Skip to main content

Llys Cadwyn ar restr fer Gwobrau Diwydiant Adeiladu Prydain

Llys Cadwyn buildings with Chruch in background

Mae datblygiad Llys Cadwyn y Cyngor wedi cyrraedd rhestr fer categori Prosiect Eiddo Masnachol y Flwyddyn yng ngwobrau mwyaf mawreddog y sector adeiladu.

Mae'r prosiect yng nghanol tref Pontypridd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Diwydiant Adeiladu Prydain, sy'n cael eu trefnu gan Institiwt y Peirianwyr Sifil a Pheirianwyr Sifil Newydd. Hydrock, blaen ymgynghorydd Llys Cadwyn, fu'n gyfrifol am enwebu'r prosiect, a gafodd ei adeiladu gan Willmott Dixon. Bydd Gwobrau 2021 yn cael eu cynnal ar 13 Hydref ac yn cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth mewn prosiectau, gan nodi'r cyflawniad a'r canlyniadau cadarnhaol i gymunedau a ddaw yn eu sgil.

Mae Llys Cadwyn wedi trawsnewid hen safle strategol Cwm Taf yng nghanol Pontypridd, a fu'n wag ers blynyddoedd lawer. Ar ôl ymdrechion aflwyddiannus gan y sector preifat i adfywio'r ardal, prynodd y Cyngor y safle yn 2015 gan ymrwymo i ddarparu datblygiad defnydd cymysg gyda swyddfeydd yn y dref.

Gan weithio gyda charfan y prosiect, a oedd yn cynnwys Hydrock, cychwynnodd contractwr y Cyngor, Willmott Dixon, ei waith ar y safle yn gynnar yn 2018, gyda'r bwriad o drawsnewid yr ardal yn dri adeilad unigryw a chreu llwybr cerdded ger yr afon.

Mae Rhif 1 Llys Cadwyn (ger Stryd y Bont) yn cynnwys Llyfrgell ar gyfer yr 21ain Ganrif, pwynt cyswllt i gwsmeriaid a chanolfan ffitrwydd o'r radd flaenaf, tra bod Rhif 2 Llys Cadwyn (yr adeilad yn y canol) yn cynnwys swyddfeydd Gradd A ac uned bwyd/diod. Rhif 3 Llys Cadwyn yw cartref newydd Trafnidiaeth Cymru, gweithredwr Metro De Cymru, ac mae siop Coffi Bradleys yn un o'r ddwy uned bwyd/diod a bydd Gatto Lounge yn agor yn y llall ar 25 Awst.

Yn ystod y cynllun, trefnodd Willmott Dixon bron i 4,000 awr o hyfforddiant, ac fe wnaeth y cwmni ryngweithio gyda dros 4,200 o fyfyrwyr lleol ac ymgysylltu gyda phobl ifainc drwy ei raglen mentora a recriwtio.

Daeth y cwmni o hyd i 21.97% o lafur y prosiect o fewn 10 milltir i'r prosiect a 56% o fewn 20 milltir, tra bod 60% o'r deunyddiau a ddefnyddiwyd wedi'u hardystio fel rhai o ffynonellau cyfrifol. Mae'r canran ar gyfer cynnwys wedi'i ailgylchu mewn deunyddiau, sef 17.34% hefyd yn rhagori ar ddangosydd gyflawniad allweddol Llywodraeth Cymru (10%).

Mae gyda Llys Cadwyn sgôr 'Ardderchog' o dan gynllun sgorio rheoleiddio cydnabyddedig BREEAM ar gyfer adeiladau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd ac mae ganddo hefyd sawl nodwedd gynaliadwy arloesol. Mae'r rhain yn cynnwys paneli solar ar doeau'r adeiladau i wrthbwyso'r defnydd trydan cyffredinol, ynghyd â thanc dŵr glaw yn y seler sy'n dal ac yn ailgylchu dŵr wyneb i fflysio'r 120 toiled ar draws y tri adeilad, yn hytrach na defnyddio dŵr glân.

Cafodd y datblygiad gwerth £38 miliwn ei gyflwyno gan y Cyngor yn dilyn buddsoddiad £10 miliwn sylweddol wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen Adeiladu'r Dyfodol gyda'n Gilydd Llywodraeth Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Rwy’n falch iawn bod Llys Cadwyn wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau mawreddog Diwydiant Adeiladu Prydain, gan gydnabod llwyddiant y prosiect wrth ddod â bywyd newydd i safle hen ganolfan siopa o'r 1960au, mewn ardal bwysig i’r dref. Mae ein gwaith gyda Willmott Dixon a charfan ehangach y prosiect wedi cyflwyno rhywbeth y gall pob un ohonon ni fod yn falch ohono.

“Gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Llys Cadwyn oedd cyflwyno rhywbeth mwy na’r tri adeilad eu hunain. Mae'r datblygiad bellach yn cynrychioli porth modern i mewn i Bontypridd ac yn garreg filltir i'r dref - gan greu swyddi, denu ymwelwyr a chreu amwynderau i'r lleoliad canolog yma. Roedd y syniad yma o etifeddiaeth yn rhywbeth a rannodd y contractwr Willmott Dixon hefyd, trwy ei waith amhrisiadwy gyda grwpiau ac ysgolion lleol, gan drefnu hyfforddiant a chreu swyddi yn ystod y broses adeiladu.

“Mae Llys Cadwyn wrth wraidd adfywiad Pontypridd, ochr yn ochr â phrosiectau i adfywio adeilad YMCA, Canolfan Gelf y Miwni a hen safle'r Neuadd Bingo sy’n cael ei ddymchwel ar hyn o bryd. Rwy’n dymuno pob lwc i Willmott Dixon yng nghategori gwobrau Prosiect Eiddo Masnachol y Flwyddyn. Rydw i'n falch iawn bod datblygiad Llys Cadwyn yn derbyn y clod haeddiannol.”

Ychwanegodd Graham Munday, Cyfarwyddwr Marchnata Hydrock, a fu'n gyfrifol am enwebu Llys Cadwyn ar gyfer Gwobrau Diwydiant Adeiladu Prydain: ''Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ar restr fer Gwobrau Diwydiant Adeiladu Prydain 2021 ochr yn ochr ag enwebiadau rhagorol eraill sy'n gydnabyddiaeth wych i Hydrock a'r holl bartneriaid dan sylw. O'n safbwynt ni, yr hyn sydd fwyaf pleserus i'w weld yw bod pob un o'n prosiectau ar y rhestr fer yn cael eu gyrru'n llwyr gan y gymuned a'u bod i gyd yn cyd-fynd â'n pwrpas corfforaethol i fod yn rym cyffredinol er daioni."

Wedi ei bostio ar 18/08/21