Mae Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru wedi ymweld â'r uned fusnes fodern newydd ym Mharc Coed-elái, i gwrdd â chynrychiolwyr o'r Cyngor a Mallows Family Distillery, a gweld drosto'i hun y cyfleusterau rhagorol sydd ar gael yno.
Ddydd Llun, Awst 23, cyfarfu Vaughan Gething AS â chynrychiolwyr o Mallows, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet y Cyngor ar faterion Menter, Datblygu ac Adfywio ar gyfer ymweliad â'r uned fusnes fodern sydd newydd agor, a gafodd ei chyflawni trwy Brosiect Menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cyngor.
Sicrhaodd y prosiect £2.58 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae'r uned newydd 30,000 o droedfeddi sgwâr yn rhif 3 Parc Coed-elái, wedi'i chodi ar ran o hen safle pwll glo, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac wedi'i glustnodi ar gyfer ei ddatblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol.
Mae'r uned fusnes, sydd hefyd yn cynnwys swyddfeydd, wedi derbyn dyfarniad cadarnhaol yn unol â meini prawf sefydledig BREEAM am ei bod yn defnyddio lefel isel o garbon.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Roeddwn i'n falch o groesawu'r Gweinidog er mwyn iddo weld yr uned fusnes newydd, fodern a thrawiadol ym Mharc Coed-elái, sydd wedi'i chwblhau diolch i fenter ar y cyd rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
"Heb os, bydd yr uned fusnes yn cynnig cyfleuster o'r radd flaenaf i Mallows Family Distillery y gallan nhw ei ddefnyddio i ehangu eu busnes sydd eisoes wedi llwyddo i arwain y farchnad wirodydd. Bydd y bartneriaeth hefyd yn rhoi hwb i'r economi leol yma yn Rhondda Cynon Taf.
"Yn gynharach y mis hwn, rhoddodd y Cyngor ddiweddariad ar brosiect tebyg i ddatblygu unedau busnes modern yn Nhresalem yn Aberdâr, ac mae nifer o ddarpar denantiaid eisoes wedi mynegi eu diddordeb yn y safle."
“Mae hyn eto yn hynod gadarnhaol ac yn dangos bod galw amlwg am seilwaith busnes modern yma yn Rhondda Cynon Taf, yn enwedig yn ein lleoliadau strategol allweddol.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS: "Mae creu swyddi newydd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Roedd hi'n wych, felly, ymweld â Pharc Coed-elái heddiw i weld sut mae'r uned fusnes fodern o'r radd flaenaf wedi cynnig y gofod sydd ei angen ar Mallows Family Distillery i barhau i ehangu a thyfu ei fusnes.
"Mae’r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ar y safle wedi creu cyfleoedd ar gyfer datblygu pellach, a fydd yn helpu i greu swyddi newydd yn yr ardal. Mae gan y safle'r potensial ar gyfer adeiladu 300,000 o droedfeddi sgwâr o ofod busnes sydd wir ei angen, ac rwy'n falch bod nifer o gynigion ar gyfer datblygu pellach yn cael eu hystyried ar hyn o bryd."
Wedi ei bostio ar 23/08/21