Skip to main content

Cau Pont Castell Ifor dros dro yn Nhrehopcyn

Castell Ifor 2

Rydyn ni'n cynghori trigolion a defnyddwyr y ffordd y bydd Pont Castell Ifor yn Nhrehopcyn ar gau yr wythnos nesaf o ganlyniad i fân waith cywiro sy'n cael ei gynnal gan gontractwr cynllun atgyweirio diweddar, a hynny heb gost ychwanegol i'r Cyngor.

Ailagorodd y bont, sy'n cynnal Heol y Rhyd oddi ar yr A4058, yn 2020 ar ôl cwblhau cynllun sylweddol i dynnu dec y bont a oedd yn wan a gosod un concrid cyfnerthedig, ynghyd â mesurau diogelu pellach at y dyfodol.

Bydd contractwr y Cyngor, sef Alun Griffiths (Contractors) Ltd, yn dychwelyd i'r safle er mwyn cywiro mân ddiffygion. Bydd y bont unffordd ar gau yn sgil hyn o 7.30am ddydd Llun, 15 Chwefror am gyfnod o wythnos.

Mae llwybr arall ar gyfer modurwyr ar hyd Heol Rhondda, Stryd y Felin, System Gylchu Heol Sardis, Heol Rhondda, Heol Pwllgwaun a Heol y Barri - tuag at yr ochr sydd gyferbyn â'r ffordd sy wedi'i chau. Mae'r contractwr wedi rhoi gwybod i'r Cyngor na fydd mynediad ar gael i gerddwyr, ond bydd mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys yn parhau.

Mae'r gwaith yn cael ei gynnal yn ystod cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 COVID-19, felly bydd yn lleihau aflonyddwch gymaint â phosibl gan mai dim ond teithiau hanfodol y mae modd eu gwneud yn ystod y cyfnod yma. Bydd yr holl waith sy'n mynd rhagddo ar y safle yn cadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i'r gymuned leol ymlaen llaw am ei chydweithrediad tra bod y contractwr yn cwblhau'r wythnos ychwanegol yma o waith.

Wedi ei bostio ar 12/02/2021