Skip to main content

Aelodau o'r Cabinet i argymell Cyllideb 2021/22 yng nghyfarfod o'r Cyngor llawn

budget WELSH

Bydd y Cabinet yn argymell Cyllideb derfynol ar gyfer 2021/22 yn y cyfarfod o'r Cyngor Llawn y mis nesaf gan fod Aelodau wedi cytuno ar y strategaeth ddrafft yr ymgynghorwyd arni hi yn ddiweddar - gydag un ychwanegiad yn ymwneud â rhewi ffioedd caeau 3G y flwyddyn nesaf.

Yn y cyfarfod ddydd Iau, 25 Chwefror, trafododd Aelodau o'r Cabinet y strategaeth Gyllideb ddrafft, ynghyd â'r adborth a ddaeth i law yn ystod ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal dros bythefnos rhwng Ionawr a Chwefror 2021.

Mae'r strategaeth yn seiliedig ar gynnydd o 3.8% yn y cyllid mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Gyngor Rhondda Cynon Taf, fel sydd wedi'i nodi yn y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Nod y cynigion sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth yw bod mor deg â phosibl a diogelu'r gwasanaethau rheng flaen, gan dargedu adnoddau at feysydd allweddol.  Mae crynodeb o'r strategaeth wedi'i gynnwys ar waelod y dudalen yma.

Cafodd adroddiad arall ei gyflwyno yn y cyfarfod ddydd Iau a oedd yn amlinellu Ffioedd a Thaliadau arfaethedig y Cyngor, a fydd yn rhan o'r Gyllideb ar gyfer 2021/22.  Cytunodd Aelodau o'r Cabinet ar gynnydd o 1.70% gyda nifer o eithriadau nodedig. Mae'r eithriadau'n cynnwys dim cynnydd i ffioedd Hamdden am Oes, Taliadau Meysydd Parcio, Ffioedd Chwarae'r Haf a Gaeaf, Prydau Ysgol, Ffioedd Profedigaeth, nac i bris tocynnau Lido Ponty a Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda.  Bydd cost Pryd ar Glud a Phrydau Canolfannau Oriau Dydd yn codi 10c y pryd, ac yna'n cael eu rhewi tan 2023.

Yn ystod y cyfarfod, cynigiodd Aelodau o'r Cabinet ddiwygiad mewn perthynas â thaliadau llogi ar gyfer caeau 3G. Yn y strategaeth ddrafft, roedd ffioedd caeau 3G yn destun cynnydd o 1.70%. Cynigiodd yr Aelodau i'r ffioedd gael eu cadw ar y lefelau presennol ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn unol â ffioedd Hamdden am Oes a chaeau chwarae. Cadarnhaodd swyddogion y byddai modd i hyn gael ei gynnwys yng Nghyllideb y flwyddyn nesaf a chytunodd Aelodau o'r Cabinet ar y newid yma.

Bydd y Cabinet bellach yn argymell y Gyllideb derfynol i Aelodau Etholedig yn y cyfarfod llawn ar 10 Mawrth, 2021. Os bydd yn cael ei chytuno, byddai'n sicrhau bod y Cyngor wedi gosod Cyllideb gytbwys yn gyfreithiol ar gyfer 2021/22 cyn y flwyddyn ariannol newydd sy'n dechrau ar 1 Ebrill.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: “Mae'r Cabinet bellach wedi cytuno ar Gyllideb derfynol y Cyngor ar gyfer 2021/22, i'w hargymell yn y cyfarfod o'r Cyngor ym mis Mawrth. Daeth yr aelodau i’r casgliad bod hwn yn ganlyniad cadarnhaol iawn i drigolion yn Rhondda Cynon Taf, gyda Chyllideb sydd ddim yn cynnwys unrhyw doriadau, sy'n amddiffyn ein gwasanaethau hanfodol, yn buddsoddi mewn meysydd blaenoriaeth ac yn cynnig yr hyn sy’n debygol o fod y cynnydd lleiaf mewn Treth y Cyngor yng Nghymru unwaith eto.

“Mae’r cynigion wedi nodi £4.6 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd pellach ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ben yr arbedion o £6 miliwn y flwyddyn a gyflawnwyd ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf. Byddai cynnydd o £2.2miliwn yn y Gyllideb Ysgolion, gan eu hariannu'n llawn ar gyfer y flwyddyn nesaf.   Byddai'r Cynllun Rhyddhad Lleol ar gyfer Ardrethi Annomestig yn parhau ac yn cael ei ymestyn gyda busnesau'n derbyn mwy fyth o gefnogaeth, tra byddai parcio am ddim yn cael ei gyflwyno ym Mhontypridd ac Aberdâr o 3pm bob diwrnod o'r wythnos ac ar ôl 10am ar ddydd Sadwrn, yn ogystal â rhewi'r ffioedd.

