Skip to main content

Gwaith lliniaru llifogydd ar Stryd Kingcraft yn Aberpennar

Kingcraft St Mountain Ash

Bydd y Cyngor yn dechrau ar gynllun lliniaru llifogydd ar Stryd Kingcraft yn Aberpennar yr wythnos yma, gan wella'r rhwydwaith presennol er mwyn lleihau'r risg o lifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm.

Mae'r cynllun, sydd wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru a fydd yn mynd rhagddo yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn ddydd Llun, 22 Chwefror yn cynnwys gosod cefnfur a thwll archwilio newydd yn y system cwrs dŵr. Bydd hyn yn cynyddu capasiti'r rhwydwaith ac yn caniatáu i waith cynnal a chadw gael ei gyflawni’n haws yn y dyfodol.

Mae'r Cyngor wedi penodi Horan Construction yn gontractwr sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun. Bydd y contractwr yn cyrraedd ardal y gwaith trwy ran o dir sy'n eiddo preifat, felly rydyn ni'n rhagweld na fydd y gwaith yn tarfu'n ormodol ar ddefnyddwyr y ffordd na'r gymuned ehangach. Bydd y gwaith yn para am oddeutu pedair wythnos.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Dyma’r enghraifft ddiweddaraf o waith y Cyngor ar draws Rhondda Cynon Taf i gyflawni mesurau lliniaru llifogydd sy wedi’u targedu yn seiliedig ar y perygl o lifogydd. Ers y Flwyddyn Newydd, mae cynnydd da wedi'i wneud mewn perthynas â nifer o gynlluniau o'r fath, sy'n cynnwys Stryd Hyfryd yn ardal Pentre, Stryd Allen a Theras Granville yn Aberpennar, yr A4059 o Drecynon i Hirwaun, yn ogystal â dau leoliad yng Nghwm-bach. Mae gwaith ar fuddsoddiadau mawr ar Lôn y Parc yn Nhrecynon a Heol Pentre hefyd yn mynd rhagddo.

“Mae’n bwysig i’r Cyngor fynd ar drywydd buddsoddiad allanol i helpu i gyflawni ei raglen waith, ac mae wedi croesawu'r cyllid yma gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith sydd ar y gweill ar Stryd Kingcraft a'r cynllun draenio cynaliadwy ar Stryd y Felin, Pontypridd. Bydd y gwaith yn dechrau ar y ddau safle yr wythnos yma.

“Bydd y system ddraenio yn Stryd Kingcraft yn cael ei gwella dros y pedair wythnos nesaf a dydyn ni ddim yn disgwyl y bydd y gwaith yn achosi llawer o aflonyddwch i'r gymuned leol. Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i gontractwr i gyflawni'r cynllun mor effeithlon â phosibl.”

Wedi ei bostio ar 23/02/21