Mae myfyriwr o Rondda Cynon Taf yn gwireddu ei freuddwyd ac yn mynd i Brifysgol Harvard yn America i barhau â'i astudiaethau.
Mae Steffan Dylan Jones, 19 oed, yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae'r holl staff a'i ffrindiau ysgol wrth eu boddau ei fod wedi cael ei dderbyn i astudio yn un o'r colegau chwaraeon a chyfadeiladau prifysgol mwyaf mawreddog yn y byd.
Roedd Steffan, pencampwr athletau Cymru a chyn-redwr cymorth Rasys Nos Galan, yn un o ddim ond 2,015 o fyfyrwyr ledled y byd i ennill lle ym Mhrifysgol Harvard allan o 40,248 o ymgeiswyr.
Yn ogystal ag astudio pedair Lefel A a Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, roedd hefyd gan Steffan yr amser i astudio am Ddiploma – Rhagoriaeth mewn Chwaraeon (Coleg Loughborough) a sefyll ei arholiad SAT, gan sgorio 1,320 a'i osododd yn y 90fed canradd uchaf allan o'r 1.7 miliwn sy'n cymryd y prawf.
Mae Steffan, sy'n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr a chyn-redwr cymorth Rasys Nos Galan yn 2015 ar gyfer Colin Jackson, hefyd yn hyfforddi 5 gwaith yr wythnos. Roedd yn y pedwerydd safle yn y DU a byddai wedi cynrychioli Tîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Ieuenctid y Byd eleni oni bai am y pandemig byd-eang.
Mae bellach ar fin astudio ar gampws byd-enwog Prifysgol Harvard ym Massachusetts, a sefydlwyd ym 1636, ac mae'n methu aros i gerdded trwy'r drysau hynny am y tro cyntaf.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:
“Rydw i'n falch iawn bod Steffan wedi cael ei dderbyn i barhau â’i astudiaethau yn Harvard. Dyma gyflawniad anhygoel iddo ef a'i deulu, ond mae hefyd yn brawf o gyfraniad yr holl athrawon a hyfforddwyr sy'n ei helpu i gyrraedd ei lawn botensial.
“Mae Steffan eisoes wedi cyflawni cymaint yn yr ystafell ddosbarth ac ar y trac rhedeg a dymunwn yn dda iddo wrth barhau â’i daith academaidd a'i daith ym maes chwaraeon yn America.”
Mae rhieni Steffan, Simon ac Angela, a’i chwaer hŷn, Ffion Wen, cyn-Brif Ferch yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, mor falch o’i gyflawniad. Mae Steffan ei hun yn canmol cefnogaeth ei deulu, ffrindiau ac athrawon dros y blynyddoedd.
Meddai Steffan:
“Rydw i wrth fy modd o gael y cyfle yma i astudio a chystadlu yn UDA yn un o'r prifysgolion gorau yn y byd. Rydw i'n methu aros tan fis Awst pan fyddaf i'n gallu hyfforddi yng nghyfleusterau anhygoel Harvard a chystadlu yn y gynghrair Ivy League fyd-enwog.
“Rydw i'n hynod ddiolchgar i'm holl athrawon trwy gydol fy amser yn yr ysgol am wneud fy mlynyddoedd ysgol yn bleserus, am fy helpu i gyflawni'r graddau yr oedd eu hangen arnaf i sicrhau fy lle mewn prifysgol mor fawreddog ac am fy nghefnogi ym mhob un o fy ymdrechion, gan fy helpu i wireddu fy mreuddwyd."
Meddai Lisa Williams, Pennaeth Ysgol Gyfun Rhydywaun : “Mae Steffan yn fyfyriwr hynod alluog a thalentog. Rydyn ni i gyd yn falch iawn o'i lwyddiannau, sy'n cynnwys cynrychioli ei wlad a chyflawni canlyniadau TGAU a Safon Uwch rhagorol gyda ni yn Rhydywaun. Yn ogystal â hyn, mae'n ddyn ifanc o gymeriad cryf ac mae ganddo rinweddau personol gwych.
“Mae Steffan yn esiampl dda y gall myfyrwyr eraill ei barchu. Rwy'n gwybod ei fod yn ddiolchgar iawn i’r athrawon yn Rhydywaun ac rydyn ni i gyd yn dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol, gan wybod y bydd yn manteisio i’r eithaf ar yr holl gyfleoedd y mae’n eu cael wrth astudio ym Mhrifysgol Harvard.”
Mae Steffan wedi mwynhau athletau ar hyd ei oes, a chafodd lawer o sylw am ei ddoniau ers pan oedd yn blentyn ifanc, pan ymunodd â Chlwb Athletau Amatur Cwm Aberdâr. Mae bellach yn rhedeg dros glwb Harriers Abertawe ac mae wedi cystadlu ac ennill nifer o dwrnameintiau hyd yma ar gyfer ei dref enedigol, ei sir a'i wlad.
Prifysgol Harvard yw'r sefydliad addysg uwch hynaf yn yr Unol Daleithiau. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael i astudio yn y brifysgol, gyda llai na phump y cant o ymgeiswyr yn cael cynnig lle i astudio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae cyn-fyfyrwyr Harvard yn cynnwys gwleidyddion llwyddianus, ysgolheigion enwog, ac arweinwyr busnesau. Ymhlith y cyn-fyfyrwyr enwog mae cyn-Arlywyddion UDA Barack Obama, Franklin Delano Roosevelt, John F Kennedy, Theordore Roosevelt a George W Bush.
Ymhlith yr enwogion eraill sydd wedi cael eu haddysgu yn Harvard mae cyd-sylfaenydd Microsoft Corporation, Bill Gates, cyd-sylfaenydd Facebook, Mark Zuckerberg, y bardd/dramodydd, T S Eliot, a'r cyfansoddwr, Leonard Bernstein.
Mae Harvard yn ymfalchïo yn ei gyfleusterau chwaraeon, yn enwedig athletau, gyda Harvard Crimson, timau athletau swyddogol Harvard, â 42 o dimau rhyng-golegol yn Adran yr NCAA a'r Ivy League.
MeddaiCenwyn Brain, pennaeth cynorthwyol Ysgol Gyfun Rhydywaun: “Rydw i wedi cael y fraint o wylio datblygiad Steffan dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n fyfyriwr rhagorol ar sawl cyfrif, yn enwedig o ran ei allu academaidd a'i ddawn ym maes chwaraeon. Er hyn, mae'n parhau i fod yn fyfyriwr diymhongar, gyda'i draed ar y ddaear, sydd bob amser yn awyddus i helpu eraill.
“Mae ei ymrwymiad a'i ymroddiad, yn yr ystafell ddosbarth ac ar y trac, yn adlewyrchu ei benderfyniad a'i allu i ragori yn ei ddyfodol disglair. Mae ei etheg gwaith heb ei hail ac mae'n anodd dychmygu myfyriwr mwy cydwybodol sy'n gweithio mor galed.
“Mae Steffan bob amser wedi dangos angerdd gwirioneddol dros chwaraeon ac roedd yn awyddus i ysbrydoli’r un brwdfrydedd ymhlith eraill, gan hyfforddi disgyblion iau yn yr ysgol a throsglwyddo ei arbenigedd iddyn nhw.”
Wedi ei bostio ar 16/02/21