“Cafodd y Gyllideb arfaethedig yma, sy’n cynnwys cynifer o elfennau cadarnhaol, ei llunio ar gefn blwyddyn heriol iawn i’r Cyngor a’n cymunedau gan ddechrau gyda Storm Dennis ym mis Chwefror 2020 a’r pandemig COVID-19 a ddechreuodd fis yn ddiweddarach. Mae'r ddau argyfwng yn dal i gael effaith flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae'r Cyngor yn parhau i ddarparu cefnogaeth werthfawr i drigolion a busnesau.

“Rwy’n falch bod y Cyngor wedi gallu cysylltu â chynifer o bobl yn ei ymgynghoriad blynyddol ar y Gyllideb, er gwaethaf y cyfyngiadau COVID-19 a oedd yn golygu nad oedd modd ymgysylltu wyneb yn wyneb. Cymerodd bron i 1,500 o bobl ran dros ddau gam, ac felly roedd yn ymarfer gwerth chweil. Yn yr ail gam, roedd dros 76% o'r rhai a atebodd yr arolwg yn teimlo bod y cynnig ar gyfer y Dreth Gyngor yn rhesymol, roedd 81% yn cytuno â'r dull ar gyfer arbedion effeithlonrwydd ac roedd 87% yn cytuno â'r cynigion ar gyfer Ffioedd a Thaliadau. Roedd y rhain yn ystyriaethau allweddol ym mhenderfyniad y Cabinet i gytuno ar y strategaeth ar ddydd Iau, yn ogystal â rhewi ffioedd caeau 3G.”

Mae'r Gyllideb derfynol ar gyfer 2021/22, a fydd yn cael ei hargymell gan y Cabinet i'r cyfarfod o'r Cyngor Llawn yn ystod Mawrth 2021, yn cynnwys y canlynol:

  • Cynnydd o £2.2 miliwn yn y gyllideb ysgolion gan gydnabod bod ysgolion yn flaenoriaeth allweddol a chan ariannu eu gofynion ar gyfer y flwyddyn nesaf yn llawn.
  • Amddiffyn gwasanaethau'r Cyngor sy'n golygu ei fod yn gyllideb dim toriadau .
  • Cyflwyno £4.6 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd pellach, ar ben yr arbedion o £6 miliwn y flwyddyn a gyflawnwyd ar draws gwasanaethau'r Cyngor ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf.
  • Cynnydd o 2.65% yn Nhreth y Cyngor. Mae hyn yn is na'r hyn yr ymgynghorwyd arno'n flaenorol yn ystod y cam cyntaf, ac mae disgwyl mai hyn fydd y cynnydd lleiaf yng Nghymru ar gyfer 2021/22 unwaith eto.
  • Parhad y Cynllun Rhyddhad Lleol ar gyfer Ardrethi Annomestig (NDR), a'i gynyddu i £350 i bob busnes cymwys ar gyfer 2021/22.
  • Parcio ceir am ddim, ar ôl 3pm yn ystod yr wythnos ac ar ôl 10am ar ddydd Sadwrn.
  • Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon, byddai cyllideb graidd o £100,000 yn cael ei rhoi ar waith i gyflymu'r gwaith yn y maes yma.
  • Rhewi ffioedd, ar gyfer Hamdden am Oes, meysydd parcio, caeau chwaraeon,  caeau 3G, Lido Ponty/Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Ffioedd Profedigaeth a phrydau ysgol.
  • Adnoddau wedi'u targedu ychwanegol:
    • £200,000 i alluogi'r Cyngor i recriwtio 6 Swyddog Graddedig arall, yn ychwanegol at yr ymrwymiad a wnaed eisoes o dan Gynllun Graddedigion llwyddiannus y Cyngor.
    • £200,000 ar gyfer Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd i gynyddu gwytnwch yn y gwasanaeth a chaniatáu i adnoddau ychwanegol gael eu defnyddio.
    • £50,000 mewn Cymorth Atal Llifogydd ar gyfer adnodd ymgynghorol i roi cymorth i drigolion a busnesau.
    • £50,000 ar gyfer datblygu ac ymestyn rhaglenni cymorth Llesiant ar draws y gweithlu.
    • £75,000 ar gyfer sefydlu Carfan Gordyfiant ychwanegol i wella'r gwaith ymhellach i gadw ein hamgylchedd lleol yn lân ac yn daclus.
    • Mae £500,000 ar gyfer Carfan Ddraenio newydd i wella a chyflymu'r gwaith o atgyweirio a gwella systemau draenio hefyd wedi'i gynnwys yn y Gyllideb arfaethedig.
Wedi ei bostio ar 26/02/2021