Skip to main content

Dweud eich dweud ar y cynigion i fuddsoddi £4.5 miliwn yn YGG Aberdâr

YGG Aberdar - Copy

Mae modd i drigolion weld cynigion manwl a dweud eu dweud ar y buddsoddiad gwerth £4.5 miliwn ar gyfer y dyfodol mae'r Cyngor yn ei wneud yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr. Bwriad y buddsoddiad yw adeiladu estyniad mawr a darparu cyfleuster gofal plant mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Mae Aelodau'r Cabinet eisoes wedi cytuno i fuddsoddi £23.9 miliwn mewn addysg yng Nghwm Cynon, gan ddefnyddio cyllid Band B o raglen Llywodraeth Cymru, Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad mawr o £3.69 miliwn ar gyfer YGG Aberdâr yng Nghwmdâr, er mwyn cynyddu nifer y llefydd yn yr ysgol mewn ymateb i'r galw cynyddol am addysg gynradd Gymraeg yn yr ardal.

Mae'r cynnig yn cynnwys adeiladu pedair ystafell ddosbarth fodern a man chwarae ychwanegol, ynghyd ag estyniad i'r neuadd bresennol a maes parcio'r ysgol. Mae dwy ystafell ddosbarth dros dro yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd – byddai'r rhain yn cael eu gwaredu yn ôl y cynlluniau, sy'n golygu y bydd yr ysgol ar ei hennill o ddau ddosbarth mewn gwirionedd. O ganlyniad bydd 48 o lefydd ychwanegol yn yr ysgol, sy'n cynyddu'i niferoedd posibl i 480 (gan gynnwys llefydd yn y meithrin).

Bydd y Cyngor hefyd yn ymgynghori â thrigolion ynglŷn â buddsoddiad ar wahân o £810,000, wedi'i dderbyn gan Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru, i sefydlu cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd gyda 30 o lefydd ar safle'r ysgol. Byddai'r ddwy ran yma o'r buddsoddiad £4.5 miliwn wedi'u cwblhau erbyn 2022.

Mae'r Cyngor bellach wedi dechrau ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn casglu sylwadau gan drigolion ynglŷn â'r cynigion. Bydd yr adborth a gaiff ei dderbyn yn cael ei ystyried yn ystod y broses gynllunio ar gyfer y rhaglen fuddsoddi hon.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben  Ddydd Gwener, 26 Chwefror, ac mae modd i drigolion ddweud eu dweud trwy anfon e-bost neu lenwi ffurflen a'i dychwelyd drwy'r post. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyfrannu'ch barn, ynghyd â chynlluniau manwl y cynigion, ar gael yma.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: "Y cynigion trawiadol i fuddsoddi £4.5 miliwn yn YGG Aberdâr i gyflwyno cyfleusterau mewnol ac allanol newydd yn yr ysgol yw un o'r cynlluniau mwyaf diweddar yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae’r Cyngor newydd adeiladu ysgol newydd gwerth £10.2 miliwn ar gyfer Ysgol Gynradd Hirwaun mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, tra y bydd Ysgol Gyfun Rhydywaun a nifer o ysgolion ar draws ardal Pontypridd hefyd yn elwa yn y dyfodol agos.

"Yn ddiweddar, bu Aelodau'r Cabinet yn trafod ymrwymiad y Cyngor i ehangu ar addysg Cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf a'i fuddsoddiad i'r perwyl hwn, fel sydd wedi'i nodi yn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae 28.1% o lefydd mewn ysgolion cynradd Cymraeg yn rhydd, ond mae'r Cyngor yn gweithredu mewn ardaloedd lle mae'r galw yn fwy na'r nifer o lefydd sydd ar gael. Enghraifft bwysig o hyn yw'r buddsoddiad arfaethedig o £3.69 miliwn yn YGG Aberdâr i greu 48 o lefydd ychwanegol.

"Un o flaenoriaethau eraill y Cyngor yn y maes hwn yw gwella ansawdd darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y Blynyddoedd Cynnar sydd wedi'i lleoli mewn ysgolion cynradd, a chynyddu'r llefydd sydd ar gael. Bydd y cyllid o £810,000 o Lywodraeth Cymru yn sefydlu Cylch Meithrin pwrpasol yn YGG Aberdâr, ynghyd â'r gwaith yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

"Nod y buddsoddiad arfaethedig yw cyflawni gwelliannau pwysig er budd staff a disgyblion yn YGG Aberdâr, a bydd y Cyngor yn croesawu adborth wrth aelodau'r cyhoedd yn ystod y broses ymgynghori. Bydd y sylwadau a gaiff eu derbyn hyd at 26 Chwefror yn ffurfio rhan bwysig o'r trafodaethau wrth inni symud y cynllun yn ei flaen."
Wedi ei bostio ar 01/02/21