Skip to main content

Llys Cadwyn – gwybodaeth ddiddorol am y prosiect

Llys Cadwyn complete 5

Gan y bydd Llys Cadwyn dim ond yn agor pan fydd yn ddiogel gwneud hynny oherwydd pandemig COVID-19, dyma ychydig o wybodaeth ddiddorol am ei adeiladu, ei gynaliadwyedd a'r gwaith gwerthfawr a gafodd ei gynnal yn y gymuned gan y contractwr Willmott Dixon a charfan y prosiect.

Cafodd gwaith ar y datblygiad newydd ar safle hen ganolfan siopa Cwm Taf yng nghanol tref Pontypridd ei gwblhau ym mis Hydref 2020. Bydd y Cyngor yn gyfrifol am Rif 1 Llys Cadwyn (ger Stryd y Bont) sy'n cynnwys llyfrgell, man cyswllt i gwsmeriaid a chanolfan ffitrwydd o'r radd flaenaf. Mae'r cyfleusterau yma'n barod i gael eu defnyddio.

Rhif 3 Llys Cadwyn (ger Maes Parcio Heol y Weithfa Nwy) yw cartref newydd Trafnidiaeth Cymru ac mae dwy uned bwyd a diod yn yr adeilad hefyd. Cyhoeddodd y Cyngor ym mis Rhagfyr 2020 newyddion cyffrous am denantiaid yr unedau yma, sef Siop Goffi Bradleys a Loungers Ltd (Gatto Lounge). Rydyn ni'n falch o weld Siop Goffi Bradleys eisoes ar agor i'r cyhoedd.

Gan weithio'n agos gyda'r Cyngor, cyflawnodd Willmott Dixon ei nod o adeiladu datblygiad cynaliadwy er budd cenedlaethau'r dyfodol. Aeth y cwmni ymhell y tu hwnt i'r gwaith adeiladu yn unig, gan weithio yn y gymuned i helpu pobl, busnesau a'r economi. Dyma rai ffeithiau allweddol am y prosiect:

  • Cynhaliodd Willmott Dixon 3,987 o wythnosau o waith recriwtio a hyfforddi yn rhan o brosiect Llys Cadwyn, gan ryngweithio â 4,264 o fyfyrwyr lleol.
  • Daeth Willmott Dixon o hyd i 21.97% o'r gweithlu llafur o fewn 10 milltir a 56% o fewn 20 milltir. Roedd hyn yn uwch na'r targedau a gafodd eu pennu, sef 20% a 40%.   Yn yr un modd, roedd 21.97% o wariant y prosiect o fewn 10 milltir ac roedd 63.44% o fewn 20 milltir.
  • At ei gilydd, mae 60% o'r deunyddiau a gafodd eu defnyddio i adeiladu Llys Cadwyn wedi'u hardystio'n rhai o ffynonellau cyfrifol. Mae'r canran ar gyfer cynnwys wedi'i ailgylchu mewn deunyddiau, sef 17.34% hefyd yn rhagori ar ddangosydd perfformiad allweddol Llywodraeth Cymru (10%).
  • Yn ystod cyfnod y gwaith adeiladu (hyd at fis Medi 2020), roedd Willmott Dixon wedi ymgymryd â gweithgareddau codi arian a rhoddion gwerth £49,666.
  • Mae gyda Llys Cadwyn sgôr 'Ardderchog' o dan gynllun sgorio rheoleiddio cydnabyddedig BREEAM ar gyfer adeiladau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Sgôr gyffredinol y prosiect yw 73.8%, ac mae'n sgorio 91% yn y categori ynni.
  • Un o nodweddion cynaliadwy'r datblygiad yw tanc dŵr glaw yn yr islawr sy'n dal dŵr wyneb sy'n glanio ar y toeau a'r lefel podiwm, ac yna'n ei ailgylchu. Caiff y dŵr glaw yma'i ddefnyddio i fflysio'r 120 o doiledau yn y tri adeilad, yn hytrach na defnyddio dŵr glân.
  • Mae paneli solar ar doeau rhifau 2 a 3 Llys Cadwyn, sy'n golygu bod modd ailddefnyddio ynni'r haul i wneud iawn am yr holl drydan sy'n cael ei ddefnyddio.
  • Cydlynodd Willmott Dixon Brosiect Gwaddol i adfywio'r pafiliwn bowls ym Mharc Coffa Ynysangharad. Roedd hyn yn cynnwys 431 o oriau gwirfoddoli (sy'n cyfateb i £16,500 yn amser staff). Hefyd, roedd partneriaid y gadwyn gyflenwi wedi rhoi 146 o oriau o'u gwirfodd a gwerth £3,100 o ddeunyddiau. Enghraifft arall o'r gweithgaredd cymunedol hwn oedd gwaith Willmott Dixon gydag Ysgol Tŷ Coch lle bu disgyblion yn gwneud tasgau fel defnyddio offer realiti rhithwir, a sgwrs am swyddi ym maes adeiladu – tra bod y gadwyn gyflenwi leol wedi cyfrannu at wella gardd synhwyraidd yr ysgol
  • Roedd Rhaglen Fentora Willmott Dixon wedi ymgysylltu â phobl ifainc nad oedden nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Gan weithio gydag Acorn Recruitment a phrosiect Ysbrydoli i Weithio, cymerodd 25 o bobl ran. Un o'r llwyddiannau mawr oedd unigolyn o Aberdâr a enillodd gymwysterau'r diwydiant a chael ei gyflogi'n swyddog lles hylendid y prosiect.
  • Roedd Llys Cadwyn wedi hwyluso rhagor o gyfleoedd hyfforddi hefyd. Roedd Acorn Recruitment, Cymunedau am Waith a’r prosiect Newid Gyrfa wedi helpu menyw o Aberdâr i ddychwelyd i’w gwaith ar ôl pum mlynedd yn dilyn geni'i phlentyn. Gan weithio o amgylch ei hymrwymiadau i'w theulu, cafodd ei chyflogi'n Swyddog Traffig yn Llys Cadwyn ac mae'n gweithio i Willmott Dixon hyd heddiw. Cafodd gweithiwr arall, o Ferthyr Tudful, ei gyflwyno i'r prosiect drwy elusen School of Hard Knocks ar ôl iddo fod yn cymysgu gyda'r bobl anghywir. Daeth yn Weithredydd Cyffredinol yn Llys Cadwyn gan fynd ymlaen i gael ei gyflogi gan gwmni Thames Valley Construction.
  • Bydd llyfr i blant o'r enw 'Pontypridd and the Magical River Taff' yn cael ei lansio yn llyfrgell newydd Llys Cadwyn. Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng Willmott Dixon, Gwasanaeth Llyfrgelloedd RhCT, yr awdur lleol George Summers a disgyblion Ysgol Gynradd Mihangel Sant Eglwys Gatholig Rhufain.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Mae Llys Cadwyn yn adfywio’r ardal yma o ganol tref Pontypridd. Ar ôl y pandemig, bydd yn dod â channoedd o swyddi yma, wrth gynyddu nifer yr ymwelwyr a masnach leol i’r busnesau sydd eisoes yn rhan o'r ardal fanwerthu. Mae'n wych gweld yr hyn mae Willmott Dixon wedi'i gyflawni o ran cynaliadwyedd yr adeilad, wrth gyflawni targedau ar gyfer deunyddiau o ffynonellau cyfrifol a helpu'r economi drwy wario'n lleol a dod o hyd i lafur lleol hefyd.

