Skip to main content

Flwyddyn ers Storm Dennis – y newyddion diweddaraf am gyllid a'r seilwaith

Storm grid

Heddiw mae'r Cyngor wedi croesawu cyllid sylweddol gwerth £4.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru a fydd yn helpu â'r gwaith sy'n mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r difrod a gafodd ei achosi gan Storm Dennis. Mae'r Cyngor hefyd wedi rhannu newyddion am y cynnydd diweddaraf ar waith atgyweirio'r seilwaith flwyddyn ers y storm.

Ddydd Mawrth, Chwefror 16, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid gwerth £21.5 miliwn i helpu Cynghorau Cymru i atgyweirio difrod i'r seilwaith oherwydd tywydd garw. Flwyddyn ar ôl Storm Dennis, cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James a’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, fod Rhondda Cynon Taf wedi cael £4.4m i gefnogi’r gwaith sy'n parhau o hyd ar briffyrdd, pontydd, cwlfertau a waliau cynnal ledled y Fwrdeistref Sirol.

O ganlyniad i Storm Dennis (Chwefror 15-17, 2020) roedd uchder a lefelau llif afonydd ar eu huchaf erioed wrth i Rondda Cynon Taf brofi ei lifogydd gwaethaf ers y 1970au, gan effeithio ar y tu mewn i 1,476 o gartrefi neu adeiladau. Roedd yn un o bedair storm olynol a ddaeth yn fuan iawn ar ôl ei gilydd, a oedd hefyd yn cynnwys Storm Ciara (Chwefror 8-9), storm ddienw (Chwefror 21-24) a Storm Jorge (Chwefror 28-Mawrth 1).

Wrth ymateb, roedd y Cyngor wedi mynd i'r afael â bron i bob un elfen o'r storm. Aeth ati i gefnogi'r gwasanaethau brys i helpu i sicrhau bod adeiladau'n cael eu gwacáu, sefydlu canolfannau gorffwys ar gyfer y trigolion hynny a oedd yn gorfod gadael eu cartrefi, sicrhau bod cyllid brys ar gael i deuluoedd a chydlynu apêl fwyd fwyaf erioed y Fwrdeistref Sirol. Ar ôl i lefelau'r dŵr ostwng, roedd modd i'r Cyngor asesu'r difrod eang i'r seilwaith.

Gan gynnwys y rheiny ym mis Chwefror 2020, roedd y Fwrdeistref Sirol wedi profi 17 o stormydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn ystod y cyfnod yma, mae carfan Rheoli Risg Llifogydd y Cyngor wedi:

  • Ymchwilio i 2,514 o adroddiadau o lifogydd
  • Archwilio mwy na 48 cilomedr o seilwaith y cwrs dŵr (roedd 41 cilomedr ohono o dan y ddaear)
  • Tynnu tua 2,000 o dunelli o weddillion o'r uchod
  • Paratoi 19 o 'Adroddiadau Archwilio Llifogydd Adran 19'
  • Cynnal gwaith atgyweirio brys ar 31 o asedau cwrs dŵr cyffredin

Yn ogystal â hyn, mae'r garfan wedi cyflenwi rhaglen gyfalaf garlam sy'n targedu 34 o gynlluniau unigol. O ran y cynnydd, mae'r Cyngor wedi llunio achosion busnes ac wedi cynnal gwaith dylunio ac adeiladu manwl. Mae rhai o'r prif gynlluniau wedi'u rhestru isod:

  • Lôn y Parc, Trecynon – mae'r gwaith ar gynllun i ddarparu pyllau arafu llifogydd a lleihau'r risg o lifogydd yn yr ardal bron wedi'i gwblhau
  • Cilfach Heol Pentre – mae gwaith sylweddol yn parhau ar y safle i osod ceg cwlfert, pwll gweddillion a gorlif newydd o ganlyniad i ddifrod gan Storm Dennis er mwyn lleihau'r risg o lifogydd lleol
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre – mae'r gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu achos busnes ar gyfer cynigion i liniaru'r risg o lifogydd yn y gymuned
  • Bryn Ifor, Aberpennar – mae'r gwaith i osod ceg cwlfert newydd a gwell ac i hwyluso dŵr wrth deithio dros y tir wedi'i gwblhau
  • Cwlfert Ffordd y Rhigos –mae cwlfert a gafodd ei ddifrodi wedi'i atgyweirio ac mae cynllun i adfer dau gwlfert arall gerllaw yn cael ei lunio
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Cwm-bach - mae'r gwaith yn parhau ar y safle i greu llwybr pwrpasol i ddŵr deithio dros y tir sy'n ymgorffori ystyriaethau sy'n ecogyfeillgar
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Glen-boi – mae'r gwaith dylunio yn mynd rhagddo ar gynllun i ddarparu mesur rheoli pwrpasol i ddŵr deithio dros y tir
  • Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci – mae achos busnes wedi'i gynnig i liniaru'r risg o lifogydd o ganlyniad i ddŵr wyneb a'r cwrs dŵr cyffredin ac mae gwaith archwilio wedi cychwyn ar y safle

