Skip to main content

Cartrefi Cymru yn cael eu hannog i wybod beth yw eu risg llifogydd wrth i aeaf gwlyb gael ei ragweld

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl ledled Cymru i wirio’u risg llifogydd ar-lein, cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd ac, os ydyn nhw mewn perygl, gwybod beth i'w wneud os bydd llifogydd yn taro eu cartref yn sgil rhagweld bod gaeaf gwlyb o'n blaenau.

Daw'r alwad i weithredu wrth i'r Swyddfa Dywydd ragweld siawns uwch na'r cyffredin y bydd y gaeaf yn wlypach na'r arfer, gyda'r amodau gwlypach yn fwyaf tebygol ym mis Ionawr a mis Chwefror.

CNC yw'r prif awdurdod ar gyfer llifogydd o’r prif afonydd a'r môr yng Nghymru. Mae wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i helpu i sicrhau bod cymunedau'n cael eu paratoi ar gyfer y gaeaf ac unrhyw ddigwyddiadau tywydd eithafol sydd i ddod. Mae rhagolygon a rhybuddion tywydd gan y Swyddfa Dywydd yn helpu i lywio sut mae CNC yn paratoi ac yn ymateb i lifogydd yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys gwneud gwiriadau ac unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol i rwydwaith amddiffynfeydd llifogydd CNC ledled Cymru sy'n helpu i amddiffyn 73,000 o dai rhag llifogydd.

Mae CNC hefyd yn bwrw ymlaen â'r camau a nodwyd yn ei Adolygiadau Llifogydd a gyhoeddwyd ym mis Hydref y llynedd yn dilyn llifogydd Chwefror 2020 er mwyn helpu i sicrhau bod CNC a phobl Cymru mewn sefyllfa mor gryf â phosibl i wynebu unrhyw ddigwyddiadau llifogydd yn y dyfodol.

Ond gydag 1 o bob 8 (tua 245,000) eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, a gyda disgwyl i newid yn yr hinsawdd wneud digwyddiadau tywydd eithafol yn amlach ac yn fwy difrifol yn y dyfodol, mae CNC hefyd yn annog pobl i gymryd camau syml i helpu i chwarae eu rhan wrth helpu i baratoi eu hunain ar gyfer llifogydd.

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Nid yw digwyddiadau tywydd eithafol yn ddieithr i Gymru. Bydd y rhai a brofodd effeithiau dinistriol llifogydd Chwefror 2020 a stormydd difrifol eraill ers hynny yn gwybod bod yr effeithiau'n para ymhell wedi i’r dŵr fynd i lawr, ac mae ein meddyliau gyda'r rhai sydd wedi profi hyn yn uniongyrchol.

“Efallai nad yw llifogydd wedi effeithio ar eich eiddo o’r blaen, ond nid yw hynny’n golygu na all ddigwydd yn y dyfodol.
“Er y bydd CNC yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod ein hamddiffynfeydd a'n systemau rhybuddio yn barod i helpu i leihau effaith llifogydd ar bobl ac eiddo, rydym hefyd eisiau helpu cymunedau i adnabod eu risg llifogydd eu hunain a'u cefnogi i helpu i amddiffyn eu hunain a'u heiddo cyn i'r glaw ddechrau disgyn.

“Dyna pam rydym yn annog pobl i wirio’u risg llifogydd ar wefan CNC trwy ein gwiriwr cod post syml a darganfod beth i'w wneud os ydych chi mewn perygl.

“Os yw pobl yn canfod eu bod mewn perygl o lifogydd afonydd neu arfordirol, gallan nhw gofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddio llifogydd am ddim ar ein gwefan a darganfod pa gamau y gallan nhw eu cymryd i baratoi. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth bwysig ar beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd."

Wrth i'r hinsawdd gynhesu, mae digwyddiadau tywydd eithafol yn debygol o ddigwydd yn amlach.
Dywedodd Will Lang, Pennaeth Argyfyngau Sifil y Swyddfa Dywydd:
“Mae gaeafau yn y DU fel arfer yn cynnwys amrywiaeth eang o dywydd ac nid yw’r gaeaf hwn yn eithriad. Fodd bynnag, wrth edrych ar y gyrwyr mawr byd-eang sy'n effeithio ardywydd yn y DU, mae arwyddion y gallai'r gaeaf hwn fod yn wlypach na'r arfer.

“Er bod yr amodau gwlypach hyn yn fwyaf tebygol ym mis Ionawr a mis Chwefror y flwyddyn nesaf, mae’n rhy gynnar i ddweud pryd neu ble yng Nghymru sydd fwyaf mewn perygl o weld unrhyw effeithiau. Daw'r manylion yn gliriach yn agosach at yr amser a gellir dod o hyd i wybodaeth ar dudalennau rhagolygon ein gwefan."

Mae gwefan CNC yn darparu gwybodaeth hanfodol i bobl sy'n byw neu'n teithio trwy ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd. Ar wefan CNC, gall pobl wirio eu risg o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb gyda gwiriwr cod post, gwirio lefelau afonydd, glawiad a data môr a chofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim.

Bydd CNC yn cyhoeddi Hysbysiadau a Rhybuddion Llifogydd os yw afonydd ac arfordiroedd yn cyrraedd lefelau lle mae llifogydd yn bosibl neu'n ddisgwyliedig gyda thimau'n monitro ac yn rhagweld lefelau afonydd a môr o amgylch Cymru 24 awr y dydd.
Mae tair lefel o rybuddion llifogydd:

• Llifogydd - mae llifogydd yn bosibl ac yn fwyaf tebygol o effeithio ar deithio, tir hamdden (fel parciau) neu dir fferm. Byddwch yn barod i roi eich cynllun llifogydd ar waith, paratoi bag o eitemau hanfodol a monitro lefelau afonydd lleol a gwasanaeth rhybuddio llifogydd ar wefan CNC.
• Rhybudd Llifogydd – Disgwyliwch weld llifogydd mewn cartrefi a busnesau. Gweithredwch trwy symud teulu, anifeiliaid anwes ac eitemau gwerthfawr i le diogel, diffoddwch gyflenwadau nwy, trydan a dŵr a rhowch offer amddiffyn rhag llifogydd ar waith.
• Rhybudd Llifogydd Difrifol - mae risg o lifogydd difrifol a pherygl i fywyd. Efallai y bydd angen gwagio rhai cymunedau a dylent ddilyn cyngor y gwasanaethau brys. Ffoniwch 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol.

Mae'r map perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru hefyd yn cael ei ddiweddaru ar wefan CNC bob dydd am 10:30am - ac yn amlach pan fydd risg ganolig neu uchel o lifogydd. Mae'n rhoi asesiad o'r risg o lifogydd ar lefel awdurdod lleol am y pum diwrnod nesaf ac yn rhoi amser gwerthfawr i CNC, ei bartneriaid a'r cyhoedd roi paratoadau ar waith er mwyn lleihau effaith llifogydd.

Mae hysbysiadau a rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud.

Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael trwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188

Wedi ei bostio ar 13/12/21