Adfer COVID ar gyfer Canol Trefi sy'n rhan o'r fenter Trawsnewid Trefi, yn ogystal â chyllid newydd sydd ar gael o Grant Adfer COVID Tasglu'r Cymoedd.
Roedd cynlluniau busnesau yng nghanol trefi mwy o faint y Fwrdeistref Sirol i greu prosiectau awyr agored i alluogi cadw pellter cymdeithasol a sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel wrth ddychwelyd i'r stryd fawr yn gymwys ar gyfer y cyllid cynllun Trawsnewid Trefi. Cafodd 21 prosiect eu hariannu (cyfanswm o £128,000) ledled Aberdâr, Glynrhedynog, Llantrisant, Aberpennar, Pontypridd, Porth, Tonypandy a Threorci. Elwodd busnesau o grant o hyd at £10,000 i dalu am 80% o'r costau.
Gwahoddwyd masnachwyr ardaloedd manwerthu llai i wneud cais am arian o grant tebyg a oedd ar gael gan Dasglu'r Cymoedd. Mae 48 busnes wedi elwa o grant o hyd at £10,000 (cyfanswm o £238,000 ar draws 29 o ardaloedd manwerthu lleol) ers hynny. Roedd y grant yma'n talu holl gostau'r prosiect ar gyfer pob ymgeisydd. Dyma enghreifftiau o brosiectau llwyddiannus y ddau grant.
The Thirsty Elephant - Pont-y-clun
Mae'r siop goffi a'r bar coctel yn fusnes newydd ac mae wedi derbyn cefnogaeth y Cyngor i agor. Derbyniodd y busnes arian grant Tasglu'r Cymoedd i brynu planhigion, adlen sy'n cynhesu'n awtomatig, celfi ar gyfer agor caffi ar y stryd.
The Temple Bar - Aberaman
Mae'r dafarn draddodiadol wedi trawsnewid ei gardd gwrw awyr agored gyda chymorth grant Tasglu'r Cymoedd. Mae'r prosiect wedi cynnwys creu ardaloedd eistedd aml-lefel, prynu gwresogyddion, gazebos a nifer o sgriniau COVID.
JACS - Aberdâr
Mae'r bwyty a'r lleoliad cerddoraeth yma wedi datblygu ei ofod awyr agored gyda chyllid Trawsnewid Trefi. Defnyddiodd gwmni adeiladu lleol i ddylunio a datblygu'r ardd a chreu ardaloedd picnic a gwresogyddion patio newydd.
Y Llwyncelyn, Porth
Defnyddiodd y dafarn Fictoraidd y cyllid Trawsnewid Trefi i drawsnewid ei gardd gwrw draddodiadol. Ychwanegodd cwmni gwaith coed lleol sawl bwth bwyta cysgodol, byrddau picnic â meinciau a seddi casgen.
Jellyfish Café, Abercynon
Defnyddiodd y caffi arian Tasglu'r Cymoedd i drawsnewid ei ofod allanol er mwyn creu man i eistedd a bwyta. Helpodd y grant y busnes i brynu dodrefn i'w rhoi tu allan a goleuadau a chanopi y mae modd ei agor a'i gau.
D Lites, Tonysguboriau
Roedd y caffi a'r tecawê eisiau gwneud y gorau o'i ofod awyr agored, ac roedd grant Tasglu'r Cymoedd wedi'u galluogi i adeiladu ardal fwyta â dec, gorchudd a gwres. Cyflawnwyd y gwaith gan fusnes gwaith coed lleol.
The Rhondda Hotel, Porth
Elwodd y dafarn draddodiadol ar welliant modern i'r ardal eistedd awyr agored. Helpodd y grant Trawsnewid Trefi i osod dec llwyd gyda sgriniau pren, goleuadau a phlanhigion, gwresogyddion a chanopi y gellir ei dynnu'n ôl.
Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: "Mae rhoi gwybod i fusnesau lleol am y grantiau sydd ar gael iddyn nhw gan y Cyngor yn fewnol a sefydliadau allanol fel Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig yn rhan bwysig o waith y Cyngor i gefnogi busnesau. Mae modd i'r grantiau Trawsnewid Trefi a Thasglu'r Cymoedd a ddarperir gan adran Adfywio'r Cyngor helpu busnesau i ddatblygu a gwella'u mannau awyr agored presennol, a hyrwyddwyd y rhain yn yr 28 ardal fanwerthu a oedd yn gymwys.
“Rydyn ni'n gwybod bod creu mannau awyr agored ychwanegol wedi galluogi nifer o fusnesau i gadw at y cyfyngiadau, gan ddefnyddio mannau o'r newydd er mwyn cynyddu eu gallu i fasnachu yn ystod y pandemig. Bydd y gwelliannau yma'n elwa'r busnesau am flynyddoedd i ddod.
“Rwy’n falch bod gwaith y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth a gweinyddu’r grantiau wedi caniatáu i 69 o fusnesau lleol dderbyn gwerth £366,000 o gefnogaeth ariannol o'r ddau grant. Mae hefyd yn wych gweld yr enghreifftiau yma sy'n dangos sut mae'r cyllid wedi'i ddefnyddio'n effeithiol."
Wedi ei bostio ar 06/08/2021