Skip to main content

Buddsoddi pellach ym mharc Pontypridd trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri

The bandstand at Ynysangharad War Memorial Park will be refurbished

Ym mis Ionawr 2022 bydd ymwelwyr â Pharc Coffa Ynysangharad yn sylwi ar waith adnewyddu'r seindorf a'r ardd isel, a darparu canolfan weithgareddau newydd. Bydd y gwaith yn parhau drwy gydol 2022.

Bydd y gwaith sylweddol gwerth £1.9 miliwn yn cychwyn yn y parc poblogaidd ym Mhontypridd ddydd Mawrth, 4 Ionawr (2022). Bydd y gwaith wedi'i ariannu gan gyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a chyfraniadau gan gyllid Trawsnewid Trefi y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

Bydd y prosiect yn gwella ac adnewyddu nodweddion treftadaeth y parc, sy'n barc rhestredig Gradd II, er mwyn denu rhagor o ymwelwyr a chynnig cyfleoedd angenrheidiol i'r gymuned gymryd rhan, ymgysylltu a dysgu. GKR Maintenance & Building Co. yw contractwr y Cyngor a fydd yn cyflawni'r prosiect. Mae'r gwaith yn cynnwys:

  • Canolfan hyfforddi/gweithgareddau newydd - Canolfan Calon Taf
  • Adnewyddu'r safle seindorf
  • Adnewyddu'r ardd isel
  • Arwyddion newydd
  • Cynllun gweithgareddau i ddenu sylw’r gymuned yn ystod y gwaith ac wedi i'r gwaith orffen

Bydd y gwaith cychwynnol yn y Flwyddyn Newydd yn cynnwys y contractwr yn sefydlu'r safle, ac yn sefydlu depo/ardal gompownd ger cae'r berllan a'r maes parcio.

Efallai bydd y gwaith yn y parc yn achosi rhywfaint o aflonyddwch nad oes modd ei osgoi i ymwelwyr drwy gydol 2022, gan y bydd y contractwr yn cau ardaloedd y gwaith er mwyn sicrhau diogelwch. Fodd bynnag, mae disgwyl i’r gwaith aflonyddu cyn lleied â phosibl, ac ni fydd y prosiect yn effeithio ar oriau agor tymhorol y parc.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Rwy’n falch iawn y bydd gwaith i gyflawni’r ail fuddsoddiad mawr yma ym Mharc Coffa Ynysangharad yn cychwyn yn y Flwyddyn Newydd - i gyflawni gwaith gwerth £1.9 miliwn a fydd yn amddiffyn nodweddion treftadaeth y parc. Mae'r Cyngor yn ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth, gan olygu bod modd inni gyflawni'r prosiect yma er budd cymuned Pontypridd.

“Drwy gydol 2021, mae’r Cyngor wedi cyflwyno buddsoddiad ar wahân gwerth £1.199 miliwn wrth elwa o gyllid sylweddol gan Barc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae'r cyllid hwnnw wedi darparu cyfleuster lle newid llawn sydd wedi'i neilltuo ar gyfer defnyddio pobl ag anabledd yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Mae llwybrau troed hefyd wedi'u hadnewyddu ar draws y parc, ac mae goleuadau stryd LED wedi'u huwchraddio.

“Bydd y gwaith cychwynnol a fydd yn cychwyn ym mis Ionawr yn sefydlu compownd safle ar gyfer cyfres o brosiectau dros y misoedd nesaf - gan gynnwys ailwampio’r seindorf a’r ardd isel. Bydd hyn yn adfer rhai o ardaloedd treftadaeth y parc sydd wedi golygu bod gan y parc statws Rhestredig, a hefyd yn sicrhau bod y parc yn ganolbwynt i'r gymuned trwy ddarparu canolfan hyfforddi/gweithgareddau newydd.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynnydd drwy gydol 2022 ar draws y rhaglen fuddsoddi ddiweddaraf. Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i gontractwr i sicrhau bod cyn lleied o aflonyddwch â phosibl, fel bod modd i ymwelwyr barhau i fwynhau'r parc cyhoeddus tra bod y gwelliannau pwysig yma gwerth £1.9 miliwn yn cael eu gwneud."

Wedi ei bostio ar 21/12/2021