Bydd gwaith yn dechrau i gyflwyno cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yng Nghilfynydd yr wythnos nesaf – er mwyn symud croesfan i gerddwyr, gwella troedffyrdd mewn sawl lleoliad a chyflwyno terfyn cyflymder o 20mya trwy'r pentref.
Bydd gwaith i gyflawni'r cynllun, sy'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru trwy grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, yn dechrau ddydd Llun, 15 Chwefror, a bydd y gwaith yn para hyd at wyth wythnos. Mae'n dilyn ymgynghoriad y Cyngor â thrigolion, gafodd ei gynnal rhwng mis Rhagfyr a mis Ionawr. Mae modd gweld rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cynlluniau manwl o'r cynigion, ar wefan y Cyngor.
Mae'r cynllun yn cynnwys tair prif elfen, sef:
- Gosod croesfan pâl a chael gwared ar y groesfan bresennol i gerddwyr ar yr A4054, Heol Cilfynydd.
- Gwelliannau i'r droedffordd bresennol, trwy osod ymylon pafin isel a phalmant botymog mewn lleoliadau amrywiol.
- Cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya trwy'r pentref.
Rydyn ni'n cynghori trigolion lleol a defnyddwyr y ffyrdd y bydd y terfyn cyflymder 20mya newydd yn dod i rym ar ôl i'r arwyddion perthnasol gael eu gosod. Mae disgwyl i'r gwaith yma gael ei gwblhau yn ystod wythnosau cynnar y cynllun.
Er mwyn rhoi'r cynllun ar waith, bydd angen rheoli traffig yn lleol mewn lleoliadau amrywiol ac ar adegau gwahanol, a hynny er mwyn sicrhau cynnydd ac amddiffyn y gweithlu. Byddwn ni'n gwneud pob ymdrech i leihau unrhyw aflonyddwch i'r gymuned leol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r gwaith sydd ar ddod yng Nghilfynydd yn cynrychioli’r cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau diweddaraf sydd am gael ei gyflawni yn Rhondda Cynon Taf. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r cynlluniau yma wedi gwella diogelwch a darpariaeth i gerddwyr mewn nifer o ardaloedd. Mae'r Cyngor yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ariannu'r cynllun yn llawn, a bydd modd i drigolion weld gwelliannau yng Nghilfynydd o ddydd Llun.
“Mae cynlluniau sy wedi'u cyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cynnwys gwelliannau i ardaloedd Cwmaman, Tonypandy, Tonyrefail a Threorci yn 2018/19, a hynny ochr yn ochr â’r buddsoddiadau addysg sylweddol trwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Cafodd cynlluniau tebyg eu cwblhau yn Llwynypia ac Abercynon yn 2020. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor hefyd yn cynnig cynllun pellach ar gyfer ardal Llantrisant, a chafodd trigolion gyfle i ddweud eu dweud ar y cynigion penodol hynny mewn proses a ddaeth i ben yn ddiweddar, ar 8 Chwefror.
“Bydd y gwaith yn ardal Cilfynydd yn para hyd at wyth wythnos, er y bydd rhai elfennau o’r cynllun yn cael eu cyflawni'n gynt - megis cyflwyno'r terfyn cyflymder newydd o 20mya. Hoffwn ddiolch i drigolion lleol ymlaen llaw am eu cydweithrediad, gan y bydd y cynllun yn cynnwys rhai mesurau rheoli traffig lleol er mwyn cyflawni'r gwaith yn ddiogel."
Wedi ei bostio ar 11/02/2021