Bydd y Cabinet yn mynd ati i drafod canlyniadau'r ymgynghoriad Teithio Llesol diweddar a ddenodd 146 o ymatebion ac sydd wedi arwain at sawl newid i'r Map Rhwydwaith drafft. Mae'r map yma'n amlinellu'r dyheadau ar gyfer llwybrau cerdded a beicio yn Rhondda Cynon Taf.
Bydd y Cabinet yn trafod adroddiad sy'n cynnig trosolwg o'r adborth o'r ymgynghoriad sylweddol, a gafodd ei gynnal dros gyfnod o 14 wythnos rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2021, yn ei gyfarfod ar ddydd Llun, 13 Rhagfyr. Mae atodiadau'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ynghylch demograffig y sawl oedd wedi ymateb i'r ymgynghoriad, ymateb y Cyngor i bob ymholiad a sut mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol wedi cael ei ddiwygio o ganlyniad i ymholiadau penodol.
Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud hi'n ofynnol i Awdurdodau Lleol gynllunio ac ymgynghori ar lwybrau cerdded a beicio, a'u datblygu. Rhaid i bob Cyngor lunio Map Rhwydwaith Teithio Llesol sy'n nodi ei amcanion ar gyfer llwybrau newydd, a gwelliannau i'r ddarpariaeth gyfredol. Mae'n canolbwyntio ar hwyluso'r defnydd o lwybrau cerdded a beicio bob dydd yn lle gyrru, lle bo hynny'n bosibl.
Mae'r ymgynghoriad 14 wythnos yma'n cynrychioli'r trydydd cyfle y mae trigolion wedi'i gael yn ddiweddar i ddweud eu dweud ar ddarpariaeth Teithio Llesol yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n ceisio defnyddio'r wybodaeth sydd gan drigolion lleol i ddiweddaru'r Map Rhwydwaith. Roedd modd i drigolion gyrchu'r Map ar wefan ymgynghori bwrpasol, lle'r oedd modd cyflwyno sylwadau a thynnu sylw'r Swyddogion at unrhyw ymholiadau neu awgrymiadau.
Cynhaliwyd achlysuron ymgysylltu â'r cyhoedd, lle cafodd trigolion gyfle i drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb â Swyddogion, eu cynnal mewn 10 cymuned yn Rhondda Cynon Taf. Cafodd gwaith ymgysylltu wedi'i dargedu hefyd ei gynnal gyda rhanddeiliaid allweddol, megis Wicid TV (gyda chymorth y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid), Panel Dinasyddion y Cyngor, Cynghorwyr, Awdurdodau Lleol cyfagos a Chynghorau Tref/Cymuned.
Mae'r 146 ymateb yn mynd i'r afael ag ystod eang o faterion, ac mae'r Atodiad perthnasol i adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Llun yn dangos sut mae'r rhain wedi llywio 16 o welliannau i'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol. Yn ogystal â hynny, nid oedd pob un o'r ymholiadau yn berthnasol i'r ddeddfwriaeth teithio llesol, ond maen nhw wedi'u rhannu â'r adran berthnasol er mwyn eu trafod ymhellach.
Yn ystod y cyfarfod a fydd yn cael ei gynnal ddydd Llun, bydd modd i Aelodau'r Cabinet gytuno bod y Map Rhwydwaith Teithio Llesol wedi'i ddiweddaru a'r dogfennau ategol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Rhagfyr. Bydd atodiad pellach sy'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn amlinellu blaenoriaethau pob cynllun - mae hyn yn cynnwys cynllun cyflawni byr dymor (hyd at 5 mlynedd), tymor canolig (5-10 blynedd) a hir dymor (15 mlynedd)
Mae modd gweld yr adroddiad i'r Cabinet, gan gynnwys pob atodiad, yma.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: "Mae proses ymgynghori'r Cyngor ynghylch ei ddarpariaeth Teithio Llesol wedi dod i ben yn ddiweddar. Cafodd trigolion eu gwahodd i weld y Map Rhwydwaith, sy'n tynnu sylw at y llwybrau cerdded a beicio sydd ar gael ar hyn o bryd a'r rhai fydd ar gael yn y dyfodol. Roedd hefyd cyfle i ddweud eich dweud ynglŷn â phob agwedd ar ein cynigion, gan gynnwys cyfle i gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb mewn 10 lleoliad yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad i flaenoriaethu materion Teithio Llesol, ac mae gan hyn sawl mantais sy'n gysylltiedig â gwella iechyd a lles gan ein helpu ni i ddiogelu'r amgylchedd. Mae Swyddogion wedi ystyried pob un o'r 146 ymateb a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ac mae hyn wedi llywio'r gyfres ddiweddaraf o newidiadau i'n Map Rhwydwaith. Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn cynnwys ein hymateb i bob ymholiad, p'un a oedd hyn wedi arwain at unrhyw welliannau neu beidio.
“Bydd y Cabinet yn trafod yr ymatebion i’r ymgynghoriad Teithio Llesol yn fuan, a byddai modd i'r Cabinet gytuno mai'r fersiwn ddiweddaraf o'r Map Rhwydwaith fydd yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac mae angen ei chyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn. Hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, i helpu i lunio'r ddogfen bwysig hon a fydd yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer darpariaeth cerdded a beicio yn y dyfodol yn Rhondda Cynon Taf."
Wedi ei bostio ar 10/12/2021