Mae staff ysgolion Rhondda Cynon Taf yn edrych ymlaen at groesawu'r disgyblion yn ôl ym mis Medi - ac er bod Cymru yn parhau i fod ar Lefel Rhybudd Sero, mae modd i bawb gymryd camau pwysig er mwyn atal ymlediad Covid-19.
Ers i'r staff a'r disgyblion adael yr ystafell ddosbarth ym mis Gorffennaf, mae Cymru wedi cyrraedd Lefel Rhybudd Sero (ers 7 Awst), sy'n golygu bod yr holl gyfyngiadau wedi'u codi. Yn adolygiad tair wythnos diweddaraf Llywodraeth Cymru ar 27 Awst, roedd cadarnhad na fyddai unrhyw newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i'r rheolau cyfredol. Serch hynny, nodwyd bod nifer yr achosion Covid yn cynyddu ac y dylai pawb gymryd camau cyfrifol o hyd er mwyn atal hyn.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fframwaith ar gyfer dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi 2021, ac mae'r Cyngor wedi cwblhau dogfen ganllaw weithredol ategol ar gyfer ysgolion - bwriad hyn yw sicrhau bod modd i bob ysgol adolygu a diwygio ei hasesiadau risg yng nghyd-destun risgiau ac amgylchiadau lleol.
Bydd modd ailafael mewn llawer o agweddau ar fywyd ysgol o fis Medi ymlaen gan na fydd rhai o'r mesurau blaenorol ar waith mwyach. Er enghraifft, bydd dim angen dal ati i gadw'r disgyblion mewn swigod neu grwpiau cyswllt, na gofyn i ddosbarthiadau cyfan hunanynysu'n rheolaidd. Bydd ysgolion yn rhoi mesurau cymesur ar waith er mwyn lleihau'r risgiau lleol (mae Rhondda Cynon Taf yn wynebu risg 'Cymedrol' ar hyn o bryd yn ôl fframwaith y Llywodraeth). Os bydd y risg yma'n cynyddu, efallai y bydd mesurau ychwanegol eraill yn cael eu rhoi ar waith mewn modd cymesur â'r risg.
Bydd ysgolion yn parhau i roi mesurau ataliol cadarn ar waith i gadw disgyblion a staff yn ddiogel ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i'r ysgol. Bydd angen rhoi'r fframwaith a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar waith cyn gynted â phosibl ym mhob ysgol ac erbyn 20 Medi fan bellaf.
Mae canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer y tymor ysgol newydd yn gofyn i rieni, gwarcheidwaid a disgyblion ddilyn cyngor pwysig yn ymwneud â hunanynysu, profi a mesurau eraill i atal dod â Covid-19 i'r ysgol. Mae'r rhain yn arbennig o bwysig gan fod nifer yr achosion o Covid-19 yn cynyddu yn ein cymunedau ar hyn o bryd. Mae'r mesurau sylfaenol yma yn cynnwys:
- Golchi dwylo'n rheolaidd trwy gydol y diwrnod ysgol.
- Aros gartref a threfnu prawf PCR os oes gyda chi unrhyw symptomau Covid-19, waeth pa mor ysgafn ydyn nhw (yn berthnasol i'r holl staff a disgyblion).
- Cymryd dau brawf llif unffordd - y cyntaf dridiau cyn dychwelyd i'r ysgol a'r ail ar fore'r diwrnod cyntaf yn ôl (yn berthnasol i holl staff ysgolion cynradd, a holl staff a disgyblion ysgolion uwchradd).
- Aros gartref a threfnu PCR os yw canlyniad y prawf yn bositif (yn berthnasol i'r holl staff a disgyblion).
- Parhau i gymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos ac adrodd ar y canlyniadau ar-lein (yn berthnasol i'r holl staff mewn ysgolion cynradd, a'r holl staff a disgyblion mewn ysgolion uwchradd sydd ddim yn dangos symptomau).
- Gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth ysgol a choleg (yn berthnasol i bob disgybl ym Mlwyddyn 7 ac uwch).
Bydd gan ysgolion asesiadau risg trylwyr ar waith i adlewyrchu lefel y risg gyfredol ac i sicrhau bod mesurau diogelu yn cael eu rhoi ar waith. Bydd rhai mesurau lliniaru sydd â'r nod o leihau cysylltiadau agos, helpu i gadw pellter a defnyddio gorchuddion wyneb yn amrywio yn dibynnu ar lefel y risgiau lleol a chenedlaethol. Er nad yw gorchuddion wyneb bellach yn cael eu hargymell fel mater o drefn ar gyfer disgyblion uwchradd, efallai y bydd angen eu defnyddio mewn rhai amgylchiadau a lle mae lefel y risg yn sylweddol.
Mae'r Cyngor yn parhau â'i drefniadau blaenorol mewn perthynas â gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth ysgol uwchradd a choleg. Rhaid i bob disgybl uwchradd heb eithriad rhesymol wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth ysgol.
Rhaid i ddisgyblion sy'n teithio i'r ysgol gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb hefyd, fel sy'n ofynnol ledled Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Dylai ysgolion ailgydio yn yr amseroedd dechrau a gorffen arferol. Serch hynny, gofynnwn i rieni/gwarcheidwaid osgoi ymgynnull mewn niferoedd mawr ar safleoedd ysgol neu mewn mannau cyfagos.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant: "Bydd ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf yn ailagor yn fuan er mwyn croesawu ein disgyblion yn ôl yn dilyn gwyliau'r haf. Mae hyn yn dilyn canlyniadau Safon Uwch a TGAU rhagorol a gafodd disgyblion o bob cwr o'r Fwrdeistref Sirol ym mis Awst, gan adlewyrchu eu hymroddiad a'u hymrwymiad arbennig yn ystod blwyddyn heriol iawn.
“Ers diwedd tymor yr haf y llynedd, mae cyfyngiadau Covid wedi cael eu llacio'n sylweddol ledled Cymru, ac rydyn ni bellach ar Lefel Rhybudd Sero. Mae hyn yn golygu bod modd llacio'r cyfyngiadau mewn ysgolion, fel sydd wedi'i nodi yn fframwaith Llywodraeth Cymru ac yng nghanllawiau'r Cyngor.
“Felly, byddwn yn cael gwared ar rai o’r rheolau o’r llynedd, gan gynnwys'swigod' disgyblion a gofyn i grwpiau mawr o ddisgyblion hunanynysu. Bydd yr ysgolion yn gwneud penderfyniadau ynghylch rheolau eraill, megis gwisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd a rennir, yn unol â'u hamgylchiadau nhw. Serch hynny rhaid dal ati i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth ysgol.
“Hoffwn ddiolch i staff, disgyblion, rhieni a gwarcheidwaid unwaith eto am eu cydweithrediad wrth i ni barhau i ymateb i'r pandemig newidiol yma. Mae llacio cyfyngiadau ar ddechrau tymor yr hydref yn newyddion cadarnhaol iawn, ac yn gam mawr yn ôl tuag at fywyd ysgol arferol, ond mae'n bwysig cofio bod nifer yr achosion Covid-19 yn codi eto.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno set sylfaenol o fesurau y dylai staff a disgyblion eu rhoi ar waith fel mater o drefn er mwyn helpu i atal Covid rhag dod i mewn i’n hysgolion. Mae'r rhain yn amrywio o olchi dwylo'n rheolaidd i gymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos ac aros gartref os oes gyda chi unrhyw symptomau COVID ysgafn neu'n cael canlyniad prawf positif."
Dyma ddolen i'r cyngor a'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i atal COVID-19 rhag ymledu mewn safleoedd addysg -
yma.
Wedi ei bostio ar 03/09/21