Skip to main content

Y Newyddion Diweddaraf am y Bont Wen

Yn dilyn gwaith atgyweirio ac asesiad manwl o strwythur y bont, mae modd i Gyngor Rhondda Cynon Taf gadarnhau ei fod yn bwriadu ailagor y bont unwaith fydd mân waith i seilwaith yr arwyneb a'r goleuadau wedi'i gwblhau. Bydd dyddiad ar gyfer ailagor y bont yn cael ei gadarnhau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae modd i’r bont yn gynnal llwythi tebyg i'r rhai yr oedd hi'n eu cludo cyn iddi gael ei difrodi gan Storm Dennis. Mae hyn yn golygu bydd y bont yn ailagor gyda therfyn pwysau o 7.5 tunnell a bydd dim newidiadau i hawliau priffordd cerbydau, cerddwyr na beicwyr.

Mae cynigion ar gyfer treialon atgyweirio'r strwythur yn parhau mewn cysylltiad agos â CADW. Dydyn ni ddim yn rhagweld unrhyw anghyfleustra sylweddol i ddefnyddwyr tra bydd y gwaith yma'n mynd rhagddo.

Bydd y treialon atgyweirio yn helpu i ddatblygu'r rhaglen atgyweirio sylweddol i ddiogelu'r bont ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni'n rhagweld bydd angen cau'r ffordd ar gyfer y gwaith sylweddol, sy'n debygol o gael ei gynnal yn ystod 2022.

Fel bob amser, byddwn ni'n ceisio lleihau anghyfleustra yn ystod y gwaith yma wrth i ni weithio'n agos gyda CADW i sicrhau dyfodol hirdymor y strwythur unigryw yma.

Wedi ei bostio ar 11/08/2021