Skip to main content

Trefniadau dychwelyd i'r ysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen ar ôl hanner tymor

Hirwaun Primary - Facilities - Children - GDPR Approved - November 2020-2

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn Rhondda Cynon Taf wedi derbyn llythyr yn amlinellu trefniadau ar gyfer ysgolion ar ôl hanner tymor. Bydd disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb yn raddol o 22 Chwefror.

Mae'r llythyr, a anfonwyd gan Gyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y Cyngor, yn tynnu sylw at benderfyniad diweddaraf Llywodraeth Cymru ynghylch dychwelyd i'r ysgol.  Ar 29 Ionawr, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y byddai cynlluniau yn cael eu rhoi ar waith i groesawu'r disgyblion ieuengaf yn ôl i ysgolion cynradd fesul cam pe bai nifer yr achosion o'r Coronavirus yn parhau i ostwng. Mae'r dystiolaeth feddygol ddiweddaraf wedi’i chyhoeddi yn cefnogi'r penderfyniad yma, a gadarnhawyd gan y Gweinidog Addysg ar 5 Chwefror.

O ddydd Llun, 22 Chwefror, bydd y broses o groesawu plant yn ôl i ddosbarthiadau meithrin, derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn ddiogel yn cychwyn. Bydd pob disgybl yn y Cyfnod Sylfaen yn dychwelyd erbyn 26 Chwefror, a bydd ysgolion yn cysylltu â disgyblion i roi gwybod iddyn nhw pa grŵp blwyddyn sy'n dechrau ar ba ddiwrnod.

Bydd y ddarpariaeth bresennol ar gyfer plant gweithwyr hanfodol mewn ysgolion yn parhau ar ôl gwyliau hanner tymor, yn ystod oriau'r ysgol. Mae’r ddarpariaeth yma ar gyfer disgyblion prif ffrwd ym mlynyddoedd 3-8, disgyblion darpariaeth cynnal dysgu mewn ysgolion uwchradd ym mlynyddoedd 7-11 a disgyblion ysgolion arbennig ym mlynyddoedd 3-13. Bydd darpariaeth ar gyfer disgyblion sy’n agored i niwed hefyd yn parhau ar gyfer y disgyblion hynny ym mlwyddyn 3 a blynyddoedd hŷn. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol at yr ysgolion perthnasol.

Bydd darpariaeth clybiau brecwast ar gael ym mhob ysgol gynradd o 22 Chwefror i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen a oedd wedi llwyddo i gael lle mewn clwb brecwast ar gyfer tymor y gwanwyn, a disgyblion sy'n manteisio ar ddarpariaeth i ddisgyblion sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol ar safle'r ysgol (yn amodol ar nifer y lleoedd sydd ar gael).

Bydd prydau ysgol ar gael ar y safle yn ôl yr arfer.  Bydd taliadau prydau ysgol am ddim yn parhau ar gyfer y rheiny yn y Cyfnod Sylfaen hyd at 26 Chwefror.  Bydd plant cymwys sydd wedi dychwelyd i'r ysgol ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb yn derbyn pryd ysgol am ddim yn yr ysgol o 22 Chwefror. Bydd taliadau'n parhau ar gyfer y disgyblion hynny nad oes modd iddyn nhw ddychwelyd i’r ysgol ar hyn o bryd (felly’n parhau â dysgu o bell), ac ar gyfer y disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn sy’n gwarchod neu’n hunanynysu.

Bydd trefniadau dysgu o bell yn parhau ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 3 a blynyddoedd hŷn – yn ogystal ag ar gyfer y disgyblion hynny sy'n gwarchod neu sy'n hunanynysu.  

Nodwch – Ar hyn o bryd, mae disgwyl i'r holl gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 cenedlaethol eraill barhau i fod ar waith ar ôl 22 Chwefror. Felly, mae rhaid i blant a theuluoedd barhau i aros gartref a gwneud teithiau hanfodol yn unig, y tu allan i oriau ysgol.

Wrth gasglu disgyblion o'r ysgol, rhaid i rieni/gwarcheidwaid gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr bob amser a gwisgo gorchuddion wyneb ar dir yr ysgol. Argymhellir i un rhiant/gwarcheidwad fynd â phlant i'r ysgol a'u casglu a rhaid i rieni/gwarcheidwaid adael safle’r ysgol ar unwaith a pheidio ag ymgynnull. Bydd cludiant ysgol ar gael yn ôl yr arfer ar gyfer y disgyblion sydd â hawl iddo.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Oherwydd y duedd gyffredinol o ostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o'r Coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ein disgyblion ieuengaf yn dychwelyd i'r ysgol yn raddol ac yn ddiogel ar ôl hanner tymor ar 22 Chwefror.  Dyma newyddion cadarnhaol iawn, a'r cam cyntaf tuag at groesawu'r holl ddisgyblion yn ôl i ysgolion – dyma'r hyn rydyn ni i gyd eisiau ei gyflawni.

“Hoffwn ailadrodd y neges o ddiolch a roddwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yn ei llythyr at rieni a gwarcheidwaid yr wythnos yma. Mae'r gefnogaeth y cafodd pobl ifainc wrth ddysgu gartref wedi bod yn gwbl amhrisiadwy. Mae llawer o rieni a gwarcheidwaid wedi cyflawni hyn ochr yn ochr â'u swyddi ac ymrwymiadau hanfodol eraill. 

“Mae'r gwaith caled yma hefyd wedi'i adlewyrchu yn ymdrech aruthrol ein staff ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol. Maen nhw wedi trefnu a chynnal dysgu a chefnogaeth o bell, a hynny wrth ddarparu dysgu wyneb yn wyneb ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a pharhau i roi cefnogaeth i ddisgyblion sy'n agored i niwed. Rydw i'n siŵr bod pawb yn edrych ymlaen at groesawu disgyblion y dosbarthiadau meithrin a derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn ôl i'r ysgol, er mwyn ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth.

“Mae'r cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 cenedlaethol ehangach yn parhau i fod ar waith, felly mae'n bwysig iawn o hyd i blant ddilyn y rheolau aros gartref pan dydyn nhw ddim yn yr ysgol. Bydd trefniadau dysgu o bell yn parhau ar gyfer Blwyddyn 3 a blynyddoedd hŷn. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'n holl bobl ifainc am eu hymrwymiad yn ystod y cyfnod heriol iawn yma, ac i'w teuluoedd am y cymorth parhaus y maen nhw'n ei roi gartref.”

Wedi ei bostio ar 18/02/2021