Skip to main content

SICRHAU BOD POB SAFLE YSGOL A MAES CHWARAE LEDLED RHCT YN DDI-FWG ERBYN 1 MAWRTH

web

Bydd deddfau newydd yn dod i rym cyn bo hir a fydd yn gwneud rhagor o leoedd yn Rhondda Cynon Taf a dros Gymru gyfan yn rhai di-fwg.

Mae'r deddfau, sy'n cael eu cyflwyno ledled Cymru ar 1 Mawrth, yn ehangu'r gwaharddiad ysmygu a gyflwynwyd yn 2007, a'r gobaith yw y bydd yn diogelu rhagor o bobl rhag effaith niweidiol mwg ail-law ac yn helpu'r rhai sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi.

Yn 2009, Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r Cynghorau cyntaf yn y DU i wahardd ysmygu ym mhob maes chwarae sy'n eiddo i'r Cyngor, gan roi hysbysiad cosb benodedig o £100 i unigolion fyddai'n cael eu dal yn taflu sbwriel sy'n gysylltiedig ag ysmygu. Cafodd hyn ei gyflwyno'n rhan o fenter Meysydd Chwarae Di-Fwg, a oedd yn gofyn i awdurdodau lleol ledled y DU gyflwyno polisïau di-fwg ym meysydd chwarae eu hardaloedd er mwyn diogelu pobl ifainc rhag niwed mwg ail-law.

Ym mis Mawrth 2016, fe wnaeth pob awdurdod lleol yng Nghymru gyflwyno gwaharddiadau gwirfoddol yn eu meysydd chwarae lleol ac erbyn hyn mae gan y 22 awdurdod lleol yng Nghymru feysydd chwarae di-fwg.

Bydd y gyfraith newydd yn golygu bod gan Swyddogion Gorfodi carfan Iechyd y Cyhoedd y Cyngor y pŵer i roi dirwyon i unrhyw un sy'n ysmygu ar dir yr ysgol a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal ag ar dir lleoliadau gofal oriau dydd a lleoliadau gwarchod plant, ac ar dir ysbytai. Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn torri'r gyfraith yn wynebu dirwy o £100.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i'w gwneud hi'n drosedd i ysmygu yn yr ardaloedd yma. Diben hyn yw gwneud hi'n anoddach i ysmygu'n gyhoeddus a lleihau'r siawns y bydd plant a phobl ifainc yn dechrau ysmygu yn y lle cyntaf – gyda'r bwriad o achub bywydau yn y pen draw.

Meddai'rCynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol:

“Mae cefnogaeth gyhoeddus gref i gyfyngu ar ysmygu lle mae plant yn debygol o fod yn bresennol a rhaid i ni barhau i gymryd camau i ddadnormaleiddio'r arfer a darparu neges glir iawn ar gyfer ein plant. Mae'r dystiolaeth yn glir: mae ysmygu yn niweidiol. Rhaid i'n neges ni i bawb fod yr un mor glir hefyd.

“Mae'r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno er mwyn i'r rhai sy'n ymweld â'n meysydd chwarae a staff, rhieni a gwarcheidwaid, yn ogystal ag ymwelwyr i'n hysgolion a'n lleoliadau gofal, fwynhau amgylchedd iachach. Y gobaith yw y bydd hefyd yn darparu lleoliadau mwy diogel a glân ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Mae llawer o ysmygwyr eisoes wedi rhoi'r gorau i ysmygu oherwydd effaith pandemig COVID-19 a'r gobaith yw y bydd y ddeddfwriaeth newydd yma'n annog rhagor o bobl i roi'r gorau iddi. Y ffordd orau o sicrhau bod modd rhoi'r gorau i ysmygu unwaith ac am byth yw drwy ofyn am gymorth arbenigol.

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru, sefydliad sy'n bwrw ati i sicrhau Cymru ddi-fwg:

“Mae'r rhai sy'n dechrau ysmygu cyn eu bod yn 16 oed ddwywaith yn fwy tebygol o barhau i ysmygu o gymharu â'r rhai sy'n dechrau pan fyddan nhw'n hŷn, ac maen nhw'n fwy tebygol o fod yn ysmygwyr trymach.

“Mae arolwg YouGov diweddaraf ASH Cymru wedi dangos bod 81% o oedolion sy'n ysmygu yng Nghymru wedi profi eu sigarét gyntaf cyn cyrraedd 18 oed. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn sicrhau nad yw ein pobl ifainc heddiw yn tyfu i fod yn genhedlaeth o ysmygwyr.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth yma hefyd yn paratoi'r ffordd i ragor o ardaloedd cyhoeddus yng Nghymru fynd yn ddi-fwg."

Mae modd i'r rhai sy'n chwilio am help i roi'r gorau i ysmygu fanteisio ar wasanaeth cymorth am ddim GIG Cymru 'Helpa Fi i Stopio' drwy ffonio 0800 085 2219 neu ewch i https://www.helpafiistopio.cymru/ i gael help a chymorth, gan gynnwys mynediad at feddyginiaeth am ddim i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu.

Wedi ei bostio ar 23/02/2021