Mae'r Ganolfan Brechu yn y Gymuned yn swyddfeydd y Cyngor yn Abercynon, Tŷ Trevithick, yn ehangu. Mae capasiti yn cynyddu, yn ogystal ag agor y ganolfan saith diwrnod yr wythnos.
Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae swyddfeydd y Cyngor yn Abercynon, Tŷ Trevithick, wedi'u hailfodelu ac maen nhw bellach yn cael eu defnyddio'n Ganolfan Brechu yn erbyn Covid-19.
Hyd yn hyn, mae miloedd o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, gan gynnwys staff yr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, wedi cael eu brechu yn y Ganolfan Brechu yn y Gymuned.
Trwy ehangu'r capasiti yn Nhŷ Trevithick, ac agor y ganolfan saith diwrnod yr wythnos, bydd yn darparu rhagor o frechlynnau nag oedd yn bosibl yn y gorffennol. Mae hyn yn golygu bod modd i ragor o bobl gael eu brechu ac yn fwy cyflym.
Mae'r newyddion da yma yn dilyn cyhoeddiad y bydd Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Cyngor RhCT, yn Ystrad, yn cael ei defnyddio'n Ganolfan Brechu yn erbyn Covid-19 o 25 Ionawr. Bydd hon hefyd ar agor saith diwrnod yr wythnos. Mae cynlluniau i agor safleoedd eraill yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhyddhau ar ôl i'r rhain gael eu cadarnhau.
I gefnogi gwaith cyflwyno'r rhaglen brechu yn erbyn Covid-19 ymhellach, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn mynd ati i hyfforddi staff i roi brechlyn Covid-19, gan alluogi staff y GIG i barhau i roi gofal hanfodol i'r rheiny sydd ei angen fwyaf yn yr ysbyty.
Rydyn ni'n atgoffa pobl bod rhaid iddyn nhw gael gwahoddiad ac apwyntiad i gael brechlyn. Ni ddylai unrhyw un ymweld â'r safle oni bai bod ganddo apwyntiad brechu. Mae hyn oherwydd bod y brechlyn Covid-19 yn cael ei gyflwyno yn ôl blaenoriaeth ar hyn o bryd sy'n seiliedig ar lefel y risg y mae gwahanol grwpiau yn ei hwynebu yn sgil Covid-19.
Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn penderfynu ar y grwpiau sydd i'w blaenoriaethu ar lefel y DU. Dyma'r rhestr o flaenoriaethau:
1. preswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn a'u cynhalwyr
2. pawb sy'n 80 oed ac yn hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
3. pawb sy'n 75 oed ac yn hŷn
4. pawb sy'n 70 oed ac yn hŷn ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol
5. pawb sy'n 65 oed ac yn hŷn
6. pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes sy'n wynebu risg uwch o salwch difrifol a marwolaeth
7. pawb sy'n 60 oed ac yn hŷn
8. pawb sy'n 55 oed ac yn hŷn
9. pawb sy'n 50 oed ac yn hŷn
Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn nodi mai blaenoriaethau cyntaf y rhaglen brechu yn erbyn Covid-19 ddylai atal marwolaethau a chynnal a chadw systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r risg o farw o COVID-19 yn cynyddu yn ôl oedran, felly mae'r blaenoriaethu'n seiliedig, yn bennaf, ar oedran. Amcangyfrifir bod y grwpiau yma'n cynrychioli tua 99% o'r marwolaethau o COVID-19 y mae modd eu hatal.
Yn ogystal â chynorthwyo gyda chyflwyno'r rhaglen frechu trwy ddarparu Canolfannau Brechu yn erbyn Covid-19, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd yn darparu cymorth gweinyddol. Mae'n gwneud hynny trwy gysylltu â phobl a threfnu eu hapwyntiadau brechu. Mae hyn yn helpu i leihau pwysau ar gydweithwyr y GIG y mae modd iddyn nhw barhau â'u gwaith hanfodol i gefnogi cleifion yn ystod y cyfnod allweddol yma.
Mae staff Cyngor RhCT hefyd yn cefnogi partneriaid y GIG yn y Canolfannau Brechu yn y Gymuned, gan gynnwys helpu i gofrestru'r rheiny sy'n cael y brechlyn a helpu i sicrhau bod y broses mor syml ag sy'n bosibl.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi'r broses o gyflwyno brechlyn Covid-19, sy'n hanfodol er mwyn dod â'r argyfwng iechyd yma i ben, a hefyd i gefnogi'n cydweithwyr yn y GIG fel bod modd iddyn nhw barhau i ofalu ar gyfer y rheiny sydd ei angen fwyaf.
"Bydd sefydlu Canolfan Brechu yn erbyn Covid-19 yn swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Trevithick, ac ehangu capasiti ac oriau gweithredu'r safle, yn ogystal â sefydlu Canolfan Brechu yn y Gymuned yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda yn helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn cael y brechlyn mewn llai o amser.
“Ar ben hynny, rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac wedi nodi safleoedd i sefydlu rhagor o Ganolfannau Brechu yn erbyn Covid-19 ledled y Fwrdeistref Sirol, ac rydyn ni'n disgwyl i'r rhain ddechrau gweithredu dros y misoedd nesaf. Byddwn ni'n gallu rhannu rhagor o fanylion am y rhain yn fuan.
"Dyma roi gwybod i drigolion bod Cyngor Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno'r broses frechu cyn gynted ag y bo modd, a byddwn ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth i gyflawni'n nodau o ran brechu.
“Mae miloedd o frechlynnau eisoes wedi cael eu rhoi yn Rhondda Cynon Taf, a bydd y nifer yma'n parhau i gynyddu. Bydd Cyngor RhCT yn rhoi unrhyw gymorth posibl i gefnogi'n partneriaid yn y GIG i ddarparu brechlyn Covid-19 yn gynt ac i ragor o bobl.
"Rydyn ni'n deall pa mor anodd y mae'r cyfnod yma wedi bod i drigolion sy'n wynebu cyfyngiadau sylweddol sy'n effeithio ar fywyd bob dydd, ac rydyn ni'n diolch i bawb sydd wedi cydymffurfio â'r cyfyngiadau yma yn ystod y 10 mis diwethaf.
"Mae'r brechlyn yn cynnig modd o ddod â'r argyfwng iechyd yma i ben, ond hyd nes y bydd y mwyafrif o bobl yn cael y brechlyn, ac yn enwedig wrth i ni barhau i frechu'r grwpiau hynny sy'n wynebu'r risg fwyaf yn sgil y feirws, mae'n rhaid i bob un ohonom barhau i ddilyn y mesurau a roddwyd ar waith i amddiffyn ein hiechyd ein hunain ac iechyd y rhai o'n cwmpas. Mae hyn yn cynnwys parhau i gadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb pan fo'n ofynnol i chi wneud hynny neu mewn mannau lle mae pobl eraill.
Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg: "Mae'r ddwy ganolfan brechu yn y gymuned yma a'n partneriaeth barhaus gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf yn golygu ein bod ni ar y trywydd cywir i allu cyflawni'n nod o roi'r brechlyn i bawb sydd yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf yn RhCT erbyn canol mis Chwefror. Mae 12,000 o frechlynnau eisoes wedi cael eu rhoi i drigolion RhCT.
Hoffwn i ddiolch i bawb am fod yn amyneddgar wrth i ni weithio gyda'n gilydd i gyflwyno'r rhaglen frechu fwyaf erioed yng Nghymru. Byddwn ni'n cysylltu â chi pan fydd hi'n amser i chi gael eich brechu."
Wedi ei bostio ar 22/01/21