Skip to main content

Pont Heol Berw (Y Bont Wen) - y diweddaraf am y gwaith atgyweirio

Berw Road White Bridge 3

Mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd tuag at gynllun atgyweirio ar gyfer Pont Heol Berw ym Mhontypridd - gyda chais am ganiatâd yn cael ei gyflwyno ar gyfer gwaith cychwynnol i ailagor y bont yn ystod y misoedd nesaf, cyn rhaglen atgyweirio lawn yn 2022.

Cafodd y bont, neu'r Bont Wen, ddifrod strwythurol difrifol yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020 - ac mae hi wedi aros ar gau er diogelwch y cyhoedd ac mae'i chyflwr yn parhau i gael ei fonitro gan ymgynghorwyr cwmni Redstart.

Gan fod y strwythur wedi'i restru, mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Cadw i gael y caniatâd angenrheidiol ar gyfer unrhyw atgyweiriadau. Mae Redstart wedi penodi peirianwyr treftadaeth i weithio gyda nhw mewn trafodaethau parhaus gyda Cadw. Mae'r cynllun yn fwy cymhleth oherwydd presenoldeb prif gyflenwad nwy sy'n darparu cyflenwad  trwy bibell ar y bont, ac mae trafodaethau'n parhau gyda chwmni Wales & West Utilities.

Hyd yn hyn, mae'r gweithgaredd ar y safle wedi cynnwys archwiliad ac asesiad sgwrio a gynhaliwyd gan gontractwyr arbenigol, tra bod yr holl gyfleustodau wedi'u tynnu o'r bont ac eithrio prif gyflenwad nwy Wales & West Utilities.

Gall y Cyngor nawr gadarnhau ei fod yn gweithio tuag at gynllun atgyweirio dau gam. Y cynllun cyfredol yw i atgyweiriadau sgwrio cychwynnol gael eu gwneud yn ystod y misoedd nesaf. Mae cynigion yn cael eu paratoi i gontractwr arbenigol gyflawni'r gwaith hwn, a'r disgwyl yw y bydd yn para tua hyd at ddau fis.

Mae'r gwaith hwn yn gofyn am nifer o ganiatadau y mae'r Cyngor yn eu ceisio ar hyn o bryd - gan gynnwys caniatâd mewn perthynas ag adeiladau Rhestredig a risg llifogydd, tra bod yn rhaid cynnal arolwg dyfrgwn hefyd. Mae trafodaethau ar waith gydag Adnoddau Naturiol Cymru ynghylch union amseriad yr atgyweiriadau cychwynnol hyn, gan y bydd y gwaith yn cynnwys gweithgaredd yn yr afon sy'n destun cyfyngiadau yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf.

Yn amodol ar archwiliad ar ôl cwblhau'r atgyweiriadau sgwrio, gallai'r bont agor i draffig gyda chyfyngiadau llwytho (rhagwelir yn yr haf, 2021).

Byddai'r Cyngor wedyn yn gweithio tuag at ddatblygu prosiect adnewyddu ac atgyweirio llawn. Gallai hyn ddigwydd yn ystod gwanwyn neu haf 2022, yn amodol ar gael yr holl ganiatadau perthnasol - gan gynnwys caniatâd Adeilad Rhestredig arall. Byddai'r gwaith yn gofyn am gau'r bont am gyfnod dros dro.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd y Bont Wen i'r gymuned leol, o ran ei harwyddocâd hanesyddol a diwylliannol, yn ogystal â'r rôl bwysig y mae'n ei chwarae yn y rhwydwaith ffyrdd lleol. Mae’r cyhoeddiad heddiw, yn dilyn archwiliad manwl arall o’r bont, yn dangos bod y Cyngor wedi ymrwymo i ailagor y bont i'w defnyddio eto, yn dilyn y difrod difrifol i'w strwythur yn ystod Storm Dennis.

“Mae'r broses atgyweirio yn un gymhleth iawn am nifer o resymau - ei lleoliad yn yr afon, ei statws Rhestredig a phresenoldeb prif gyflenwad nwy sylweddol ar y bont. Mae'r Cyngor wedi bod yn gwneud cynnydd y tu ôl i'r llenni i gytuno ar y ffordd orau ymlaen gyda sefydliadau partner, ac i gyflwyno'r caniatâd perthnasol i fwrw pethau yn eu blaen. Rwy’n falch y gallai atgyweiriadau sgwrio cychwynnol sy’n cael eu trefnu ar gyfer y misoedd nesaf arwain at ailagor y bont i draffig cyn yr haf - gyda chynllun atgyweirio llawn ar y gweill ar gyfer 2022.

“Mae'r Cyngor hefyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i atgyweirio'r difrod sylweddol i'r seilwaith yn dilyn Storm Dennis, gyda chynnydd yn cael ei wneud mewn nifer o leoliadau allweddol - gan gynnwys cynnal a chadw waliau yn Heol Caerdydd yn Nhrefforest.

“Yn ddiweddar rydym ni hefyd wedi cwblhau ymgynghoriad Rheoli Risg Llifogydd i helpu Swyddogion i gasglu gwybodaeth leol, data storm a gwybodaeth hanesyddol am lifogydd yn ein cymunedau. Cymerodd cyfanswm o tua 300 o drigolion ran, sy'n ymateb rhagorol gan y cyhoedd. Yn y cyfamser, ym mis Rhagfyr 2020, cytunodd Aelodau o'r Cabinet ar 11 o argymhellion wedi'u targedu i ganiatáu i'r Cyngor asesu sut mae modd gwella ei barodrwydd ar gyfer tywydd eithafol yn y dyfodol. Roedd yr ymgynghoriad yn un o sawl cam sydd wedi'u cymryd, gan gynnwys sefydlu ystafell reoli amlasiantaeth y mis diwethaf.

“Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw am y Bont Wen ym Mhontypridd, bydd y Cyngor yn rhyddhau rhagor o wybodaeth am gam cychwynnol y gwaith maes o law - unwaith y bydd gennym ni arwydd cadarn ynghylch pryd y gall hynny ddechrau.”

Wedi ei bostio ar 03/02/21