Mae'r Cyngor wedi darparu diweddariad ar y cyfleuster Gofal Ychwanegol o'r radd flaenaf, Cwrt yr Orsaf, ym Mhontypridd. Mae hyn wrth i do a ffasâd yr adeilad gael eu gosod a'r cynllun yn agosáu at ei gwblhau yn hwyrach eleni.
Mae Cwrt yr Orsaf yn cael ei adeiladu ar hen safle Llys Ynadon Pontypridd ar Stryd yr Undeb yn y Graig, ac mae'n rhan o gynllun ar y cyd rhwng y Cyngor a Linc Cymru (Linc). Bydd y datblygiad yn cynnwys 60 o fflatiau newydd (56 fflat un ystafell wely, a 4 fflat ddwy ystafell wely), yn ogystal ag ystafell fwyta a lolfa, cegin gymunedol, salon trin gwallt, maes parcio â lle i 31 car, gerddi cymunedol wedi'u tirlunio, ac uned gofal oriau dydd. Bydd y fynedfa i'r safle hefyd yn cael ei hestyn.
Mae Gofal Ychwanegol yn helpu pobl hŷn i fyw bywydau mor heini ac annibynnol â phosibl, gyda chymorth ar gael ddydd a nos ar y safle er mwyn bodloni anghenion y preswylwyr. Mae buddsoddiad o £50 miliwn yn cael ei wneud i ddarparu 300 o welyau Gofal Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf, sy'n cynnwys y gwaith ar hyn o bryd i ddatblygu pum cynllun newydd sbon.
Cwrt yr Orsaf fydd y trydydd cyfleuster Gofal Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf ar ôl Tŷ Heulog yn Nhonysguboriau a'r cyfleuster newydd sbon, Maes-y-ffynnon, yn Aberaman, a gafodd ei agor y llynedd. Ym mis Rhagfyr 2020, cytunodd Aelodau'r Cabinet i fwrw ati gyda chynlluniau ar gyfer pedwerydd cyfleuster ar safle Cartref Gofal Dan-y-Mynydd yn y Porth, ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer y dyfodol yn Nhreorci ac Aberpennar hefyd.
Ar y safle, mae'r gwaith ar gyfleuster Cwrt yr Orsaf yn agosáu at ei gwblhau yn ystod haf 2021, er gwaethaf yr heriau sylweddol sy'n wynebu contractwyr Linc, Jehu Project Services Ltd, o ganlyniad i'r pandemig COVID-19.
Yn allanol, ochr yn ochr â chwblhau pob rhan o'r to a'r ffasâd bricwaith, mae cynnydd yn cael ei wneud o ran y cladin ar bob gwedd. Yn fewnol, mae'r gwaith o osod plastr sgim ar y waliau'n parhau, ynghyd â gosod y ceginau a'r drysau mewnol yn y fflatiau ar y llawr gwaelod isaf a'r llawr gwaelod uchaf. Mae'r gwaith gosod teils yn ystafelloedd ymolchi a cheginau'r fflatiau yma yn dod yn ei flaen hefyd.
Mae'r systemau mecanyddol a thrydanol i gyd bron wedi'u gosod at y llawr uchaf, ac mae'r tri thwll grisiau yn eu lle hefyd. Mae ffenestri a sgriniau alwminiwm wedi'u gosod drwyddi draw, ac mae'r gwydr yn ei le.
Y gwaith nesaf ar y safle yw gorffen y cladin, datgymalu tŵr y craen, a pharhau i weithio ar y plastrfwrdd a'r systemau mecanyddol a thrydanol. Bydd gwaith i osod lifft y cyfleuster hefyd yn mynd yn ei flaen.
Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Cymuned i Oedolion: "Mae'r diweddariad yma yn dangos fod cynnydd da yn cael ei wneud i gwblhau Cwrt yr Orsaf yn hwyrach eleni. Hwn fydd y trydydd cyfleuster Gofal Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf.
"Yn y cyfleusterau sydd eisoes wedi agor yn Nhonysguboriau ac Aberaman, rydyn ni wedi gweld sut y mae'r cynllun Gofal Ychwanegol yn darparu cymorth wedi'i dargedu ddydd a nos i'w breswylwyr mewn amgylchedd o'r radd flaenaf. Mae preswylwyr yn ffurfio cymunedau ym mhob adeilad, tra bod cynllun y cyfleuster a'r cymorth sydd ar gael yn eu hannog i integreiddio â'r gymuned leol.
“Ym mis Rhagfyr, yn dilyn ymgynghori helaeth â'r cyhoedd, cytunodd y Cabinet i ddiwygio'r cynllun ar gyfer dyfodol gwasanaethau gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn yn y Fwrdeistref Sirol. Mae hyn yn golygu y bydd naw o gartrefi gofal y Cyngor yn aros ar agor a bydd cynlluniau pellach i foderneiddio pob un yn llawn.
"Mae datblygu pum cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd wrth wraidd y ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol, trwy fuddsoddiad parhaus o £50 miliwn. Mae hyn yn cynnwys cyfleusterau Maes-y-ffynnon a Chwrt yr Orsaf, ynghyd â'r cynlluniau ar gyfer cyfleusterau yn y Porth, Aberpennar a Threorci yn y dyfodol. Yn rhan o benderfyniad diweddar y Cabinet, mae cytundeb bellach y bydd cyfleuster yn cael ei sefydlu yn y Porth ar safle Cartref Gofal Dan-y-Mynydd. Bydd cynlluniau manwl ar gyfer y datblygiad yma ar gael yn fuan.
"Rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd pellach o ran y gwaith yng Nghwrt yr Orsaf dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, wrth i'r Cyngor a Linc gydweithio i gwblhau'r cyfleuster eleni. Rwy'n edrych ymlaen hefyd at ymweld â'r cyfleuster yn y dyfodol, unwaith y bydd cyfyngiadau COVID-19 yn caniatáu imi wneud hynny'n ddiogel."
Ychwanegodd Prif Weithredwr Linc Cymru, Scott Sanders: "Mae'r bartneriaeth rhwng Linc a Chyngor RhCT yn enghraifft wych o sut y mae modd adeiladu cartrefi i bobl hŷn ar draws sawl cymuned wahanol. Bydd Cwrt yr Orsaf yn dod â bywyd newydd i hen safle Llys Ynadon Pontypridd, gan ehangu ar y ddarpariaeth gofal wedi'i deilwra sydd ar gael mewn safleoedd preswyl. Rydyn ni'n falch ein bod ni a'n contractwr adeiladu, Jehu, ar y trywydd iawn i orffen y gwaith ar amser, a hynny mewn cyfnod sydd wedi peri sawl her i'r diwydiannau i gyd."
Wedi ei bostio ar 02/02/21