Mae cynllun mawr i atgyweirio Pont Ynysmeurig yn Abercynon dros yr haf wedi'i gwblhau yn gynt na'r disgwyl. Mae hyn yn cynnwys gwaith ailwynebu cyfagos a gwaith draenio sy'n golygu bod modd i'r B4275 ailagor.
Mae contractwr y Cyngor, Walters Ltd, wedi bod yn gweithio gydol gwyliau'r haf i gwblhau’r gwaith cynnal a chadw hwnnw oedd angen rhoi blaenoriaeth iddo ar y bont, a hithau'n cynnal y brif ffordd drwy Abercynon.
Mae'r gwaith wedi cynnwys ailosod parapetau'r bont, atgyweirio difrod i'r piler canolog sydd wedi'i achosi gan erydiad ac ailbwyntio’r ategwaith a'r piler canolog. Roedd y cynllun hefyd yn cynnwys atgyweiriadau pwysig i wal yr afon gyfagos sy'n cynnal Rhes yr Afon. Mae rhannau o'r strwythur i lawr yr afon o'r bont wedi'u hailbwyntio a'u hailadeiladu, ac mae llystyfiant hefyd wedi cael ei glirio.
Gan fod y gwaith ar y bont a'r wal wedi'u cwblhau yn y bôn erbyn dydd Gwener, 20 Awst, manteisiodd y Cyngor ar y cyfle i wneud gwaith cynnal a chadw ar y draeniau ac ailwynebu'r heol yn gynnar yr wythnos hon. Mae'r holl waith bellach wedi'i gwblhau, ac mae'r B4275 wedi'i ailagor i holl ddefnyddwyr y ffordd.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: "Rwy'n falch fod y gwaith sylweddol hwn dros wyliau'r haf wedi'i gwblhau'n llwyddiannus ac yn gynt na'r disgwyl, a bod gwaith ailwynebu a chynnal a chadw draeniau cyfagos hefyd wedi'i gwblhau yn ogystal ag atgyweirio'r bont.
"Mae'r strwythur yn un o dros 1,500 o bontydd, cwlferi a waliau ar draws Rhondda Cynon Taf y mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i'w cynnal a'u cadw. Cafodd £12.949 miliwn ei ddyrannu i'r maes yma yn rhan o Raglen Gyfalaf y Priffyrdd 2021/22. Rydyn ni hefyd yn parhau i chwilio am gyllid allanol lle y bo'n bosibl, ac yn cynllunio ar gyfer cyflawni gwaith atgyweirio isadeiledd yn dilyn Storm Dennis.
"Mae elfennau mawr y cynllun ar Bont Ynysmeurig wedi'u cwblhau gan ddefnyddio cyllid pwrpasol a glustnodwyd i atgyweirio difrod yn dilyn Storm Dennis, gan gynnwys atgyweirio sgwrfeydd yr ategweithiau a'r piler, ac atgyweirio'r wal gynnal.
"Mae'r gwaith yr haf hwn wedi’n galluogi i gwblhau'r atgyweiriadau a oedd angen eu blaenoriaethu ar Bont Ynysmeurig, er mwyn diogelu'r strwythur ar gyfer y dyfodol. Achosodd y gwaith aflonyddwch nad oedd modd ei osgoi yn lleol oherwydd bod angen cau'r brif ffordd. Hoffwn i ddiolch i drigolion lleol a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrthi inni gwblhau'r gwaith dros y chwe wythnos diwethaf."
Wedi ei bostio ar 25/08/2021