Skip to main content

Cyngor i fabwysiadu'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) wedi'i ddiweddaru

Welsh in Education Strategic Plan agreed by Cabinet (WELSH)

Wedi i'r Cabinet ystyried adborth o ymgynghoriad diweddar, mae'r aelodau wedi cytuno i'r Cyngor fabwysiadu’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) – gan osod targedau uchelgeisiol i gynyddu nifer y disgyblion cyfrwng Cymraeg dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae'r WESP yn strategaeth i gefnogi dull y Cyngor i gynyddu nifer y disgyblion Blwyddyn 1 sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd y cynllun yn parhau hyd at, ac yn cynnwys, 2032. Cynhaliwyd ymgynghoriad diweddar ar y cynllun, a phrif amcan y cynllun diweddar yw cynyddu canran y disgyblion Blwyddyn 1 sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg rhwng 8% a 12%. Byddai'r cynnydd hwnnw’n cyfateb i gynnydd o 506 o ddisgyblion (2019), i rhwng 720 ac 825 o ddisgyblion.

Ochr yn ochr â'r prif darged yma, mae'r WESP 10 mlynedd hefyd yn cynnwys nifer o ddeilliannau penodol. Mae'r deilliannau yma'n amrywio o sicrhau rhagor o ddisgyblion mewn dosbarthiadau meithrin a derbyn, i well darpariaeth ar gyfer disgyblion cyfrwng Cymraeg ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, rhagor o ddisgyblion yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u hasesu yn Gymraeg a chynyddu nifer y staff sy'n gallu addysgu'r Gymraeg fel pwnc.

Cafodd adroddiad ei rannu â'r Cabinet ddydd Llun, 13 Rhagfyr, yn dilyn y cyfnod helaeth o ymgynghori a gynhaliwyd dros wyth wythnos rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2021. Roedd atodiadau'r adroddiad yn cynnwys trosolwg o'r adborth a dderbyniwyd yn yr ymgynghoriad, ynghyd â'r WESP arfaethedig – mae modd gweld y dogfennau yma ar wefan y Cyngor.

Roedd ymgysylltu â grwpiau allweddol yn agwedd bwysig ar yr ymgynghoriad. Yn gyntaf, trafododd Grŵp Llywio’r Gymraeg ddrafft y WESP ar 19 Gorffennaf a’r WESP wedi’i ddiweddaru ar 8 Rhagfyr. Yn yr un modd, bu'r Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc yn trafod y dogfennau ar 13 Hydref ac 8 Rhagfyr. Mae adborth gan bob Pwyllgor wedi'i gynnwys yn adroddiad y Cabinet.

Defnyddiwyd arolwg ar-lein hefyd, wedi ei hyrwyddo ar wefan y Cyngor a'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae dadansoddiad cynhwysfawr o'r ymatebion wedi'i gynnwys yn adroddiad y Cabinet, ond mae'r prif ffigurau yn dangos bod 73.7% o'r ymatebwyr wedi cytuno i ddull arfaethedig y Cyngor o gynyddu canran y disgyblion cyfrwng Cymraeg sydd mewn dosbarth Meithrin, a 68.4% wedi cytuno â'r dull sy'n ymwneud â disgyblion mewn dosbarth Derbyn.

Yn gyfan gwbl, roedd 65.8% yn cytuno â sut mae'r Cyngor yn cynnig sicrhau bod disgyblion yn gwella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam addysg i un arall. Cytunodd 68.4% â'r dull i annog mwy o ddisgyblion i astudio'r Gymraeg ar gyfer cymwysterau sy'n cael eu hasesu.

Yn olaf, cytunodd 65.8% â sut mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn bwriadu cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a chytunodd 73.7% â'r dull o gynyddu nifer y staff addysgu sydd yn gallu addysgu'r Gymraeg fel pwnc, yn ogystal â thrwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn y cyfarfod ddydd Llun, bu Aelodau'r Cabinet yn ystyried yr holl adborth ymgynghori a chytuno i'r Cyngor fabwysiadu'r WESP arfaethedig.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Rhaid i bob Cyngor yng Nghymru baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP), sy'n cynnwys cynigion a thargedau i wella cynllunio a safonau addysg ac addysgu cyfrwng Cymru. Adroddwyd fersiwn wedi'i diweddaru o'r WESP i'r Cabinet ym mis Gorffennaf, a chytunodd yr Aelodau i ymgynghoriad helaeth ar y strategaeth 10 mlynedd.

“Targed canolog y WESP wedi'i ddiweddaru yw cynyddu canran y disgyblion Blwyddyn 1 sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg rhwng 8% a 12%, yn ystod cyfnod gweithredu’r strategaeth. Mae hefyd yn gosod nodau wedi'u targedu sy'n ymwneud â chynnydd yn nifer yr athrawon sydd â'r gallu i addysgu yn Gymraeg, nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau Meithrin a Derbyn, a gwella'r ddarpariaeth gyfredol ar gyfer y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

“Mae buddsoddi mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan allweddol o'n dull – rydyn ni ar hyn o bryd yn gwella'r cyfleusterau a chynyddu capasiti yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun. Dechreuodd y gwahanol gynlluniau dros yr haf, a byddan nhw'n sicrhau gwelliannau gwerth £4.5 miliwn a £12.1 miliwn.

“Yn ddiweddar, ymgynghorodd y Cyngor ar gynlluniau gwerth £12.5 miliwn ar gyfer adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen erbyn 2024. Mae'r Cabinet hefyd wedi cytuno ar gynigion cychwynnol i foderneiddio ac ailosod adeiladau yn Ysgol Llanhari, a chreu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £85 miliwn gan Lywodraeth Cymru i'w gyflawni mewn blynyddoedd ariannol yn y dyfodol.

“Pwrpas y WESP yw rhoi cynllun ffurfiol ar waith i gyflawni gwelliannau wedi'u targedu ar draws ein darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a chael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifainc o bob oed sy'n dysgu yn Gymraeg. Ddydd Llun, bu'r Cabinet yn ystyried yr adborth ymgynghori gan grwpiau allweddol, rhanddeiliaid a'r cyhoedd, ar sut rydyn ni'n anelu at gyflawni'r gwelliannau yma – ac mae'r Aelodau wedi cytuno i'r Cyngor fabwysiadu'r strategaeth yn ffurfiol."

Wedi ei bostio ar 16/12/2021