Bydd gwaith sylweddol yn dechrau i adfer y difrod a achoswyd gan dirlithriad ar ran o'r Llwybr i'r Gymuned yn Ynys-hir yn dilyn Storm Dennis. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar ddeunydd o’r tirlithriad, gwaith draenio ac ailosod yr arglawdd.
Mae'r llwybr a rennir rhwng Teras Maes-y-coed, Porth a Heol Llanwynno, Ynys-hir wedi bod ar gau ers y tirlithriad ym mis Chwefror 2020. Digwyddodd y tirlithriad yn ystod y storm a achosodd llifogydd a difrod mawr i'r seilwaith ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat Ltd fel y contractwr a fydd yn cyflawni'r gwaith adfer.
Bydd y gwaith yn cychwyn o ddydd Mawrth, 31 Awst, bydd y llwybr a rennir yn parhau i fod ar gau trwy gydol y gwaith. Bydd y gwaith yn para tua saith wythnos. Bydd gwaith sylweddol yn cael ei gyflawni ar y safle, ac yn cynnwys cael gwared ar ddeunydd o'r tirlithriad, atgyweirio’r caergewyll presennol ac adeiladu wal caergewyll newydd a system ddraenio wedi'i huwchraddio.
Mae'r gwelliannau draenio'n cynnwys cynyddu maint y ffos sy'n cludo'r cwrs dŵr, gosod pibellau newydd, adeiladu cefnfur, cael gwared ar ran bibellog o'r cwrs dŵr ac adeiladu ffos agored i osgoi'r perygl o weld rhwystrau yn y system yn y dyfodol.
Bydd gwaith pellach yn cynnwys ailosod yr arglawdd, gwaith gosod wyneb newydd ar y llwybr i'r gymuned, gosod goleuadau stryd newydd (yn lle'r rhai sydd wedi'u difrodi) ac unrhyw waith clirio llystyfiant sydd ei angen er mwyn ailagor y llwybr.
Bydd y contractwr yn sefydlu safle gwaith a mynediad i'r safle ger Teras Maes-y-coed. Rydyn ni'n gofyn i drigolion lleol barcio mewn modd ystyrlon, er mwyn sicrhau bod modd i lorïau yrru heibio. Mae angen y lorïau yma er mwyn cael gwared ar ddeunydd o'r tirlithriad. Bydd arwyddion perthnasol yn cael eu gosod, tra bydd mynediad i'r garejys ger y safle gwaith yn cael ei gynnal i drigolion trwy gydol y gwaith.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: "Bydd trigolion yn sylwi ar y gwaith sy'n cael ei gyflawni i sefydlogi'r tirlithriad ar y rhan yma o'r Llwybr i'r Gymuned yn Ynys-hir. Dyma gynllun cymhleth sydd â sawl tasg y mae angen ei chyflawni - gan gynnwys cael gwared ar ddeunydd o'r tirlithriad, gwaith draenio, ailosod yr arglawdd a gwaith megis gosod wyneb newydd, gosod goleuadau stryd newydd a chlirio llystyfiant er mwyn ailagor y llwybr.
“Bydd y cynllun yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer prosiectau Storm Dennis, gan gefnogi gwaith trwsio'r seilwaith ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi dyddiad ar gyfer ailagor y Bont Wen (Heol Berw) yn ddiweddar, mae hynny'n dilyn cwblhau cam cychwynnol y gwaith adfer, tra bod gwaith atgyweirio Pont Ynysmeurig yn Abercynon hefyd wedi'i gwblhau. Mae disgwyl i gynllun unioni yn dilyn difrod storm ar Ffordd Mynydd Maerdy gael ei gwblhau'r wythnos nesaf, hefyd.
“Yn y cyfamser, mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd da eleni mewn perthynas â Chynllun Adfer yn dilyn Tirlithriad Tylorstown. Yn gynharach yn yr haf, cafodd deunydd o'r tirlithriad ei symud o lawr y cwm i safleoedd derbyn - gan alluogi'r Cyngor i ailagor sawl llwybr a rennir yn yr ardal.
“Bydd y cynllun yn Ynys-hir yn cychwyn yn dilyn Gŵyl y Banc, gan ddefnyddio safle gwaith dros dro a mynediad i'r safle ar Deras Maes-y-coed. Hoffwn i ddiolch ymlaen llaw i drigolion am eu cydweithrediad wrth i ni gwblhau'r gwaith yma." Bydd y Cyngor yn gweithio gyda'i gontractwr i leihau aflonyddwch o ran nifer y teithiau gan lorïau er mwyn symud y deunydd o'r tirlithriad a chyflawni'r gwaith atgyweirio ehangach."
Wedi ei bostio ar 27/08/2021