Skip to main content

Penodi contractwr i atgyweirio wal afon Heol Blaen-y-Cwm

Blaen y cwm road wall 2 - Copy

Mae'r Cyngor wedi rhannu'r newyddion diweddaraf am y cynllun i atgyweirio'r difrod i wal afon yn Heol Blaen-y-Cwm. Mae rhan sylweddol o'r strwythur eisoes wedi'i hatgyweirio ac mae contractwr ar gyfer cam olaf y gwaith ar fin cael ei benodi.

Cafodd rhannau sylweddol o'r strwythur, sy'n cynnal y ffordd, eu difrodi gan dywydd garw Storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Mae'r rhannau a gafodd eu difrodi wedi'u cau ac maen nhw'n cael eu monitro'n agos. Mae goleuadau traffig yno o hyd a dim ond un lôn sydd ar agor yn Heol Blaen-y-Cwm yn y lleoliad yma. Dyma'r unig ffordd i mewn ac allan o Flaen-cwm ar gyfer traffig.

Dechreuodd cam cynta'r gwaith atgyweirio ym mis Medi 2020, ac mae rhan sylweddol o'r wal wedi'i hatgyweirio a'i hailbwyntio'n llwyddiannus. Roedd y Cyngor eisoes wedi dweud y byddai angen ail gam ym mis Ebrill 2021 i gwblhau'r gwaith fel bod modd symud y goleuadau traffig oddi yno.

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gwerthuso tendrau ar gyfer yr ail gam, a bydd yn penodi contractwr llwyddiannus yn fuan. Bydd gwaith paratoi yn cychwyn ar y safle yn gynnar ym mis Ebrill 2021 a bydd y prif waith yn cychwyn ganol mis Mai. Mae hyn oherwydd cyfyngiadau mewn perthynas â gweithio yn yr afon yn ystod tymhorau penodol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r cynllun atgyweirio yma yn Heol Blaen-y-Cwm yn lleoliad â blaenoriaeth er mwyn adfer y difrod sylweddol a gafodd ei achosi gan Storm Dennis. Roedd y Cyngor wedi cyflawni cam cyntaf y gwaith atgyweirio ar ran sylweddol o'r wal yn ystod yr hydref, cyn i'r cyfyngiadau ddod i rym mewn perthynas â gweithio yn yr afon dros y gaeaf. Bydd ail gam y gwaith yn cychwyn cyn gynted ag y daw'r cyfyngiadau i ben ym mis Mai.

“Yr wythnos yma, yn rhan o adroddiad i nodi blwyddyn ers Storm Dennis, rhannodd y Cyngor y newyddion diweddaraf am y gwaith atgyweirio sylweddol sy’n cael ei gynnal ledled y Fwrdeistref Sirol i adfer y difrod a gafodd ei achosi gan y llifogydd. Roedd y Cyngor wedi croesawu cyllid newydd gwerth £4.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda'r gwaith sy'n mynd rhagddo i atgyweirio waliau, cwlfertau, ffyrdd a phontydd ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r ymrwymiad i gwblhau'r gwaith yna o hyd.

“Cyn bo hir, byddwn ni'n penodi contractwr i gynnal ail gam y gwaith atgyweirio yn Heol Blaen-y-Cwm. Dylai'r gwaith yma gychwyn ym mis Ebrill. Bydd y Cyngor yn rhannu manylion pellach y gwaith yma yn y man. Er bod y goleuadau traffig yn angenrheidiol, rydyn ni'n gwybod eu bod nhw'n tarfu ar y gymuned, felly hoffwn i ddiolch i drigolion lleol a defnyddwyr y ffyrdd am eu cydweithrediad parhaus. Bydd y gwaith yma'n dod â'r cynllun i ben ac yn golygu bod modd i draffig deithio'r ddwy ffordd.”

Wedi ei bostio ar 18/02/21