Skip to main content

Y Rhybudd Tywydd Melyn Diweddaraf Ar Gyfer RhCT

Snow in Clydach

Mae rhybudd MELYN wedi’i gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer pob rhan o Rondda Cynon Taf penwythnos yma.

Byddwn ni’n monitro’r sefyllfa yn ofalus yn ystod y cyfnod yma a bydd criwiau Priffyrdd y Cyngor yn trin y prif rwydwaith a llwybrau uchel unwaith i’r glaw droi’n eira a phan fydd y tymheredd yn gostwng. Bydd tywydd gwlyb yn toddi unrhyw halen sydd ar y ffordd.

Mae’r criwiau hefyd wedi gwirio bod digon o halen yn ein biniau ledled y Fwrdeistref Sirol, ac mae staff ychwanegol ar gael er mwyn cymryd camau rhagweithiol ac ymateb i unrhyw broblemau a allai godi.

Mae'r Cyngor yn annog pawb i fod yn wyliadwrus a chymryd gofal yn ystod y cyfnod yma. Yn ogystal â hynny, dilynwch gyfrifon y Swyddfa Dywydd a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor am ddiweddariadau.

Os bydd unrhyw broblemau'n codi y tu allan i oriau swyddfa arferol, ffoniwch ein gwasanaeth y Tu Hwnt i Oriau ar 01443 425011.

Wedi ei bostio ar 13/02/2021