Skip to main content

Caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd y Porth

Planning permission is granted for a new Extra Care facility in Porth

Mae'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu wedi rhoi caniatâd cynllunio llawn i Linc Cymru (Linc) i adeiladu cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd sbon yn y Porth. Bydd y cyfleuster wedi'i leoli ar hen safle Cartref Gofal Dan y Mynydd.

Mewn adroddiad i gyfarfod y Pwyllgor ddydd Iau, 16 Rhagfyr, roedd Swyddogion yn argymell cymeradwyo cais Linc. Mae'r cais yn cwmpasu'r cyfleuster pedwar llawr sy'n cynnwys 60 o fflatiau, ynghyd â gwaith cysylltiedig yn ymwneud â thirlunio, draenio cynaliadwy, mynediad a darpariaeth barcio.

Bydd yr adeilad yn cynnwys llawr gwaelod is gydag ardal fwyta, lolfa, salon gwallt, ystafell weithgareddau, cegin, ystafell olchi dillad, canolfan Gofal Oriau Dydd, swyddfeydd, ystafell ymolchi â chymorth, ystafell blanhigion a phum fflat - tra bydd y fflatiau sy'n weddill yn cael eu rhannu ar draws y llawr gwaelod uchaf, llawr cyntaf ac ail lawr. Bydd gan chwe fflat ddwy ystafell wely, â'r gweddill ag un ystafell wely.

Bydd y cyfleuster Gofal Ychwanegol yn cael ei adeiladu ar hen safle'r cartref gofal, sydd heb ei ddefnyddio ers cryn amser. Cwblhawyd gwaith i ddymchwel yr adeiladau i lefel y ddaear ar 10 Rhagfyr. Bydd yr adeilad newydd yn cadw mynediad cerbyd y safle, ond bydd y mynediad yn cael ei ail-gyflunio ychydig, oddi ar Goedlan Bronwydd. Yn gyfan gwbl, bydd 33 o leoedd parcio yno, ynghyd â llefydd i storio beiciau a bygi yn allanol.

Nododd yr adroddiad bod y cais yn ehangu'r defnydd presennol o'r safle - cyfleuster preswyl sy'n benodol i unigolyn. Bydd y datblygiad hefyd yn darparu cyfleuster mawr ei angen ar gyfer y Fwrdeistref Sirol sy'n pontio'r bwlch rhwng byw gartref ac mewn cartref gofal traddodiadol.

Mae cyfleusterau Gofal Ychwanegol yn darparu llety modern â chymorth 24 awr ar gyfer anghenion sydd wedi'u hasesu pobl hŷn, gan roi'r modd iddyn nhw fyw mor annibynnol â phosibl. Mewn partneriaeth â Linc, bydd y Cyngor yn darparu 300 o leoedd ar draws pum datblygiad newydd - ar ben y cyfleuster Tŷ Heulog presennol yn Nhonysguboriau yn rhan o strategaeth i foderneiddio gofal preswyl i'r henoed.

Y cyfleuster newydd yn y Porth fydd y trydydd o'r datblygiadau newydd, gyda Maes-y-ffynnon (Aberaman) yn agor yn haf 2020 ac yna Cwrt yr Orsaf (Pontypridd) a groesawodd ei breswylwyr cyntaf ym mis Hydref 2021 yn agor ychydig cyn hynny.

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau i Oedolion: “Rwy’n falch iawn bod Linc bellach wedi derbyn caniatâd cynllunio llawn ar gyfer y cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd y Porth, sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â’r Cyngor fel rhan o’n strategaeth i foderneiddio ac ehangu’r ddarpariaeth gofal preswyl i bobl hŷn. Bydd y cyfleuster newydd yn y Porth yn darparu 60 gwely ac yn rhan o'n hymrwymiad ni i greu 300 o welyau ychwanegol ar draws Rhondda Cynon Taf mewn pum datblygiad newydd.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld buddion Gofal Ychwanegol trwy gyflawni ein dau ddatblygiad cyntaf yn Aberaman a Phontypridd - gyda’r preswylwyr hynny ym Maes-y-ffynnon a Chwrt yr Orsaf yn byw mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf ac yn mwynhau’r gymuned a grëwyd ym mhob adeilad. Mae modd dibynnu ar Ofal Ychwanegol am gefnogaeth 24/7 ar gyfer anghenion sydd wedi'u hasesu, tra bod y gefnogaeth yma hefyd yn annog preswylwyr i gymryd rhan mewn rhyngweithio ystyrlon yn y gymuned ehangach.

“Mae wedi bod yn wythnos gyffrous i brosiect Gofal Ychwanegol y Porth, wrth orffen dymchwel hen adeiladau Cartref Gofal Dan y Mynydd ar 10 Ragfyr, ac yna Linc yn cael caniatâd cynllunio llawn ar gyfer y cyfleuster newydd ddydd Iau. Byddwn ni'n sicrhau bod y gymuned yn effro i'r holl waith â chamau nesaf y prosiect, gan arwain at y gwaith cyntaf yn dechrau ar y safle.”

Meddai Sian Diaz, Cyfarwyddwr Datblygu yn Linc: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu cyfleuster gofal ychwanegol o’r radd flaenaf gyda 60 o fflatiau ar safle hen Gartref Gofal Dan y Mynydd. Mae'r dyluniad sydd wedi'i gymeradwyo yn ceisio creu amgylchedd fydd yn golygu bod modd i breswylwyr fwynhau byw'n annibynnol a bod yn rhan o gymuned fywiog. 

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at gam nesaf y datblygiad cyffrous yma a pharhau i weithio'n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.”

Wedi ei bostio ar 21/12/21