Skip to main content

Uned fusnes fodern yng Nghoed-elái bellach yn nwylo'r Cyngor

Coed Ely unit

Mae'r uned fusnes fodern newydd gwerth £3.93 miliwn ar gyfer Coed-elái wedi'i throsglwyddo i'r Cyngor gan ei gontractwr – ac mae nifer o ddarpar denantiaid eisoes wedi mynegi'u diddordeb.

Ar ôl gwneud cynnydd da trwy gydol 2020, mae'r contractwr, John Weaver Contractors, ar fin gorffen y cam adeiladu, a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2019. Mae wedi darparu uned fusnes 30,000 troedfedd sgwâr, gan gynnwys swyddfeydd, ar lain o safle pwll glo ehangach Coed-elái (Parc Coed-elái), sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac sy wedi'i glustnodi ar gyfer datblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol. Trosglwyddwyd yr adeilad i'r Cyngor ddydd Gwener, 15 Ionawr.

Gan arwain ar y cynllun, sy'n gyd-fenter â Llywodraeth Cymru, roedd y Cyngor eisoes wedi sicrhau £2.58 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i adeiladu'r uned. Mae'r adeilad, yn 3 Parc Coed-elái (CF39 8FR), yn cyflawni sgôr gadarnhaol am ei ddefnydd isel o garbon o dan feini prawf asesu sefydledig BREEAM.

Gan weithio trwy gydol pandemig COVID-19 gan gydymffurfio â'r canllawiau peirianneg sifil diweddaraf, cyflawnodd y cynllun gerrig milltir pwysig y llynedd. Roedd y rhain yn cynnwys cwblhau fframwaith dur yr adeilad (mis Mawrth) a'r to (mis Mai).

Mae'r holl waith mewnol ac allanol i'r adeilad bellach wedi'i gwblhau, ar wahân i waith cysylltu â gwasanaethau a fydd yn cael ei gwblhau yn fuan iawn. Cyn ei drosglwyddo i'r Cyngor, cafodd yr adeilad ei lanhau'n fewnol ac yn allanol. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd sawl archwiliad – gan gynnwys profi systemau byw ar gyfer Rheoli Adeiladu a Diogelwch Tân – dros yr wythnos ddiwethaf.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Rydw i'n falch iawn bod yr uned fusnes fodern yng Nghoed-elái bellach wedi'i adeiladu, gan alluogi'r tir yma ar safle hen bwll glo i gael ei ailddefnyddio. Mae'r datblygiad yn rhan o safle ehangach Parc Coed-elái sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru – a llwyddodd y Cyngor i sicrhau dros £3.25 miliwn o gyllid allanol tuag at ei gyflawni.

“Mae datblygiad y Cyngor bellach wedi darparu adeilad modern, mwy a phwrpasol gan gynnig nifer o ffyrdd o'i ddefnyddio. Does dim byd tebyg wedi'i adeiladu yn Rhondda Cynon Taf ers nifer o flynyddoedd. Mae'r adeilad o safon ragorol, ac mae'n cyflawni sgôr gadarnhaol ar gyfer defnydd isel o garbon a chynaliadwyedd o dan reoliadau cydnabyddedig. Mae'r Cyngor hefyd yn datblygu prosiect pellach yn Nhresalem yng Nghwm Cynon, ac mae cynnydd yn mynd rhagddo ar y safle.

“Mae'r adeilad wedi'i leoli yn Rhanbarth Porth Cwm Rhondda – a nodwyd gan y Cyngor yn Ardal Cyfleoedd Strategol gyda'r potensial ar gyfer twf economaidd. Mae ganddo gysylltiadau rhagorol â'r A4119 gerllaw sy'n ffordd brifwythiennol y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'w deuoli o Goed-elái i Ynysmaerdy yn y dyfodol.

“Mae hefyd yn newyddion calonogol iawn bod y Cyngor eisoes wedi derbyn diddordeb sylweddol ynghylch meddiannu'r adeilad. Mae hyn yn arwydd pellach bod galw am y math yma o lety busnes mewn ardaloedd strategol yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod unwaith y bydd yn cytuno ar unrhyw denantiaeth. Rydw i'n edrych ymlaen at ymweld â'r safle yn y dyfodol unwaith y bydd nifer yr achosion o COVID-19 wedi lleihau'n sylweddol a bod y cyfyngiadau'n caniatáu i ni wneud hynny.”

Mae'r Cyngor eisoes wedi derbyn nifer o ddatganiadau o ddiddordeb mewn perthynas â thenantiaeth. Mae'r eiddo yn dal i fod ar gael i'w osod ar hyn o bryd. Cyfeiriwch ymholiadau at yr asiantau wedi'u penodi gan y Cyngor, JLL, trwy ffonio 02920 227666 neu e-bostio Heather.Lawrence@eu.jll.com.

Wedi ei bostio ar 22/01/21