“Ein nod ar gyfer Llys Cadwyn oedd cyfrannu mwy at Bontypridd na dim ond y tri adeilad, ac roedd Willmott Dixon yn rhagori mewn gweithgareddau codi arian, rhoddion, cyfleoedd hyfforddi ac ymgysylltu lleol â grwpiau allweddol yn y gymuned fel ysgolion. Gall pob un ohonon ni fod yn falch o Lys Cadwyn. Mae'r datblygiad wrth wraidd dyfodol cyffrous i Bontypridd, ochr yn ochr â nifer o brosiectau mawr eraill ar gyfer y dref, gan gynnwys ailddatblygu'r YMCA a Chanolfan Gelf y Miwni.”

Dywedodd Rheolwr-Gyfarwyddwr Willmott Dixon, Neal Stephens: ''O'r cychwyn cyntaf, roedd gyda ni'r un weledigaeth ar gyfer y prosiect â Chyngor Rhondda Cynon Taf, sef sicrhau bod y prosiect yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf ar y gymuned leol. Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi rhagori ar y targedau uchelgeisiol roedden ni wedi'u pennu. Bydd Llys Cadwyn yn darparu cyfleoedd i gynifer o bobl leol ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi ranbarthol.

“Rwy’n hyderus y bydd gwaddol y prosiect yn parhau i ddarparu cyfleoedd i genedlaethau'r dyfodol. Hoffen ni ddiolch i bobl Pontypridd am fod mor groesawgar pan roedden ni ar y safle. Daethon ni i adnabod cymaint o grwpiau cymunedol, pobl ifainc a sefydliadau rhyfeddol yn rhan o'n gwaith mewn perthynas â gwerth cymdeithasol ac rydyn ni'n dymuno bob llwyddiant iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.''

Mae'r Cyngor wedi croesawu buddsoddiad sylweddol gwerth £10 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i helpu i gyflawni prosiect Llys Cadwyn, a hynny drwy raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru sydd werth £110 miliwn.

Wedi ei bostio ar 03/02/2021