Yn rhan o ymgynghoriad, mae bellach cyfle arall gan drigolion i roi adborth ar ddarpariaeth cerdded a beicio Rhondda Cynon Taf.
Mae'r cyfle diweddaraf yma i ymgysylltu yn golygu bod modd i drigolion weld fersiwn ddiweddaraf o'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol y mae rhaid i bob Cyngor yng Nghymru ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd 2021. Mae'r Map yn amlinellu'r llwybrau cerdded a beicio presennol, a hefyd yn dangos llwybrau newydd y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'w creu yn ei gymunedau lleol yn y dyfodol.
Mae'r ymarfer statudol yma'n dilyn ymgynghoriad a gafodd ei gynnal gan y Cyngor rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Chwefror 2021. Yn ystod yr ymgynghoriad yma, daeth 695 o ymatebion gan drigolion i law. Roedd yr adborth yma'n ddefnyddiol iawn, ac mae wedi llywio nifer o ddiweddariadau allweddol sydd wedi'u gwneud i'r Map Rhwydwaith.
Mae'r ymgynghoriad diweddaraf bellach wedi dechrau, a bydd yn parhau ar agor tan Ddydd Mawrth, 9 Tachwedd. Yn y lle cyntaf, bydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar 22 ardal yn y Fwrdeistref Sirol (sydd wedi'u rhestru isod), ac yn gofyn i drigolion nodi unrhyw fylchau yn y rhwydwaith cerdded a beicio cyfredol, a chyflwyno syniadau ar sut i’w cywiro. Byddwn ni hefyd yn gofyn i drigolion os oes unrhyw lwybrau maen nhw’n eu defnyddio sydd ddim wedi’u cynnwys ar y Map.
Dylai'r rheiny sy'n dymuno cymryd rhan ymweld â gwefan y Cyngor. Mae'r hafan yma'n cynnwys dolenni i'r 22 maes unigol y mae'r ymgynghoriad cyfredol yn canolbwyntio arnyn nhw.
Mae pob dolen yn cynnwys map lleol sy'n amlinellu'r llwybrau cerdded a beicio presennol a'r rhai sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol yn yr ardal dan sylw. Mae hefyd chwe chwestiwn ar dudalen bob ardal, sy'n caniatáu i gyfranogwyr gyflwyno manylion am unrhyw lwybrau presennol sydd ar goll o'r map, unrhyw fylchau yn y rhwydwaith ac unrhyw sylwadau ychwanegol.
Yn ogystal ag ymateb i'r ymgynghoriad ar-lein, mae modd i drigolion drefnu apwyntiadau i roi adborth i Swyddogion. Bydd y sesiynau yma’n cael eu cynnal yn llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Bydd manylion pellach ar gael maes o law ar dudalennau’r ymgynghoriad. Bydd y Cyngor hefyd yn cysylltu â nifer o randdeiliaid allweddol yn ystod yr ymgynghoriad.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r ymgynghoriad yma'n cynnig y cyfle ffurfiol olaf i’r cyhoedd ddweud eu dweud ar lwybrau cerdded a beicio lleol yn Rhondda Cynon Taf, cyn i ni, ac Awdurdodau Lleol eraill Cymru, gyflwyno’n diweddariad o'r Map Rhwydwaith i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd y flwyddyn.
“Rydyn ni'n gofyn cwestiynau allweddol yn y broses yma, gan ddibynnu ar wybodaeth leol y trigolion i sicrhau bod ein Map diweddaraf mor gywir ac mor gynhwysfawr â phosibl. Er enghraifft, a ydyn ni wedi nodi'r llwybrau cywir sydd angen eu gwella yn y dyfodol, ydyn ni wedi nodi'r holl lwybrau newydd priodol, ac a ydyn ni'n wedi asesu llwybrau cyfredol yn gywir i fodloni’r safonau sydd wedi'u cytuno?
“Mae Llywodraeth Cymru yn llygaid eu lle yn nodi Teithio Llesol yn flaenoriaeth allweddol, gan fod nifer o fuddion i unigolion a chymunedau. Mae'r Cyngor yn chwarae rhan allweddol yn annog mwy o bobl i gerdded a beicio, nid yn unig am resymau hamdden ond yn rhan o deithiau dyddiol - gan gynnwys cael mynediad at addysg a chyflogaeth. Mae’r cynlluniau sydd wedi’u targedu i wella’r ddarpariaeth Teithio Llesol yn cael eu cyflwyno'n barhaus, tra bod cynyddu’r cyfleoedd i gerdded a beicio, lle bo hynny'n bosibl, yn ystyriaethau allweddol yn ein cynlluniau gwella priffyrdd.
“Mae cerdded a beicio yn lle gyrru hefyd yn neges allweddol yn ein swyddogaethau a'n hymrwymiadau Newid Hinsawdd, gan gynnwys defnyddio Teithio Llesol i gyrraedd trafnidiaeth gyhoeddus. Mae llai o gerbydau ar ein rhwydwaith ffyrdd yn golygu llai o allyriadau carbon, ac yn lleihau amseroedd teithio a thagfeydd traffig.
“Byddwn i'n annog trigolion i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad Teithio Llesol cyn y dyddiad cau, sef 9 Tachwedd. Bydd hyn yn caniatáu i Swyddogion drafod yr adborth, a gwneud yr ychwanegiadau a'r newidiadau priodol i'n Map Rhwydwaith. Bydd hynny wedyn yn gweithredu yn glasbrint ar gyfer buddsoddiad Teithio Llesol yn ystod y blynyddoedd i ddod."
Yn y lle cyntaf, mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y 22 ardal ganlynol - Abercynon, Aberdâr, Beddau, Pentre'r Eglwys, Glynrhedynog, Hirwaun, Llanharan, Llanhari, Llantrisant, Aberpennar, Pont-y-clun, Pontypridd, Porth, Rhydyfelen, Ffynnon Taf, Tonysguboriau, Tonypandy, Tonyrefail, Trefforest, Treherbert, Treorci a Tylorstown.
Wedi ei bostio ar 20/08/2021