Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi Cyfrifiad 2021 gan ofyn i'w holl drigolion sicrhau eu bod nhw'n cymryd rhan i helpu i lywio gwasanaethau'r dyfodol yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae'r Cyfrifiad yn arolwg sy'n digwydd bob 10 mlynedd ac sy'n rhoi darlun a chyfrif o'r holl bobl ac aelwydydd yng Nghymru a Lloegr. Mae'n darparu ystod eang o ddata o lefel genedlaethol i lefel leol.
Mae ystadegau'r Cyfrifiad yn hynod bwysig i awdurdodau lleol, gan effeithio ar faint o arian y mae ardal leol yn ei dderbyn a darparu gwybodaeth hanfodol am wahanol grwpiau demograffig sy'n byw yn yr ardal, sy'n helpu gyda'r gwaith o gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau lleol.
Bydd eleni yn Gyfrifiad digidol yn gyntaf, gan y bydd Cyfrifiad 2021 yn bennaf ar-lein er mwyn lleihau cysylltiad ac i gydymffurfio â chanllawiau cyfredol yn ystod pandemig Covid-19. Gallai hyn fod yn heriol i rai trigolion, ond bydd ystod lawn o wasanaethau cymorth ar gael i unrhyw un sydd angen cymorth, mae'r rhain yn cynnwys:
- arweiniad a chymorth cynhwysfawr mewn sawl iaith a diwyg,
- cymorth mewn canolfannau lleol gyda staff hyfforddedig a mynediad ar-lein,
- canolfan gyswllt i ddarparu cymorth dros y ffôn, sgwrsio ar y we a’r cyfryngau cymdeithasol,
- staff yn y maes yn cysylltu ag aelwydydd sydd heb ymateb,
- holiaduron hygyrch, er enghraifft mewn print bras,
- yr opsiwn i ofyn am holiaduron papur.
Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n gyfrifol am y Cyfrifiad, yn anfon holiaduron papur yn awtomatig mewn ardaloedd lle maen nhw wedi nodi bod trigolion yn debygol iawn o'u hangen.
Bydd yr arolwg yn gofyn i bobl seilio'r wybodaeth y maen nhw'n ei darparu ar eu hamgylchiadau ar un diwrnod - Diwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021) fel bo modd cael darlun clir o ddata. Does dim angen i drigolion lenwi na chwblhau'r ffurflen ar y dyddiad hwn. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn darparu rhagor o wybodaeth am ddyddiadau ar gyfer cwblhau'r arolwg yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu yn rhan o'r cyfrifiad yn cyfrannu at greu darlun manwl o gymdeithas ar hyn o bryd. Trwy gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021 bydd trigolion yn chwarae eu rhan mewn cofnodi'r cyfnod hanesyddol digynsail hwn ac amlygu'r newidiadau rydyn ni i gyd wedi'u gwneud yn ystod pandemig Covid-19.
Bydd y manylion hefyd yn nodi tueddiadau pwysig a fydd yn helpu sefydliadau i gynllunio gwasanaethau a dyrannu cyllid yn y dyfodol. I gyflawni hyn, mae'r cyfrifiad yn gofyn cwestiynau ar ystod o bynciau, gan gynnwys gwybodaeth am:
- unigolion, fel eu henw, oedran, rhyw a statws priodasol
- aelwydydd, fel perthnasoedd teuluol
- y cartrefi rydyn ni'n byw ynddyn nhw, o ran eu lleoliad, nifer y bobl sy'n byw yno a pha gyfleusterau sydd ganddyn nhw.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, gyda chyfrifoldeb am faterion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: “Byddwn i'n annog yr holl drigolion i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021. Nid yn unig mae'n bwysig ein bod yn cofnodi'r cyfnod digynsail yma, ond bydd y Cyfrifiad yn gosod y seiliau ar gyfer prosiectau a chyllid yn y dyfodol yma yn Rhondda Cynon Taf.
“Bydd Cyfrifiad 2021 yn darparu amrywiaeth o wybodaeth werthfawr, a fydd yn galluogi'r Awdurdod Lleol i gynllunio a datblygu gwasanaethau lleol, yn ogystal ag effeithio ar lefel y cyllid a gawn ni gan Lywodraeth Ganolog.
“Felly mae'n bwysig bod y Cyfrifiad yn cael ei gwblhau gan gynifer o bobl â phosibl, o bob oed a chefndir o bob rhan o'n Bwrdeistref Sirol.”
Mae'n bwysig bod y cyfrifiad yn taflu goleuni ar dueddiadau tymor hir, yn ogystal ag adlewyrchu'r gymdeithas newidiol rydyn ni'n byw ynddi heddiw. Bydd Cyfrifiad 2021 yn gofyn cwestiynau ar dri phwnc newydd, sef:
- gwasanaeth blaenorol gyda Lluoedd Arfog y DU
- hunaniaeth o ran rhywedd
- cyfeiriadedd rhywiol
Mae cyfle hefyd i blant oed cynradd ac uwchradd gymryd rhan a dysgu popeth am sut mae'r Cyfrifiad yn gweithio a'r set ddata unigryw y mae'n ei chipio. Mae ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf yn cael eu hannog i gymryd rhan - mae rhagor o fanylion ar gael yn https://cyfrifiad.gov.uk/y-cyfryngau-ac-ymgyrchoedd/rhaglen-adnoddau-addysg-y-cyfrifiad.
I gael rhagor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf ar Gyfrifiad 2021, ewch i https://cyfrifiad.gov.uk/
Wedi ei bostio ar 03/02/21