O ran seilwaith arall (gan gynnwys pontydd, waliau a thirlithriadau), mae'r her enfawr o nodi difrod a dylunio/atgyweirio yn mynd rhagddo ledled y Fwrdeistref Sirol. Yn y rhestr isod mae crynodeb o rai o'r cynlluniau sydd naill ai wedi'u cwblhau, wedi'u cynllunio neu'n mynd rhagddynt.

  • Pont M&S, Pontypridd – cafodd y gwaith atgyweirio ei gwblhau ar y safle yn y parc, ac mae'r bont wedi'i chodi yn ôl i'w lle. Mae'r gwaith atgyweirio bron â'i gwblhau ac mae'r bont ar fin ailagor yn ystod yr wythnosau nesaf
  • Pont droed y Bibell Gludo, Abercynon – mae'r strwythur wedi'i ddymchwel ac mae cynlluniau ar y gweill i'w ddisodli yn 2022/23
  • Pont droed TynyBryn, Tonyrefail – cafodd gwaith atgyweirio brys ei gynnal, ac mae gwaith archwilio a dylunio'r safle er mwyn cael pont newydd yn mynd rhagddo
  • Pont Tramffordd Pen-y-darren, Trecynon – gan weithio gyda Cadw, mae cais am gydsyniad Heneb Gofrestredig wedi'i gyflwyno er mwyn cynnal gwaith atgyweirio
  • Pontydd Stryd Bailey, Stryd Canning a Heol y Maendy, Tonpentre – mae gweddillion wedi'u symud ac mae'r gwaith atgyweirio i osod deunyddiau i atal erydu wedi'i gwblhau ar y pontydd yma
  • Pont Myrddin, Trehopcyn – cafodd gwaith atgyweirio i osod deunyddiau i atal erydu ei gynnal ar y strwythur yma gan gontractwyr arbenigol
  • Wal Afon Blaen-cwm – bydd contractwr yn cael ei benodi cyn bo hir i gyflawni'r gwaith atgyweirio terfynol sydd ei angen i agor Heol Blaen-y-Cwm yn llawn
  • Wal Afon Heol Berw, Pontypridd – ar ôl arolygiad, cafodd gwaith brys ei gynnal ac mae gwaith atgyweirio llawn wedi'i amserlenni
  • Pont Heol Berw (Y Bont Wen), Pontypridd – cafodd cynlluniau eu cyhoeddi yn ddiweddar i gynnal gwaith atgyweirio dros dro. Gallai hyn olygu bod modd ailagor y bont erbyn yr haf yma. Byddai rhaglen atgyweirio lawn yn 2022 gyda'r bont ar gau
  • Wal Afon y Castle Inn, Rhydfelen - mae'r gwaith atgyweirio i osod deunyddiau i atal erydu bellach wedi'i gwblhau ac mae'r goleuadau traffig ar gyfer y gwaith yma wedi'u symud oddi ar y safle yn ddiweddar
  • Wal Afon Heol Pontypridd, Porth – mae gwaith atgyweirio cychwynnol wedi'i gynnal i leihau'r risg o'r strwythur yma rhag cwympo
  • Ffordd Mynydd y Maerdy – mae gwaith archwilio'n mynd rhagddo mewn perthynas â'r gwaith atgyweirio tymor hir rhaid ei gynnal oherwydd lefelau'r dŵr yn ystod Storm Dennis
  • Tirlithriad Llwybr Cymunedol Ynys-hir – mae gwaith archwilio'r ddaear wedi'i gynnal ac mae gwaith dylunio yn mynd rhagddo
  • Tirlithriad Tylorstown – mae cynnydd sylweddol wedi mynd rhagddo mewn perthynas â chynllun adfer pedwar cam. Mae'r gwaith yma'n cynnwys cael gwared ar y rhan helaeth o'r deunydd o'r tirlithriad, ac adfer llwybr yr afon
  • Wal Afon Stryd y Groes, Ynys-hir – mae'r gwaith dylunio'n mynd rhagddo er mwyn atgyweirio ac ailadeiladu'r strwythur yma

