Bellach mae modd i breswylwyr gael manylion a chael dweud eu dweud ar gynigion i adeiladu cyfleuster Gofal Ychwanegol 60 gwely newydd sbon ar gyfer y Porth - gyda'r holl adborth sy'n dod i law yn ystod yr ymgynghoriad yn cyfrannu at lywio cais cynllunio Linc Cymru yn y dyfodol.
Ym mis Rhagfyr 2020, cytunodd Aelodau o'r Cabinet i adeiladu cynllun tai Gofal Ychwanegol newydd ar safle Cartref Gofal Dan y Mynydd yn y Porth. Mae'r datblygiad yn unol â strategaeth y Cyngor i foderneiddio opsiynau gofal preswyl i bobl hŷn. Does neb yn byw yn y cartref gofal ar hyn o bryd, ac mae hysbysiadau cyhoeddus ar gyfer dymchwel yr adeilad wedi'u cyhoeddi'n ddiweddar.
Mae cyfleusterau Gofal Ychwanegol yn darparu llety modern â chymorth 24 awr ar gyfer anghenion asesedig pobl hŷn, gan roi'r modd iddyn nhw fyw mor annibynnol â phosibl. Ochr yn ochr â Linc Cymru (Linc), mae'r Cyngor yn wedi ymrwymo i ddarparu 300 o leoedd Gofal Ychwanegol ar draws pum datblygiad newydd - gan gynnwys Maesyffynnon yn Aberaman a agorodd y llynedd, a Chwrt yr Orsaf yn y Graig sy'n cael ei adeiladu.
Mae Linc bellach wedi cychwyn proses Ymgynghori Cyn Cais, dan ofal asiant cynllunio LRM Planning, a fydd yn caniatáu preswylwyr i gael dweud eu dweud ar y trydydd datblygiad Gofal Ychwanegol, ar gyfer y Porth. Mae croeso cyflwyno unrhyw adborth hyd nes i'r broses ddod i ben ddydd Llun, 30 Awst, a bydd yn cael ei ddefnyddio gan Linc i lywio'r broses cyflwyno cais cynllunio ffurfiol yn y dyfodol.
Byddai'r datblygiad arfaethedig yn cynnwys adeiladu 60 o fflatiau, ynghyd â gwaith cysylltiedig, tirlunio, draenio cynaliadwy, mynediad a pharcio. Mae modd gweld fersiwn ddrafft o'r cais cynllunio, gan gynnwys set lawn o luniadau, ar-lein.
Mae modd i aelodau o'r cyhoedd gyflwyno eu barn trwy e-bost, post, neu ffurflen adborth ar dudalen 'Cysylltu â Ni' ar y wefan. Fel arall, gall y rhai nad ydyn nhw'n gallu mynd ar-lein e-bostio admin@lrmplanning.com neu ffoniwch LRM Planning ar 02920 349737 i gael cymorth.
Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau i Oedolion: “Mae'r broses ymgynghori cyn y cais cynllunio yn rhoi cyfle pwysig i'r cyhoedd weld cynigion Linc yn fanwl, a rhoi adborth yn uniongyrchol iddyn nhw ar y cam hwn o'r broses. Bydd cyfle i fwrw sylwadau ffurfiol ar y cynigion yn dilyn yn nes ymlaen, adeg cyflwyno'r cais cynllunio.
“Roedd darparu cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd ar gyfer y Porth, ar safle presennol Cartref Gofal Dan y Mynydd, yn un o'r cynigion diwygiedig y cytunodd Aelodau o'r Cabinet ym mis Rhagfyr 2020 - mewn perthynas â chynllun ehangach y Cyngor i foderneiddio opsiynau gofal preswyl i bobl hŷn. Mae Gofal Ychwanegol yn cynnig dewis, annibyniaeth a rhyngweithio cymunedol i breswylwyr, gan ganiatáu iddyn nhw gael mynediad at ofal 24/7 ar gyfer eu hanghenion a aseswyd ynghyd ag ystod o gyfleusterau ar y safle.
“Mae cyfleuster Gofal Ychwanegol Maesyffynnon yn Aberaman wedi bod yn llwyddiannus iawn ers iddo agor ar ganol y pandemig ym mis Mai 2020, tra bod datblygiad Cwrt yr Orsaf yn y Graig bron â gorffen. Mae hefyd yn beth cyffrous iawn i weld y cynigion ar gyfer y Porth yn dod yn fyw trwy ddelweddau argraff artist, sydd bellach ar gael i'w gweld fel rhan o'r ymgynghoriad cyfredol.
“Byddwn i'n annog aelodau o’r cyhoedd i gael rhagor o fanylion a mynegi'u barn ar gynigion Gofal Ychwanegol y Porth cyn 30 Awst. Bydd y safbwyntiau a ddaw i law yn y broses hon yn helpu Linc i lunio ei gais cynllunio, i'w ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol. ”
Ychwanegodd Jo Yellen, Rheolwr Prosiect Datblygu Linc:“A ninnau'n arbenigwyr yn y ddarpariaeth o lety Gofal Ychwanegol, rydym ni'n falch o fod yn bartner gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf wrth anelu at gyflawni ei darged i ddarparu 300 o leoedd gofal ychwanegol yn y sir.
“Ochr yn ochr â chynllun Gofal Ychwanegol Maesyffynnon a agorodd y llynedd, a Chwrt yr Orsaf sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd, mae ein cynlluniau arfaethedig ar gyfer y Porth yn gweld 60 yn fwy o leoedd Gofal Ychwanegol i ddiwallu anghenion preswylwyr RhCT.
“Mae'r Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais ar gyfer safle Cartref Gofal Dan y Mynydd yn rhoi cyfle i drigolion lleol weld argraffiadau'r arlunydd o'r datblygiad a chyflwyno'u hadborth. Rydym ni'n annog preswylwyr yn y Porth i weld ein cynlluniau arfaethedig ar gyfer y safle a chyflwyno eu sylwadau i ni erbyn dydd Llun, 30 Awst.”
Wedi ei bostio ar 06/08/2021