Skip to main content

Paratoi ar gyfer cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf

Rhondda Cynon Taf will host the National Eisteddfod in 2024

Mae'r Cabinet wedi derbyn diweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf yn 2024. Ffocws y diweddariad yw ymgysylltu â'r gymuned.

Mae’r adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Llun, 13 Rhagfyr, yn nodi'r dull sy'n cael ei fabwysiadu a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynllunio mewn cymunedau lleol i sicrhau bod yr Eisteddfod yn un llwyddiannus – nid yn unig cyn ac yn ystod yr ŵyl, ond hefyd i sicrhau effaith gadarnhaol sylweddol yn ei sgil.

Penododd y Cyngor swyddog prosiect yn 2019, i weithio'n agos gyda Swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol i hyrwyddo'r ŵyl ac ymgysylltu â chymunedau. Mae Swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol wedi llwyddo i wneud cais am arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect a fydd yn treialu strategaeth ymgysylltu â'r gymuned yn RhCT. Bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar themâu diwylliant, iaith a threftadaeth er mwyn dod â phobl ynghyd trwy'r Eisteddfod – gan arddangos hanes unigryw Rhondda Cynon Taf. Bydd y prosiect, sy'n cynnwys penodi Swyddog Datblygu'r Gymuned, yn datblygu cyfres o achlysuron a gweithgareddau yn y gymuned i ennyn diddordeb pobl leol.

Bydd Cam 1 y prosiect yn targedu pobl ifainc 16-25 oed, gan wneud y Gymraeg a'r Eisteddfod yn berthnasol y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Bydd pobl hŷn hefyd yn cael eu cynnwys yn yr ymgysylltiad yma. Bydd pum achlysur yn dathlu ein treftadaeth, ein hiaith a'n diwylliant yn cael eu cynnal yn ystod chwe mis cyntaf 2022.

Ar Gam 2, bydd pum achlysur arall yn cael eu cynnal yn hwyrach yn y flwyddyn, a fydd yn bwydo i mewn i Strategaeth Gymunedol Genedlaethol newydd yr Eisteddfod.

Mae fforwm cymuned wedi'i sefydlu hefyd, a chafodd ei gyfarfod agoriadol ei gynnal ar 3 Tachwedd, 2021.

Mae cyflwyniadau gan Brif Swyddog Gweithredol yr Eisteddfod Genedlaethol a staff Grŵp Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg y Cyngor a'r Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol, hefyd wedi bod yn llwyddiannus. Roedd y rheiny sy'n gysylltiedig â'r gwaith yn awyddus iawn i weithio gydag ystod eang o swyddogion, Aelodau Etholedig, a sefydliadau i sicrhau ymgysylltiad â gwahanol gymunedau a grwpiau.

Mae Swyddog yr Eisteddfod y Cyngor a Swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn cydweithio i gynnal gwaith ymchwil a rhannu gwybodaeth ymhlith grwpiau cymuned, yn ogystal â gweithio gyda'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid i drafod y ffordd orau i ymgysylltu â phobl ifainc.

Mae'r Swyddogion hefyd wedi trefnu cyfarfodydd gyda gwasanaethau'r Cyngor i drafod ystod eang o bethau sydd i'w hystyried (gan gynnwys Grŵp Seilwaith, a fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2021), cysylltu ag aelodau o'r gymuned sy'n awyddus i hyrwyddo'r Eisteddfod, a chysylltu â Swyddogion mewn Awdurdodau Lleol eraill ( Sir Fynwy er enghraifft) i ddysgu o'u profiad o gynnal yr ŵyl.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol: “Cafodd adroddiad pwysig ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Llun mewn perthynas â’r gwaith cyfredol sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni, wrth i ni wneud y paratoadau gorau ar gyfer cynnal Eisteddfod Genedlaethol 2024 yma yn Rhondda Cynon Taf – wrth i ni anelu at gyrraedd cymaint o bobl â phosibl cyn, yn ystod, ac ar ôl yr ŵyl.

“Un o elfennau allweddol ein dull gweithredu yw ymgysylltu â’r gymuned, ac er y bu problemau wrth wneud hyn yn uniongyrchol oherwydd y cyfyngiadau pellter cymdeithasol, mae gwaith paratoi a thrafodaethau allweddol wedi parhau. Os bydd modd, o ystyried cyfyngiadau posibl yn y dyfodol, bydd pum achlysur cymuned yn cael eu cynnal erbyn Ebrill 2022 i ddathlu treftadaeth Rhondda Cynon Taf fel cam cyntaf prosiect 'Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol' yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Roedd yr adroddiad i'r Cabinet hefyd yn trafod y nod o greu rhodd fydd yn parhau yn Rhondda Cynon Taf, gan ganolbwyntio ar sawl thema allweddol. Ei nod yw creu rhodd gymunedol trwy annog rhagor o ddigwyddiadau Cymraeg a dwyieithog yn lleol, rhodd ddiwylliannol trwy hyrwyddo hanes Rhondda Cynon Taf ar lwyfan cenedlaethol, a rhodd ieithyddol gyda rhagor o bobl yn dewis dysgu Cymraeg. Mae angen hefyd sicrhau rhodd gynhwysiant, gyda phobl o bob cefndir – p'un a ydyn nhw'n siarad Cymraeg ai peidio – yn teimlo'n fwy hyderus am y Gymraeg a diwylliant Cymru, sy'n eiddo i bawb.

“Rwy’n hynod falch ein bod ni'n cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2024, gan ddod â dathliad o ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg i'r Fwrdeistref Sirol i bawb eu mwynhau. Bydd sawl adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ar y cynnydd yn ystod y misoedd nesaf a fydd yn ymdrin ag ystod o bynciau mewn perthynas â chynnal yr Eisteddfod, ac rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd pellach yn cael ei wneud."

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, ““Rydyn ni wrth ein boddau o gael gweithio yn ardal Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni’n mwynhau dod i adnabod y bobl leol a darganfod y math o ddigwyddiadau maen nhw eisiau’u gweld yn cael eu cynnal yn y gymuned yn ystod y cyfnod cyn yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae’r pandemig wedi’n gorfodi ni i ohirio’r ŵyl ddwywaith, ond y newyddion da yw ein bod ni’n ôl, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phawb i greu Eisteddfod gofiadwy a bendigedig yn Rhondda Cynon Taf yn 2024.”

Wedi ei bostio ar 17/12/2021