Dydy'r rhestr yma o'r holl waith atgyweirio sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, neu sydd ar y gweill, ddim yn gynhwysfawr. Mae'r Cyngor yn dal i fod wrthi'n penderfynu ar y ffordd orau i fynd ati i atgyweirio strwythurau eraill sydd wedi'u difrodi, fel Pont y Castle Inn yn Nhrefforest.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Heddiw, rydyn ni wedi croesawu cyllid sylweddol gwerth £4.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru, i'n helpu gyda'n gwaith atgyweirio ac adfer o ganlyniad i ddifrod gan stormydd, yn enwedig Storm Dennis flwyddyn yn ôl. Rydyn ni wedi egluro bod dim modd atgyweirio'r difrod i'r seilwaith dros nos a byddai'r gwaith atgyweirio gwerth degau o filiynau o bunnoedd yn cael ei gynnal dros sawl blwyddyn. Mae'r ymrwymiad i gynnal y gwaith yna o hyd, a byddwn ni'n mynd ar drywydd cyllid allanol lle bo hynny'n bosibl.

“Ein blaenoriaeth gyntaf yn ar ôl Storm Dennis oedd sicrhau bod pobl yn ddiogel a bod teuluoedd a oedd yn gorfod gadael eu cartrefi yn cael cefnogaeth. Mae'r gefnogaeth yna'n dal i gael ei darparu hyd heddiw, er ein bod wedi troi ein sylw at asesu’r difrod enfawr o ganlyniad i Storm Dennis. Mae'n bwysig cofio hefyd ein bod ni wedi profi 17 o stormydd yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gynnwys Stormydd Ellen a Francis ym mis Awst 2020, Storm Aiden ym mis Hydref 2020, Storm Bella ym mis Rhagfyr 2020 a Storm Christoph ym mis Ionawr 2021. Ar bob achlysur defnyddiodd y Cyngor adnoddau ychwanegol i gefnogi ein trigolion.

“Ar safleoedd gwaith, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn mynd rhagddo mewn nifer o leoliadau gan gynnwys Heol Pentre, Tirlithriad Tylorstown a Pharc Coffa Ynysangharad, a hynny ar gyfer Pont M&S a Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Yn gynharach y mis yma, cyhoeddon ni ein cynllun dau gam i atgyweirio'r Bont Wen ym Mhontypridd, gan fod gwaith atgyweirio cychwynnol yn golygu byddai modd agor y strwythur i draffig erbyn yr haf. Byddwn ni'n parhau i rannu'r newyddion am ein cynnydd o ran cynlluniau'r seilwaith mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol.

“Mae cynnydd pwysicach wedi bod yn ystod y misoedd diwethaf, wrth i Swyddogion gymeradwyo 11 o argymhellion i sicrhau bod y Cyngor hyd yn oed yn fwy parod ar gyfer tywydd garw yn y dyfodol, sy'n anochel yn anffodus oherwydd newid yn yr hinsawdd. Cytunodd Aelodau'r Cabinet ar y rhain ym mis Rhagfyr 2020 ac mae nifer o gamau gweithredu bellach wedi mynd rhagddynt, gan gynnwys sefydlu ystafell reoli amlasiantaeth i helpu i gydlynu ymateb y Cyngor gyda phartneriaid yn ystod tywydd garw.

“Hefyd, yn ddiweddar mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno ar gyllid gwerth £500,000 y flwyddyn bob blwyddyn i fynd tuag at garfanau ychwanegol i fynd i’r afael â materion Draenio. Bydd hyn yn cynyddu’r gwaith atgyweirio a chynnal a chadw. Cafodd y cyllid ei gytuno arno yn rhan o gynigion Cyllideb Ddrafft 2021/22 a fydd yn cael eu gosod ger bron y Cyngor Llawn cyn bo hir.

“Aeth y Cyngor ati i ymgysylltu a thrigolion a busnesau ym mis Ionawr 2021 fel bod modd i'r rheiny a gafodd eu heffeithio gan lifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf helpu ein Swyddogion i gasglu ynghyd wybodaeth leol, data ar stormydd a gwybodaeth hanesyddol am lifogydd. Daeth tua 300 o ymatebion i law a fydd yn helpu i lywio gwaith lliniaru llifogydd wedi'i dargedu yn y dyfodol.

“Hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cyllid diweddaraf yma. Mae hyn yn ychwanegol at y gefnogaeth flaenorol a ddaeth i law’r Cyngor ganddyn nhw er mwyn mynd i’r afael â gwaith gwella ac atgyweirio’r seilwaith a gafodd ei difrodi yn ystod Storm Dennis”.

Wedi ei bostio ar 16/02/21