Skip to main content

Ysgol Ragoriaeth

Craig Prichard

Mae un o ysgolion cynradd yn Rhondda Cynon Taf wedi'i henwi'n 'Ysgol Ragoriaeth' gyntaf y DU ar gyfer lles meddyliol.

Mae Ysgol Gynradd Pen-y-waun, Aberdâr, wedi’i henwi'n Ysgol Ragoriaeth 'Thrive' gyntaf y DU am ei rôl wrth gefnogi lles ei disgyblion er mwyn mynd i'r afael â materion iechyd meddwl.

Mae'r ysgol wedi derbyn ei chydnabyddiaeth genedlaethol ar ôl mynd trwy broses asesu drylwyr gan Thrive, un o brif ddarparwyr cefnogaeth o ran datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant a phobl ifainc.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:

“Llongyfarchiadau i’r holl staff, disgyblion a phawb sy’n gysylltiedig ag Ysgol Gynradd Pen-y-waun ar ennill y wobr genedlaethol yma.

“Rydyn ni'n ymfalchïo ym mhopeth y mae ein disgyblion yn ei gyflawni ledled Rhondda Cynon Taf, a dyna pam rydyn ni'n cefnogi datblygiad emosiynol a chymdeithasol pob un o'n disgyblion ar eu taith academaidd.

“Mae'r wobr yma'n cydnabod ysgolion arbennig sy'n cael effaith gadarnhaol ar eu disgyblion a'r gymuned ehangach trwy ystyried lles emosiynol fel un o'u prif nodau a chreu amgylchedd lle mae iechyd a lles emosiynol plant yn ffynnu.

“Rwy’n cymeradwyo’r gwaith gwych yn Ysgol Gynradd Pen-y-waun ac rwy'n edrych ymlaen at ddod i'r ysgol pan fydd yr amgylchiadau presennol yn newid. Mae'r staff a'r disgyblion yn haeddu'r wobr yma'n fawr oherwydd bod gan bawb ran i'w chwarae wrth greu amgylchedd mor gadarnhaol.”

Meddai Craig Prichard, Pennaeth Ysgol Gynradd Pen-y-waun:

“Fel ysgol, fe wnaethon ni benderfynu tua phum neu chwe blynedd yn ôl y bydden ni'n blaenoriaethu lles meddyliol ein plant.

“Dyma ethos y mae pawb yn ei weithredu ac rwy'n credu ei fod yn amlwg pan fyddwch chi'n cerdded trwy ddrysau'r ysgol ac yn sylwi ar yr ymdeimlad o dawelwch a llonyddwch a pherthyn i gymuned.

“I mi, y canlyniadau yw’r hyn rwy’n ei weld yn yr ysgol bob dydd - mae’n ymwneud â magu hunan-barch a hyder plant a’u gweld yn dysgu rheoli eu hemosiynau eu hunain gan helpu eu ffrindiau i wneud yr un peth.”

Y wobr 'Ysgol Ragoriaeth' yw'r cyflawniad uchaf y gall ysgol ei hennill yn rhan o Gynllun Llysgenhadon Ysgolion, a gafodd ei lansio y llynedd fel ffordd o gydnabod rhagoriaeth ysgolion sy'n rhan o'r cynllun.

Mae pum prif faes lle mae modd i ysgolion ddangos eu gwaith rhagorol yn cefnogi datblygiad iechyd meddwl a lles eu disgyblion – yr Amgylchedd, Arweinyddiaeth, Amser Cywir, Gwneud Iawn a Pherthynas, gyda'r wobr Ysgol Ragoriaeth ar gael i ysgolion sy'n cyrraedd y safon uchaf ar draws pob un o'r pum categori.

 

Wedi ei bostio ar 15/02/2021