Ledled Rhondda Cynon Taf, mae plant a phobl ifainc yr ardal yn mwynhau 'haf o hwyl'. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno prosiect gwerth miliynau o bunnoedd ledled Cymru i gefnogi pobl ifainc i ailafael yn eu bywydau ar ôl y pandemig.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi croesawu Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Julie Morgan, i'r Fwrdeistref Sirol i ymweld â thri phrosiect 'Haf o Hwyl'.
Mae'r plant a'r bobl ifainc yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol a chyfleoedd chwarae wrth i'r Cyngor a Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar eu hanghenion a'u lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol ar ôl 18 mis heriol.
Mae 'Haf o Hwyl' yn brosiect gwerth £5 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae pob un o awdurdodau lleol Cymru yn cymryd rhan ynddo tan 30 Medi. Mae wedi'i anelu at bobl hyd at 25 oed. Mae'r holl weithgareddau am ddim ac fe'u darperir yn Saesneg ac yn Gymraeg, gan ychwanegu at ddarpariaeth gofal plant rheoledig yn yr haf.
Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Faterion Plant: “Roeddwn i'n falch iawn o fynd gyda’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i weld prosiectau Haf o Hwyl y Fwrdeistref Sirol.
“Mae’r pandemig, a’r cyfyngiadau a ddaeth yn ei sgil, wedi cael effaith aruthrol ar fywydau pob un ohonom ni, gyda phlant a phobl ifanc ymhlith y rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf.
“Dydyn nhw ddim wedi gallu mynd i'r ysgol am gyfnodau hir. Mae modd i hyn effeithio ar eu datblygiad cymdeithasol ac ar eu gweithgarwch corfforol, yn ogystal â'u haddysg. Mae llawer hefyd wedi methu â chwrdd â neb wyneb yn wyneb na chymdeithasu â theulu a ffrindiau.
“Mae unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol wedi bod yn broblemau aruthrol dros y 18 mis diwethaf ac mae’r cynllun Haf o Hwyl yn cefnogi ein plant a’n pobl ifainc, gan ganiatáu iddyn nhw gysylltu â’i gilydd a’r byd y tu allan eto trwy ystod o weithgareddau cyffrous.”
Yng nghwmni'r Cynghorydd Christina Leyshon, aeth y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, i weld Sioe Deithiol Chwarae Cymru ar Faes Pentref Beddau, Amser Hwyl i'r Teulu ym Mhorth a digwyddiad Dewch i Chwarae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn Nhonyrefail.
Tri phrif amcan y prosiect 'Haf o Hwyl' yw cefnogi hwyl a'r cyfle i blant a phobl ifainc fynegi eu hunain trwy chwarae; mentrau rhyngweithiol, creadigol a chwarae yn y gymuned ar gyfer pob oedran; ac i ddarparu cyfleoedd i chwarae gyda ffrindiau a chyfoedion.
Roedd yr atyniadau yn y Sioe Deithiol Darpariaeth Chwarae Cymraeg yn ardal Beddau, a drefnwyd gan Glybiau Plant Cymru Kids, ddydd Mawrth (24 Awst) yn cynnwys castell bownsio, celf a chrefft a gweithgareddau chwarae yn seiliedig ar y thema Tân, Dŵr, Daear ac Awyr. Mae Clybiau Plant yn cynnig sesiynau chwarae i blant 5-11 oed mewn ystod o leoliadau yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol dros yr haf.
Mae sesiynau Amser Hwyl i'r Teulu wedi'u creu, eu cydlynu a'u cynnal gan Garfan Datblygu Chwarae'r Cyngor ac yn cynnig cyfleoedd i blant ac aelodau o'u teulu ddod ynghyd i gael profiadau chwarae hwyliog a chyffrous. Mae cyfres o sesiynau dwy awr yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol, gan ddefnyddio lleoedd awyr agored fel parciau a lawntiau mewn pentrefi, i'w gwneud mor hygyrch â phosibl i deuluoedd yn eu cymunedau lleol. Ymhlith y gweithgareddau mae cestyll bownsio, celf a chrefft a rhywfaint o 'chwarae peryglus' fel tostio malws melys a sleidiau dŵr.
Mae'r Ddarpariaeth Ieuenctid Symudol, sy'n cael ei drefnu gan Wasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor (YEPS) yn cynnig gweithgareddau ieuenctid ar y stryd mewn lleoedd cysgodol lle mae modd i bobl ifainc ddod draw, cwrdd â gweithwyr ieuenctid a sgwrsio'n hamddenol gyda ffrindiau a chyfoedion. Mae gan y cerbydau symudol sgriniau mawr a chonsolau gemau, yn ogystal â WI-FI, tabledi a gliniaduron am ddim i'w defnyddio.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Ar ôl colli cyfleoedd dros y 18 mis diwethaf i gymdeithasu a chwarae gyda ffrindiau a chyfoedion, rwy'n falch iawn o weld cymaint y mae plant a phobl ifainc yn mwynhau'r holl wahanol weithgareddau sydd wedi'u trefnu'n rhan o brosiect Haf o Hwyl.
“Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn amddiffyn ac yn meithrin lles ynghyd ag iechyd corfforol ac emosiynol ein plant a'n pobl ifainc. Mae'r achlysuron a welais heddiw yn enghreifftiau gwych o sut y gallwn ni gefnogi'r anghenion yma a helpu pobl ifainc i fagu hyder, ailgysylltu â dysgu ac addysg, ac ymdrechu i gyrraedd eu potensial llawn.
“Rwy’n diolch i bawb sydd wedi helpu i drefnu Haf o Hwyl llwyddiannus."
Mae Haf o Hwyl yn un elfen o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi plant a phobl ifainc i ailafael yn eu bywydau ar ôl y pandemig, gyda gweithgareddau'n cael eu cynnal yn rhan o'r cynllun Adnewyddu a Diwygio gwerth £150 miliwn, a gyhoeddwyd gan Weinidog Addysg Cymru, Jeremy Miles, i gefnogi disgyblion, athrawon a staff.
Wedi ei bostio ar 24/08/2021