Mae'n bleser gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gyhoeddi bod ei Raglen i Raddedigion hynod boblogaidd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn darparu cyfleoedd i gael swyddi o safon ac mae ei Raglen i Raddedigion yn gychwyn perffaith tuag at yrfa lwyddiannus mewn llawer o wahanol feysydd.
Mae 21 o swyddi i raddedigion ar gael yn y rhaglen ddiweddaraf. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli data, gwasanaethau adeiladu, cyfrifeg, peirianneg sifil a throsglwyddo i gerbydau trydan.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Maureen Webber: "Unwaith eto, rwy’n falch iawn i gyhoeddi lansiad ein Rhaglen ddiweddaraf i Raddedigion ar gyfer 2022.
“Mae ein Rhaglen i Raddedigion yn hynod lwyddiannus bob blwyddyn, gydag ymgeiswyr safon uchel yn cael eu cydnabod ac yn mynd ymlaen i ymgymryd â gyrfaoedd gyda ni.
“Ac yntau'n un o’r cyflogwyr mwyaf yn Rhondda Cynon Taf, mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd creu swyddi gwerthfawr â chyflog da, gyda digon o gyfleoedd dysgu i’n trigolion.
“A ninnau'n awdurdod lleol, rydyn ni'n darparu ystod eang o wasanaethau i’r cyhoedd ac mae ein cyfleoedd diweddaraf i raddedigion yn adlewyrchu hyn, gyda swyddi ar gael mewn sawl maes, sy'n amrywio o gymunedau diogel, peirianneg seiber a sifil, dadansoddi data a gwybodaeth a throsglwyddo i gerbydau trydan.
“Mae ein Rhaglen yn rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ddatblygu fel rheolwyr y dyfodol, ac mae'r Cyngor yma'n falch o allu darparu'r cyfleoedd yma i'w drigolion.
“Gobeithio y bydd y gwaith hanfodol a’r gwasanaeth cyhoeddus y mae ein staff yn eu cynnal o ddydd i ddydd yn ysbrydoli llawer o raddedigion i ystyried ymuno â ni a gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf.”
Mae gan y Cyngor hanes cryf o ddarparu cyfleoedd cyflogaeth trwy ystod o gynlluniau cyflogaeth ac mae bron i 70 o raddedigion wedi cael eu cyflogi ers 2017.
Mae'r ystod enfawr o gyfleoedd sydd ar gael bob blwyddyn bob amser yn arwain at nifer fawr o geisiadau, ac mae poblogrwydd y rhaglen yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae'r swyddi i raddedigion yn lleoliadau gwaith cyfnod penodol (2 flynedd) lle bydd modd cael cyfle i ddatblygu sgiliau rheoli mewn sefydliad dynamig ac amrywiol, yn ogystal â chyflawni cymhwyster Rheoli Prosiectau Lefel 4. Mae llawer o raddedigion o flynyddoedd blaenorol wedi cael swyddi rheoli yn y Cyngor.
Dyma'r swyddi sydd ar gael i raddedigion yn 2022:
- Rheoli Data
- Cyfranogiad (Gwasanaethau i Blant)
- Cymunedau Diogel
- Rheoli Prosiectau (Gwasanaethau Adeiladu)
- Cyfrifeg
- Caffael (Sero Net)
- Seiber a Seilwaith
- Dadansoddi Gwybodaeth am Ddata a Busnes
- Peirianneg Sifil (Traffig)
- Peirianneg Sifil (Prosiectau Strategol)
- Peirianneg Sifil (Draenio)
- Peirianneg Sifil (Gofal y Strydoedd)
- Trosglwyddo i Gerbydau Trydan
- Dadansoddi Data a Gwybodaeth
- Datblygu a Thrawsnewid (Gwasanaethau i Blant)
- Datblygu a Thrawsnewid (Gwasanaethau i Oedolion)
Mae trefniadau ar waith i gynnal y cyfweliadau a'r asesiadau angenrheidiol yn y modd mwyaf diogel posibl sy'n cadw at holl ganllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae modd ymgeisio ar gyfer Rhaglen i Raddedigion Cyngor Rhondda Cynon Taf rhwng heddiw a 18 Chwefror 2022. Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen a sut mae cyflwyno cais? Os felly, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/RhagleniRaddedigion
Wedi ei bostio ar 05/01/22