Ysgol Gynradd Trealaw yw enillwyr Her Clawr Nadolig yn ymwneud â'r Hinsawdd Cyngor Rhondda Cynon Taf eleni
Cafodd pob ysgol gynradd ledled Rhondda Cynon Taf ei gwahodd i greu gwaith celf Nadoligaidd yn seiliedig ar y thema sut mae modd i ni i gyd helpu i amddiffyn ein planed a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd y Nadolig yma. Roedd raid i bob cais fod wedi'i wneud â llaw gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu, neu fod wedi'i greu yn ddigidol.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac wedi mynd at ddisgyblion ifainc gyda'r 'Her Nadolig'. Mae darnau o waith celf anhygoel wedi'u hanfon i'r panel beirniadu.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol:
“Roedd safon y ceisiadau yn uchel iawn a hoffwn ddiolch i’n holl artistiaid a dylunwyr ifainc am fod yn rhan o’n Her Clawr Nadolig yn ymwneud â'r Hinsawdd
“Rydyn ni i gyd yn wynebu amseroedd heriol wrth i'r tymheredd barhau i godi ledled y byd, ac rydyn ni i gyd yn rhy gyfarwydd ag amodau tywydd garw yn Rhondda Cynon Taf.
“Mae gan bob un ohonom ni ran i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng byd-eang yma ac rwy’n falch iawn bod ein pobl ifainc, dyfodol y blaned, yn siarad am yr argyfwng ac yn gweithredu ar eu liwt eu hunain.
“Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Trealaw ar greu’r cais buddugol. Llongyfarchiadau hefyd i bawb a gymerodd rhan. Mae dros 240,000 o bobl yn byw yn ein Bwrdeistref Sirol – gyda'n gilydd, mae modd i ni i gyd wneud gwahaniaeth, waeth pa mor fawr neu fach."
Gwnaeth safon yr holl gynigion argraff ar y beirniaid, a dewiswyd Levi Blaken, o Ysgol Gynradd Trealaw, yn enillydd yn y pen draw. Bydd yr ysgol yn derbyn Pecyn Amgylcheddol i'r Ysgol, gwerth tua £400, a Thaleb Garddio gwerth £50 ar gyfer yr ysgol. Bydd y cais buddugol hefyd yn cael ei ddefnyddio ar holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor dros yr ŵyl.
Dyma'r ysgolion eraill sydd hefyd wedi derbyn Taleb Garddio gwerth £50: Ysgol Gynradd Llwynypïa, Ysgol Gynradd Penpych, Ysgol Gynradd Tonyrefail ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref.
Mae'r Cyngor yn parhau i weithio tuag at ei nod o ddod yn Gyngor a Bwrdeistref Sirol Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae eisoes wedi gwneud cynnydd tuag at gyflawni'r ymrwymiad yma i gyrraedd targedau byd-eang, cenedlaethol a lleol, a chyfrannu atyn nhw.
Mae'r Cyngor eisoes yn prynu 100% o'i gyflenwad ynni trydanol o ffynonellau ynni adnewyddadwy ac mae wedi lleihau ei ôl troed carbon 37%, neu 12,725 tunnell dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae pob golau stryd yn RhCT, oddeutu 29,700 ohonyn nhw, wedi'u newid i LED neu gyfwerth sydd wedi arwain at ostyngiad o 75% yn yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio ers 2015/16. Mae'r Cyngor hefyd wedi gosod 108 o araeau panel solar mewn ysgolion ac adeiladau'r Cyngor, sy'n cyfateb i 1.7MW.
Mae'r Cyngor hefyd ar y trywydd iawn i gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% ar gyfer 2025 ac mae wedi cynyddu ei darged ailgylchu i 80% erbyn 2025
Mae dros 11,000 tunnell o wastraff bwyd hefyd yn cael ei gasglu o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf bob blwyddyn a'i ailgylchu ar safle Biogen a'i droi'n ynni i bweru dros 1,000 o gartrefi.
Wedi ei bostio ar 22/12/2021