Skip to main content

Dewch i Siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT

Climate Change Logo with text

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn mynd â'r sgwrs 'Dewch i Siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT’ ar daith, gan ymweld â chymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod y materion sydd bwysicaf iddyn nhw.

Bydd modd trafod popeth, o flodau gwyllt i gerbydau trydan, defnyddio llai o ddŵr a thrydan, i ailgylchu ac ailddefnyddio. Mae gan bob un ohonon ni ran i'w chwarae, waeth pa mor fawr neu fach, er mwyn helpu Cyngor Rhondda Cynon Taf i ddod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030. Ein nod hefyd yw sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol mor agos â phosib i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030.

Bydd staff y cyngor yn mynd allan i'n cymunedau dros yr haf er mwyn annog pawb i ‘Siarad am Newid yn yr Hinsawdd yn RhCT’. Bydd manylion yn cael eu rhannu ar ein cyfrifon cymdeithasol cyn yr achlysuron.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, a Hyrwyddwr Materion Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor: “Rydyn ni fel Cyngor yn cydnabod bod angen i ni arwain y ffordd a chefnogi ein preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd - ac mae angen i newidiadau o’r fath ddechrau’n lleol.

“Bydd y camau bach rydyn ni’n eu cymryd yma yn Rhondda Cynon Taf, ynghyd â phob awdurdod lleol arall yng Nghymru, yn cael effaith enfawr os ydyn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd.

“Mae ein hymgyrch 'Dewch i Siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT' eisoes wedi annog pobl i ddechrau trafod pynciau amrywiol, o ofalu am ein blodau gwyllt i bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan.

“Ond mae angen i ni i gyd wneud rhagor, a dyna pam rydyn ni bellach yn mynd i mewn i’n cymunedau ac yn siarad gyda’r preswylwyr a’r busnesau a all ein helpu i wneud gwahaniaeth.

“Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein llwyddiant o ran y mater hwn. Mae eich barn chi'n bwysig i ni, felly rydw i'n annog pawb i ddod i siarad â ni.”

Mae angen eich help chi arnon ni - Ymunwch â'n Sgwrs am yr Hinsawdd

Wedi ei bostio ar 03/08/2021