Flwyddyn yn ôl i heddiw, roedd rhai o'r llifogydd gwaethaf erioed yn ardal Rhondda Cynon Taf wedi effeithio ar drigolion a busnesau ledled y Sir.
Yn dilyn diwrnodau o dywydd garw, gan gynnwys glaw trwm parhaus, torrodd afonydd ledled y Fwrdeistref Sirol eu glannau, gan arwain at lifogydd a effeithiodd ar dros 1,400 o gartrefi a busnesau. Roedd rhaid i deuluoedd adael eu cartrefi yn dilyn difrod digynsail a effeithiodd ar nifer o gymunedau.
Doedd teithio ar y ffyrdd ddim yn bosibl, er gwaethaf ymdrechion y Cyngor i'w cadw ar agor, a daeth trafnidiaeth gyhoeddus i ben dros dro. Yn dilyn y rhybudd tywydd Coch a gafodd ei gyhoeddi yn ystod oriau mân y bore, ddydd Sul, 16 Chwefror, 2020, roedd Heddlu De Cymru wedi datgan fod Storm Dennis yn ddigwyddiad mawr.
Roedd y Cyngor wedi gweithio gyda'r Gwasanaethau Brys ac asiantaethau partner trwy gydol y nos a gyda'r bore er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa a sicrhau diogelwch y trigolion.
Er mwyn ymateb i'r digwyddiad, sefydlodd Arweinydd y Cyngor y Bwrdd Adfer ar ôl Digwyddiadau Mawr ar unwaith er mwyn cydlynu cynllun adfer y Cyngor yn dilyn effaith ddinistriol Storm Dennis.
Aeth y Cyngor ati i ddechrau asesu'r difrod i'w seilwaith, yn enwedig o ran y ffyrdd, pontydd, waliau cynnal, waliau afon ac amddiffynfeydd rhag llifogydd, cyn gynted ag yr oedd y tywydd a dŵr y llifogydd wedi caniatáu hynny. Roedd hyn hefyd yn cynnwys ymchwiliadau mewn perthynas â'r tirlithriad yn ardal Tylorstown. Mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd da yn yr ardal yma'n dilyn gwaith adfer.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, roedd cyllid gwerth miliynau o bunnoedd ar gael i helpu trigolion, busnesau a'r Awdurdod Lleol er mwyn cychwyn y broses o gyflawni'r gwaith adfer sylweddol, sy'n parhau i gael ei gyflawni heddiw - blwyddyn yn ddiweddarach.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae heddiw yn nodi blwyddyn ers Storm Dennis, a achosodd difrod a dinistr digynsail mewn cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf, roedd hyn yn cynrychioli digwyddiad un ym mhob 290 o flynyddoedd.
"Roedd natur eithriadol Storm Dennis yn golygu bod rhannau o'r Sir wedi gweld gwerth bron i 75% o fis o law mewn cyfnod o 24 awr. Byddai'r Afon Taf a oedd yn llifo trwy dref Pontypridd wedi gallu llenwi pwll nofio maint Olympaidd bob tri eiliad.
"Yn dilyn gwaith paratoi sylweddol yn ystod y diwrnodau cyn y digwyddiad, roedd y Cyngor hefyd wedi gweithio'n galed er mwyn ymateb i'r digwyddiad ar y noson i sicrhau diogelwch y trigolion a rhoi cymorth i'r rheiny sydd wedi dioddef llifogydd mewnol.
"Roedd yr ymateb hefyd wedi parhau yn ystod y diwrnodau, wythnosau a misoedd yn dilyn y digwyddiad ar ffurf cymorth ariannol - gan gynnwys Grant Adfer Cymunedau yn dilyn y Llifogydd - Taliadau Caledi, grant ar gyfer adnewyddu eiddo a Grant Gwisg Ysgol. Roedd y cymorth yma hefyd yn cynnwys darpariaeth pecyn bwyd ar gyfer yr holl deuluoedd a gafodd eu heffeithio ac ystod eang o fesurau eraill a gafodd eu cyhoeddi gan y Bwrdd Adfer ar ôl Digwyddiadau Mawr.
"Yn ogystal â'r holl eiddo a busnesau a wynebodd llifogydd, roedd difrod gwerth miliynau o bunnoedd mewn perthynas â seilwaith y Cyngor. Er hynny, rwy'n falch o'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â gwaith trwsio a gwella ein ceuffosydd, waliau'r afon a strwythurau eraill. Mae maint y digwyddiad, yn ogystal â chymhlethdodau pandemig byd-eang COVID-19, yn golygu ei bod hi'n debygol y bydd y gwaith yma'n parhau yn y dyfodol.
"Yn dilyn sawl digwyddiad tywydd dros y deuddeg mis diwethaf, gan gynnwys rhai yn ystod misoedd yr haf, mae'n amlwg bod newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael effaith. Mae'r Cyngor eisoes wedi cyflwyno mesurau i ymateb a gwella'n gwaith paratoi wrth symud ymlaen, ar y cyd â'n sefydliadau partner"
“Bydd y Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn ein cynlluniau adfer yn dilyn Storm Dennis ac adnewyddu seilwaith amddiffyn rhag llifogydd. Mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor gyda rhagor o gynlluniau llifogydd mawr yn cael eu cwblhau bob wythnos.”
Wedi ei bostio ar 15/02/2021