Skip to main content

Cadw gyrwyr i fynd, ddydd a nos

A hithau bellach yn aeaf a'r boreau'n oerach, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwneud popeth o fewn ei allu i gadw'r prif ffyrdd ar agor a sicrhau bod modd i bawb ddal ati i deithio.

Dros nos, pan mae'r ffyrdd yn dawelach a'r rhan fwyaf ohonoch chi'n glyd yn eich gwlâu, mae cerbydau graeanu'r Cyngor yn teithio ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol, dros 125km o brif lwybrau'r ardal!

Mae Carfan Ymateb Tu Allan i Oriau 24/7 365 Cyngor Rhondda Cynon Taf yn teithio ledled y Fwrdeistref Sirol pryd bynnag bydd disgwyl tywydd garw, gan gynnwys dros gyfnod y Nadolig, ar Noswyl Nadolig, Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan os oes angen.

Mae'n bosib bydd yn rhaid trin y prif rwydwaith ar draws y Fwrdeistref Sirol, trin meysydd parcio'r Cyngor a thrin llwybrau uwch, yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr amodau disgwyliedig

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Gofal y Strydoedd:

“Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd y tywydd yn troi’n llawer oerach, gyda’r risg uwch o eirlaw, eira ac amodau rhewllyd. Ond, bydd carfanau Gofal Stryd a Phriffyrdd y Cyngor yn gwneud eu gorau i gynnal ein priffyrdd i fodurwyr, yn aml yn yr amodau mwyaf heriol trwy gydol y cyfnod.

“Bydd ein criwiau allan yn gweithio pryd bynnag y bo angen, gan gynnal a chadw’r llwybrau ar draws Rhondda Cynon Taf, ddydd a nos, yn aml tra bod llawer ohonon ni'n cysgu'n sownd ar benwythnosau, a thrwy gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd os oes angen.

"Fodd bynnag, er bod ein priffyrdd yn cael eu trin â halen, mae hi'n bwysig bod gyrwyr yn cofio nad yw halen ei hun yn ddigon. Rhaid i yrwyr hefyd bwyllo a gyrru'n ofalus, gan gofio am gyflwr y ffordd pan fydd y tywydd yn aeafol.

"Dydy'r ffaith ein bod ni wedi trin y ffyrdd ddim yn golygu nad oes modd i geir lithro arnyn nhw, ac un o'r prif broblemau y mae ein staff yn ei wynebu bob blwyddyn yw pan fydd cerbydau'n goddiweddyd ein lorïau wrth iddyn nhw drin y ffyrdd.

"Rydyn ni'n annog pob gyrrwr i arafu a bod yn amyneddgar, gan gydnabod y gwaith mae ein criw yn ei wneud ar eu rhan wrth drin y rhwydwaith." Gofynnwn hefyd i fodurwyr fod yn ystyriol o ran ble maen nhw’n parcio ar yr adeg yma o'r flwyddyn. Gofynnwn ichi osgoi parcio dwbl os yn bosibl a chadw cyffyrdd yn glir er mwyn i'n cerbydau mawr allu mynd heibio. ”

 Mae fflyd y Cyngor yn cynnwys 10 cerbyd graeanu rheng flaen, 10 cerbyd yn yr ail reng, gyda rhawiau eira ar gael, dau gerbyd llwytho eira, 13 o gerbydau cyffredinol ac 8 cerbyd 4x4. Hefyd, mae tua 40 o gerbydau tipio ar gael i'w defnyddio mewn argyfyngau yn ystod tywydd garw.

"Mae'r holl gerbydau'n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf ynglŷn â thaenu halen, yn ogystal â meddalwedd olrhain a systemau monitro halen, sy'n fodd i'r Cyngor raglennu'r cerbydau yn fanwl gywir, gan ddibynnu ar y llwybr a'r amodau sydd ohoni. "Bydd hyn yn golygu bod modd defnyddio’r halen yn fwy effeithlon ac effeithiol, lleihau costau a'r effaith ar yr amgylchedd y mae'r halen yn ei chael ar ein Bwrdeistref Sirol.”

Mae'r Cyngor yn cynnal ei Wasanaeth Gaeafol blynyddol rhwng 1 Hydref a 30 Ebrill. Mewn taith taenu halen er mwyn atal peryglon ar y prif lwybrau, bydd staff yn teithio 267 o filltiroedd – sy'n cyfateb i daith o Bontypridd i ddinas Birmingham ac yn ôl!

Caiff rhwng 50 a 70 tunnell o halen ei daenu, gan ddibynnu ar ba mor arw yw'r tywydd.

Roedd y gaeaf diwethaf yn oer ac yn wlyb, ond doedd fawr ddim eira. Aeth y Cyngor ati i gyflawni 111 o weithgareddau oedd yn ymwneud â thywydd gaeafol, llenwi 1,200 o finiau hunanwasanaeth a defnyddio 6,300 o halen.

Er mwyn i'r halen fod yn effeithiol, rhaid i'r halen gael ei osod ar y ffordd gan ein cerbydau, a chael ei wasgu gan gerbydau eraill, sy'n peri iddo doddi. Mae halen yn llai effeithiol pan fo'r tymheredd yn is na -5C.

Rydyn ni'n darparu biniau halen hunanwasanaeth er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd drin priffyrdd a llwybrau cyhoeddus. Peidiwch â'u defnyddio i drin tramwyfeydd/lleiniau parcio preifat. Yn ogystal â hynny, cofiwch gysylltu ag aelodau o'r teulu, ffrindiau neu gymdogion sy'n oedrannus ac yn fregus er mwyn sicrhau eu bod nhw'n ddiogel.

Mae ymgyrch Cofiwch Eich Cymdogion yn annog preswylwyr i helpu'i gilydd, os yw'n ddiogel gwneud hynny, yn enwedig yn ystod cyfnodau o eira trwm. Mae'r ymgyrch yn hyrwyddo nifer o gamau bach mae modd i 'gymdogion da' eu gwneud yn ystod cyfnod o dywydd garw.

Yn ystod misoedd y gaeaf, rydyn ni'n cynghori gyrwyr i wylio a gwrando ar ragolygon tywydd ar y teledu a'r radio, ac i ddilyn cyfrifon Twitter a Facebook y Cyngor. Cofiwch hefyd neilltuo digon o amser i deithio.

Rydyn ni hefyd yn gofyn i drigolion gadw llygad ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion a gwasanaethau lleol.

Darllenwch Gynllun Gweithredol Gwasanaeth Gaeaf y Cyngor 

I nodi unrhyw broblemau ar ôl 5pm neu ar y penwythnos, ffoniwch Garfan y Tu Allan i Oriau Arferol y Cyngor ar 01443 425011.

Wedi ei bostio ar 13/12/2021