Skip to main content

Y Newyddion Diweddaraf am Ardal Cyfle Strategol Llanilid wedi'u rhannu gyda'r Cabinet

Mae'r Cabinet wedi clywed y newyddion diweddaraf am sawl prosiect mawr yn Ardal Cyfle Strategol Llanilid (SOA), sy'n cael eu darparu ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat yn rhan o fframwaith ar gyfer buddsoddiad mawr yn y rhanbarth.

Ddydd Llun, 13 Rhagfyr, trafododd Aelodau'r Cabinet adroddiad ar y cynnydd a wnaed ers i ardal Llanilid gael ei dynodi'n un o bump SOA yn Rhondda Cynon Taf yn 2017, oherwydd ei photensial ar gyfer twf economaidd. Gwnaed cynnydd yn yr ardal er gwaethaf heriau a ddaeth yn sgil Brexit a'r pandemig. Amlinellir y prosiectau yma isod:

Mae Persimmon Homes yn bwrw ymlaen â chaniatâd cynllunio ar gyfer darparu 1,850 o gartrefi newydd a nifer o amwynderau newydd eraill ar gyfer y pentref – gan gynnwys ysgol gynradd, canolfan feddygol, siop fwyd, unedau manwerthu a swyddfeydd. Hyd yn hyn, mae 108 o gartrefi wedi'u cwblhau, tra bod ymgynghoriad ar gynlluniau ar gyfer yr ysgol gynradd newydd – y bwriad yw ceisio cymeradwyaeth yn ffurfiol yn fuan.

Mae trafodaethau'n parhau ynghylch ffurf a chynnwys y cyfleusterau iechyd newydd yn y pentref. Mae carfan y prosiect a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cynnal sawl cyfarfod i drafod materion fel gofynion tir ac amserlenni. Mae'r cyfarfodydd wedi bod o fudd. Mae'r practis meddygon teulu lleol wedi ymrwymo i symud i'r cyfleuster newydd, tra bod adroddiad yn nodi llwybrau caffael posibl ac mae prosesau cyllido Llywodraeth Cymru yn cael eu paratoi.

Mae Ffordd Gyswllt Llanharan yn hanfodol i gyflawni'r prosiectau yn ardal Llanilid, ac mae'r ffordd wedi derbyn cefnogaeth gan Gronfa Grant Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo mwy na £4.1 miliwn i'r prosiect. Yn ddiweddar, cynhaliodd y Cyngor ddau achlysur ymgynghori cyhoeddus a gafodd eu croesawi gan bobl leol a bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno maes o law.

Mae rhan orllewinol y ffordd eisoes wedi'i hadeiladu. Bydd y rhan ganol (hyd at, ac yn cynnwys, y gylchfan arfaethedig ym mhen deheuol Ffordd y Fenter) yn cael ei darparu gan Persimmon Homes mewn cysylltiad â'i ddatblygiad preswyl, a bydd y Cyngor yn darparu'r rhan ddwyreiniol (o Ffordd y Fenter hyd at yr A473 i ddwyrain gorsaf gwasanaethau Llanharan).

Dragon Studios sydd wedi bod yn berchen ar y stiwdios ers 2018 ac maen nhw wedi mynd o nerth i nerth. Mae buddsoddi arwyddocaol wedi digwydd yno, a hi yw'r unig stiwdio ffilm a theledu bwrpasol yng Nghymru sydd â gofod allanol ('back lot') sylweddol ac unigryw. Defnyddiwyd y cyfleuster yn ddiweddar i gynhyrchu drama deledu Sky 'A Brave New World' ac ar hyn o bryd mae'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu dilyniant i'r ffilm 'Willow' ar gyfer Disney/Lucasfilms.

Ar hyn o bryd mae swyddogion y Cyngor yn cymryd rhan mewn trafodaethau cyn-ymgeisio ynghylch gwaith ehangu mawr yn Dragon Studios – gan gynnwys llwyfannau sain, swyddfeydd a gweithdai newydd – gyda'r bwriad o geisio caniatâd cynllunio yn y dyfodol agos. Mae trafodaethau yn parhau gyda Phrifysgol De Cymru a cholegau addysg bellach i sefydlu cysylltiadau clir i ddarparu sgiliau a hyfforddiant ar gyfer yr ystod lawn o rolau sy'n gysylltiedig â'r cynyrchiadau gwerth uchel yma. Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio gyda'r stiwdio i sicrhau bod hawliau tramwy cyhoeddus yn yr ardal yn cael eu gwella er budd y gymuned.

Tynnodd adroddiad y Cabinet ddydd Llun sylw hefyd at uwchgynllun sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer hanner deheuol yr SOA (250 hectar o hen safle mwyngloddio wedi'i adfer). Mae modd i'r safle ddarparu 18 hectar o dir cyflogaeth, 3,500 o gartrefi newydd, ac ystod o gyfleusterau addysg, manwerthu a hamdden. Bydd yn hyrwyddo gwytnwch yn yr hinsawdd yn ogystal â ffyrdd bywiog ac iach o fyw, gyda phwyslais cryf ar drafnidiaeth gyhoeddus gadarn, a llwybrau cerdded a beicio. Bydd y cynlluniau yma'n dibynnu ar y broses gynllunio angenrheidiol gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus llawn.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Cafodd y newyddion ar y cynnydd eu cyflwyno i’r Cabinet ddydd Llun. Nododd y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt nifer o brosiectau allweddol yn Ardal Cyfle Strategol Llanilid, sy’n cynrychioli unig safle buddsoddi o'r raddfa yma yn ardal Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae'n bwysig nodi bod yr ardal yn ymwneud â thir tir llwyd i'w ddatblygu.

“Mae gan y fframwaith ar gyfer cyflawni’r prosiectau mawr nifer o nodau allweddol – sefydlu swyddi, denu busnesau newydd, darparu cartrefi mawr eu hangen ar gyfer yr ardal a gwella cysylltedd. Mae cynaliadwyedd hefyd yn ystyriaeth fawr, gan fod y Cyngor yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i ddarparu ardal strategol bwysig lle mae pobl eisiau gweithio a byw ynddi ac ymweld â hi.

“Mae’r adroddiad yn nodi bod Persimmon Homes eisoes wedi darparu dros 100 o dai newydd, ac mae trafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r bwrdd iechyd mewn perthynas â’r ddarpariaeth iechyd/feddygol sydd wedi’i chlustnodi ar gyfer y safle. Yn ddiweddar, roedd ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â Ffordd Gyswllt Llanharan, a oedd wedi cynnwys dau achlysur lleol, tra bod Dragon Studios yn ased mawreddog i'r ardal gyda chynlluniau buddsoddi yn y dyfodol.

“Mae swyddogion y Cyngor hefyd yn gweithio gyda'r consortiwm o dirfeddianwyr i sicrhau bod cynlluniau ar gyfer yr hen safle mwyngloddio – sydd i'r de o ardal Llanilid – yn cyflawni'r hyn sy'n bwysig i Rondda Cynon Taf. Bydd yr uwchgynllun yn cynnwys cynlluniau mawr ar gyfer plannu coed a thirwedd, system gynaliadwy ar gyfer rheoli dŵr, a gwell bioamrywiaeth – pob blaenoriaeth yn ein hymrwymiadau Newid Hinsawdd. Bydd trafnidiaeth gyhoeddus wych a chyfleoedd teithio lleol wrth wraidd yr uwchgynllun, er mwyn hyrwyddo ffordd iach o fyw.”

Wedi ei bostio ar 16/12/21