Mae dyn o Donypandy wedi talu'n ddrud am ei weithredodd tipio'n anghyfreithlon diog.
Aeth y dyn xx oed i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned Gelli a phenderfynu dadlwytho'i gar a thipio’i sbwriel yn anghyfreithlon o dan arwydd a oedd yn nodi'n glir nad oedd y safle bellach ar agor ac i ddefnyddio canolfan arall ychydig filltiroedd i ffwrdd.
Mae modd gweld y dyn ar gamerâu cudd y Cyngor yn edrych ar yr arwydd, yn ei ddarllen ac yn taflu bag du a dau garped ger yr arwydd, lle roedd troseddwyr eraill hefyd wedi tipio'u gwastraff yn anghyfreithlon.
Diolch i gamera cudd ar y safle, llwyddodd garfan orfodi arbennig y Cyngor ddod o hyd i'r tipiwr anghyfreithlon a sicrhau ei fod yn atebol am ei weithredoedd. Cyfaddefodd y dyn i'r drosedd a chafodd Hysbysiad Cosb Benodedig o £400. Yn y pendraw, methodd y dyn â thalu'r gosb, gan arwain at achos llys. Arweiniodd hynny at y barnwr yn labelu'r unigolyn yn “ddiog” a chynyddodd y ddirwy (gyda chostau) i dros £1100. (Dirwy o £800, costau o £300 a Gordal Dioddefwr o £80, sef cyfanswm £1180).
Dyma atgoffa trigolion fod dyletswydd gofal arnyn nhw i gael gwared ar eu gwastraff yn briodol, ac i sicrhau bod eitemau'n cael eu gwraedu yn gywir. Os na fyddwch chi'n gwneud hyn, efallai bydd y gost yn fwy na'r 4 milltir ychwanegol i deithio i'r ganolfan ailgylchu yn y gymuned agosaf nesaf!
Mae Adran 33(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn disgrifio'r drosedd o dipio anghyfreithlon fel a ganlyn: “Taflu unrhyw wastraff yn anghyfreithlon ar dir sydd ddim â thrwydded i'w dderbyn”. Mae modd i unrhyw un sy'n cael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon wynebu dirwy sylweddol fel darganfyddodd y dyn yma!
Fydd achosion o dipio'n anghyfreithlon, taflu sbwriel neu beidio â chodi baw cŵn mewn man cyhoeddus ddim yn cael eu goddef yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r achos diweddaraf yn dangos y bydd y Cyngor yn defnyddio pob un o'i bwerau i ddal unigolion sy'n gyfrifol am ddifetha ei drefi a'i ardaloedd gwledig.
Yn ogystal â chynnal gwiriadau rheolaidd ledled y Fwrdeistref Sirol ac ymateb i bryderon sy'n dod i law, mae gan y Cyngor nifer o gamerâu cudd, symudol sy'n cael eu gosod mewn lleoliadau allweddol er mwyn dal troseddwyr sy’n tipio'n anghyfreithlon.
Mae gan y Cyngor wasanaeth diderfyn wythnosol sy’n casglu sbwriel sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gan y Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio anghyfreithlon, yn enwedig tipio’r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:
“Fyddwn ni ddim yn goddef tipio anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, strydoedd na’n pentrefi gyda'ch gwastraff a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.
"Fel y mae'r achos yma'n ei ddangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB adroddiad am dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n darganfod yr holl fanylion fel y mae'r troseddwr diweddaraf yma wedi ei ddarganfod.
"Mae cael gwared ar dipio anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol yn costio cannoedd ar filoedd o bunnoedd y byddai modd eu gwario ar wasanaethau rheng flaen allweddol.
“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddal y rheini sy’n gyfrifol am eu gweithredoedd. Mae llawer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu neu waredu yn y i'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd - heb unrhyw gost ychwanegol. "
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o Dipio'n Anghyfreithlon, Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu alw heibio i www.rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 05/08/2021