Bydd y Cabinet yn derbyn y newyddion diweddaraf am y buddsoddiad gwerth £26.8 miliwn ar gyfer cyfleusterau Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ardal Cwm Cynon. Bydd hyn yn cynnwys newyddion am y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â gwaith darparu cyfleusterau ac ysgol newydd yn Hirwaun a chynlluniau arfaethedig yng Nghwmdâr a Phen-y-waun a allai ddechrau ar y safle yn ystod y misoedd nesaf.
Bydd adroddiad sy'n cael ei gyflwyno ddydd Iau, 25 Chwefror, yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y buddsoddiad gyda'r Aelodau. Cafodd y buddsoddiad ei gymeradwyo gan y Cabinet yn 2018 ac mae'n derbyn cefnogaeth gan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Ysgol Gynradd Hirwaun
Mae'r gwelliannau gwerth £10.2 miliwn yn cael eu cyflawni fesul cam. Mae disgyblion a staff bellach yn mwynhau adeilad ysgol o'r radd flaenaf (gafodd ei gwblhau ym mis Tachwedd 2020) a darpariaeth Dechrau'n Deg ar y safle (ers Ionawr 2021). Rydyn ni wedi cyrraedd ail gam y cynllun erbyn hyn, sef dymchwel hen adeilad yr adran iau a chreu rhagor o gyfleusterau allanol, gan gynnwys maes parcio i staff, ardal cynefin ecolegol, cae chwarae glaswellt a mannau awyr agored.
Yn unol ag ymgynghoriad trefniadaeth ysgolion a gafodd ei gymeradwyo yn 2019, bydd Ysgol Gynradd Penderyn yn dod yn ysgol cyfrwng Cymraeg ym mis Medi 2021, unwaith y bydd gan ddisgyblion sy'n derbyn addysg cyfrwng Saesneg fynediad i'r ysgol newydd yn Hirwaun.
Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, Cwmdâr
Bydd buddsoddiad gwerth £4.5 miliwn yn darparu 48 lle ysgol cyfrwng Cymraeg ychwanegol er mwyn bodloni'r galw ac yn darparu lleoliad gofal plant ar y safle (yn rhan o Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru gwerth £810,000). Bydd yn cynnwys pedair ystafell ddosbarth, estyniad i'r neuadd bresennol a rhagor o fannau parcio ar y safle.
Cafodd y cyllid ei gymeradwyo ym mis Tachwedd 2020 ac mae gwaith dylunio manwl y cynllun bron wedi'i gwblhau. Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda chymuned yr ysgol a thrigolion lleol cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno, er mwyn sicrhau bod eu barn yn rhan o'r broses. Mae'n bosibl y bydd y gwaith yn dechrau ar y safle yn ystod haf 2021. Bydd y Cyngor yn cynnal asesiad traffig i nodi gwelliannau sydd eu hangen er mwyn creu 'Llwybrau Diogel' lleol yn y gymuned. Mae modd i hyn arwain at welliannau i'r mesurau traffig a diogelwch y ffordd ger yr ysgol, a strategaethau i annog pobl leol i gerdded a beicio.
Ysgol Rhydywaun, Pen-y-waun
Mae cynlluniau i gynyddu nifer y lleoedd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg drwy gynnig 187 lle newydd yn parhau, ac mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno a chontractwr wedi'i benodi. Bydd y cynllun yn cynnwys adeiladu bloc newydd yn yr ysgol, gydag wyth ystafell ddosbarth, ystafelloedd i'r gymuned, cyfleusterau drama a cherddoriaeth a derbynfa newydd ar gyfer yr ysgol, neuadd chwaraeon, ystafell ffitrwydd ac ystafelloedd newid. Mae mannau parcio a gwelliannau traffig wedi'u cynnwys hefyd. Y bwriad yw dechrau'r gwaith ar y safle ym mis Ebrill 2021.
Pan gafodd y cynigion eu cymeradwyo gan y Cabinet yn 2018, £10.2 miliwn oedd yr amcangyfrif o gost y cynllun. Serch hynny, mae gwaith sylweddol wedi'i gyflawni ers hynny - gan gynnwys dadansoddiad o'r cwricwlwm, gwaith archwilio'r safle a gwaith llunio dyluniadau manwl. Mae cwmpas y cynllun wedi datblygu ac erbyn hyn mae'n cynnwys gwaith adnewyddu sylweddol mewn perthynas â sawl rhan o'r ysgol er mwyn gallu darparu'r cwricwlwm mewn modd effeithiol a galluogi'r ysgol i groesawu'r capasiti ychwanegol. Erbyn hyn, mae'r buddsoddiad wedi cynyddu i £12.1 miliwn.
Mae'r pecyn cyllido hefyd wedi newid, mae graddfa ymyrraeth grant Band B Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif wedi codi o 50% i 65% ers iddo gael ei gymeradwyo yn 2018. Felly, er bod cwmpas y cynllun wedi cynyddu, mae cyfraniad y Cyngor ar gyfer cyflawni'r cynllun wedi gostwng o £5.1 miliwn i £4.2 miliwn.
Buddsoddiad Ychwanegol yn ardal Cwm Cynon
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod dros £2 miliwn hefyd wedi'i wario yng Nghwm Cynon ers mis Mawrth 2019 yn rhan o Raglen Gyfalaf a Rhaglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys gosod to newydd, boeleri, toiledau ac ystafelloedd ymolchi, a gwaith cyffredinol i adnewyddu'r ystafelloedd dosbarth a'r mannau chwarae.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: "Bydd Aelodau'r Cabinet yn derbyn diweddariad cynnydd pwysig mewn perthynas â rhaglen fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ardal Cwm Cynon. Mae'r gwaith yn ychwanegu at hanes llwyddiannus y Cyngor o ran darparu cyfleusterau addysg sy'n addas ar gyfer y 21ain ganrif, ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Ein nod yw gwella'r ddarpariaeth ledled RhCT, cafodd pedair ysgol newydd eu hadeiladu yng Nghwm Rhondda ac yn ardal Tonyrefail yn 2018/19, ac mae cynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer ardal Pontypridd yn y dyfodol agos.
"Rydw i'n falch y bydd modd i waith adeiladau'r cynlluniau yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Gyfun Rhydywaun ddechrau cyn bo hir, cyhyd ag y bod ceisiadau cynllunio'n cael eu cymeradwyo. Bydd y cynlluniau yma'n darparu'r cyfleusterau gorau posibl i ragor o bobl ifainc yr ardal. Bydd y ddau gynllun yma'n cynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg yn lleol, wrth i'r Cyngor weithio tuag at gyflawni'r deilliannau gwell sydd wedi'u nodi yn ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg gan gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Mae cynnydd da yn cael ei wneud mewn perthynas â'r buddsoddiad gwerth £10.2 miliwn yn Ysgol Gynradd Hirwaun. Ces i gyfle i fynd i weld y disgyblion a'r staff yn eu hysgol newydd ym mis Tachwedd 2020, ac mae'r cyfleusterau'n wirioneddol wych. Mae'r gwaith i greu mannau awyr agored i gyd-fynd â'r adeilad newydd yn parhau."
Wedi ei bostio ar 18/02/2021