Skip to main content

 Canmoliaeth Fawr ar gyfer Prosiect Cadw'n Iach yn y Gwaith

Derbyniodd Gynllun Cadw'n Iach yn y Gwaith Cyngor Rhondda Cynon Taf ganmoliaeth fawr yn ystod seremoni wobrwyo Iechyd Galwedigaethol 2021 y Gymdeithas Meddygaeth Alwedigaethol.

Mae’r Prosiect Cadw'n Iach yn y Gwaith yn cael ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.  Cafodd gynllun Cadw'n Iach yn y Gwaith ei gynllunio'n benodol i ddiwallu anghenion microfusnesau, busnesau bach a chanolig (MSMEs) ledled Rhondda Cynon Taf. Ei nod yw helpu unigolion sy'n gweithio'n lleol a fyddai o bosibl yn elwa o'r ymyriadau sydd wedi'u cynllunio.

Derbyniodd y garfan ganmoliaeth fawr yn rhan o gategori'r Wobr ar gyfer Carfan Iechyd Galwedigaethol Rhagorol. Tynnodd y beirniaid sylw arbennig at y prosiect am sut aeth y garfan ati i weithredu'r prosiect a'r gwaith arbennig sydd wedi'i wneud yn y maes.

Mae'r garfan yn un gydweithredol, amlddisgyblaethol sy'n rhoi cymorth i fusnesau ac i bobl, gan gynnwys darparu gwasanaethau cwnsela a chymorth therapiwtig, ffisiotherapi a chyngor iechyd galwedigaethol. Mae carfan y prosiect yn ceisio gwneud gwahaniaeth i'r unigolion a'r busnesau hynny y maen nhw'n gweithio gyda nhw wrth roi iechyd a lles wrth galon popeth maen nhw'n ei wneud.  

Cafodd yr ardal ei nodi'n ardal risg uchel o ran lles seicolegol a chorfforol oherwydd effaith Storm Dennis, cyfraddau marwolaeth uchel sy'n gysylltiedig â Covid a hefyd yn sgil oedi cynyddol wrth gael mynediad at ofal sylfaenol a gofal eilaidd. Sefydlodd y Garfan Cadw'n Iach yn y Gwaith linell gymorth yn ystod y cyfyngiadau symud, ac mae’r garfan wedi gweithio ar y cyd â Byw Bywyd i'r Eithaf a Hosbis St Oswald i ddatblygu gweithdai yn y gymuned i drafod iechyd meddwl a lles a phrofedigaeth yn ogystal â rhaglenni addysg ac ymarfer corff ar gyfer poen cronig.

Roedd y garfan wedi mynd ati'n gyflym i addasu'r  model darparu gwasanaethau i gynnwys gwasanaeth ffôn, Attend Anywhere, a Rehab My Patient ynghyd â pharhau i gynnal apwyntiadau wyneb yn wyneb mewn amgylchedd sy’n ddiogel o ran Covid. Roedd y garfan yn llawn ymroddiad a thosturi wrth ymateb i'r her a chynnal a datblygu gwasanaethau yn y gymuned. Aeth y garfan i'r afael ag ofnau a phryderon y gymuned a sicrhau gofal a chymorth rhagorol pan fo angen, gan gynnig yr un lefel o ofal a chymorth i'w gilydd hefyd.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor:

“Hoffwn i longyfarch aelodau'r garfan am eu llwyddiant a diolch iddyn nhw am eu gwaith caled a’u hymroddiad wrth helpu’r rhai sydd wedi'i chael hi'n anodd yn ystod y misoedd diwethaf. Mae'r garfan wedi rhoi modd i fyw i nifer o unigolion a busnesau ar adeg pan oedd y galw am gymorth yn enfawr, ac rwy'n falch iawn bod y gwaith wedi'i gydnabod ac wedi denu sylw ar lwyfan mor fawreddog.

“Da iawn i bawb, a daliwch ati gyda'r gwaith da!”

Ychwanegodd Alison Smith, Arweinydd Prosiect Cadw'n Iach yn y Gwaith:

“Hoffwn ddiolch i aelodau'r garfan am yr holl waith caled maen nhw wedi’i wneud i fod yn gefn i'n cleientiaid ni yn ystod cyfnod a fu’n heriol dros ben i bawb. Mae eu cydymdeimlad, eu hymroddiad a'u cyfraniad nhw wedi gwneud gwahaniaeth i’n cymuned leol. Mae eich gwaith wedi newid bywydau rhai unigolion ac wir yn cael ei werthfawrogi."

Os ydych chi'n cael eich cyflogi neu'n hunangyflogedig, a naill ai'n byw Rhondda Cynon Taf neu'n gweithio i fusnes bach yn RhCT sydd â llai na 250 o weithwyr, mae'r Garfan Cadw'n Iach yn y Gwaith yma i chi.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae modd i'r Gwasanaeth Cadw'n Iach yn y Gwaith eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01443 827317 neu anfon e-bost at CadwnIachynyGwaith@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 09/02/2022