Ar ôl cyhoeddi Setliad Llywodraeth Leol dros dro 2021/22 ym mis Rhagfyr, bydd Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf yr wythnos nesaf yn ystyried Strategaeth Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae hyn yn cynnwys cynnydd o £2.2 miliwn ar gyfer cyllideb yr ysgolion a’r disgwyl yw y bydd y Cyngor yn cael y cynnydd lleiaf yng Nghymru yn Nhreth y Cyngor unwaith eto.
Mae adroddiad yn cael ei gyflwyno i Aelodau ddydd Iau, 28 Ionawr yn amlinellu cynnig ar bennu cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd yn destun ymgynghoriad ac yn cael ei argymell i'r Cyngor llawn ym mis Mawrth. Yr uchelgais yw i'r gyllideb fod mor deg â phosibl, gan dargedu adnoddau i feysydd allweddol a cheisio peidio ag effeithio'n ormodol ar wasanaethau.
Mae'r setliad Llywodraeth Leol dros dro, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 22 Rhagfyr, yn nodi y bydd Rhondda Cynon Taf yn derbyn cynnydd o 3.8% yn ei gyllideb ar gyfer 2021/22. Mae'r setliad yn cydnabod y rôl hanfodol mae awdurdodau lleol wedi chwarae yn y frwydr yn erbyn COVID-19.
Mae'r adroddiad yn rhoi adborth o'r broses ymgynghori ddiweddar pan gyflwynwyd dros 1,000 o ymatebion. Mae'r strategaeth arfaethedig yn cydbwyso bwlch o £4.05 miliwn sy'n weddill yn y gyllideb ar gyfer 2021/22 gan hefyd fanteisio ar y cyfle i ddarparu buddsoddiad ychwanegol mewn meysydd allweddol. Mae'r strategaeth yn cynnwys:
- Cynnydd o £2.2 miliwn yn y gyllideb ysgolion gan gydnabod bod ysgolion yn flaenoriaeth allweddol a chan ariannu eu gofynion ar gyfer 2021/22 yn llawn.
- Amddiffyn gwasanaethau'r Cyngor sy'n golygu ei fod yn gyllideb dim toriadau.
- Cyflwyno £4.6 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd pellach, ar ben yr arbedion o £6 miliwn y flwyddyn a gyflawnwyd ar draws gwasanaethau'r Cyngor ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf.
- Cynnydd o 2.65% yn Nhreth y Cyngor. Mae hyn yn is na'r hyn yr ymgynghorwyd arno'n flaenorol ac mae disgwyl mai hyn fydd y cynnydd lleiaf yng Nghymru ar gyfer 2021/22.
- Parhad y Cynllun Rhyddhad Lleol ar gyfer Ardrethi Annomestig (NDR), a'i gynyddu i £350 i bob busnes cymwys ar gyfer 2021/22.
- Bydd parcio am ddim ar ôl 3pm yn ystod yr wythnos ac ar ôl 10am ar ddyddiau Sadwrn (yn Aberdâr a Phontypridd).
- Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon, byddai cyllideb graidd o £100,000 yn cael ei rhoi ar waith i gyflymu'r gwaith yn y maes yma.
- Rhewi taliadau, ar gyfer Hamdden am Oes, meysydd parcio, caeau chwaraeon, Lido Ponty / Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Ffioedd Profedigaeth a phrydau ysgol.
- Adnoddau wedi'u targedu ychwanegol:
- £200,000 i alluogi'r Cyngor i recriwtio 6 Swyddog Graddedig yn ychwanegol at yr ymrwymiad presennol a wnaed o dan Gynllun Graddedigion llwyddiannus y Cyngor.
- £200,000 ar gyfer Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd i gynyddu gwytnwch yn y gwasanaeth a chaniatáu i adnoddau ychwanegol gael eu defnyddio.
- £50,000 mewn Cymorth Atal Llifogydd ar gyfer adnodd ymgynghorol i roi cymorth i drigolion a busnesau.
- £50,000 ar gyfer datblygu ac ymestyn rhaglenni cymorth Llesiant ar draws y gweithlu.
- £75,000 ar gyfer sefydlu Carfan Gordyfiant ychwanegol i wella'r gwaith ymhellach i gadw ein hamgylchedd lleol yn lân ac yn daclus.
- £500,000 ar gyfer Carfan Ddraenio newydd i wella a chyflymu'r gwaith o atgyweirio a gwella systemau draenio.
Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor £8.7 miliwn yn y Gronfa Gyffredinol wrth gefn. Cafodd £1.5 miliwn o'r Gronfa yma ei ddefnyddio i gefnogi cymunedau gafodd eu heffeithio gan Storm Dennis, ac mae cynlluniau ar waith i dalu'r arian yn ôl a chynnal y lefel flaenorol dros y tair blynedd nesaf.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Bydd y Cabinet yn trafod adroddiad sy'n esbonio'r sefyllfa ddiweddaraf yng nghyd-destun pennu cyllideb gyfreithiol gytbwys ar gyfer 2021/22. Mae swyddogion wedi cyflwyno cyllideb ddrafft yn seiliedig ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru. Mae'r setliad dros dro wedi nodi y bydd Rhondda Cynon Taf yn derbyn cynnydd o 3.8% yn ei gyllid y flwyddyn nesaf.
“Mae’r setliad yn cydnabod y pwysau aruthrol sydd ar Lywodraeth Leol ledled Cymru, ac yn cydnabod y rhan hanfodol y mae cynghorau yn ei chwarae drwy gydol pandemig COVID-19 i amddiffyn eu trigolion. Yn y diweddariad ariannol diwethaf gafodd y Cabinet ym mis Hydref 2020, nododd Swyddogion y byddai setliad dros dro o +3% yn arwain at fwlch o £13.8 miliwn yn y Gyllideb – felly roedd setliad mis Rhagfyr yn ganlyniad teg i Rondda Cynon Taf.
“Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn debygol o gynyddu cyfraddau Treth y Cyngor y flwyddyn nesaf. Yn seiliedig ar wybodaeth dros dro, mae RhCT yn cynnig y cynnydd isaf yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol, sef 2.65%. Mae rhai Awdurdodau Lleol yn ystyried cynnydd o fwy na 5%. Mae'r Cyngor hefyd wedi parhau i gynnal effeithlonrwydd ei wasanaeth, sydd wedi sicrhau mwy na £6 miliwn o arbedion y flwyddyn yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, gyda £4.6 miliwn o arbedion ychwanegol bellach yn cael eu hystyried.
“Mae'r strategaeth (drafft) yn cynnwys sawl elfen gadarnhaol arall, gan gynnwys £2.2 miliwn ychwanegol ar gyfer cyllideb ein Hysgolion – gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol yn yr adnoddau rydyn ni wedi'u buddsoddi yn y maes yma ers 2011/12. Byddai'r Cynllun Rhyddhad Lleol – Ardrethi Annomestig hefyd yn parhau gyda busnesau cymwys yn derbyn swm uwch, a byddai parcio am ddim ym Mhontypridd ac Aberdâr ar ôl 3pm yn ystod yr wythnos ac ar ôl 10am ar ddydd Sadwrn.
“Yn ystod y cyfarfod ddydd Iau, gallai Aelodau'r Cabinet ddewis cytuno ar amserlen ddrafft ar gyfer pennu cyllideb 2021/22 ym mis Mawrth 2021, a chytuno ar alluogi'r Cyngor i ddechrau ail gam y broses o ymgynghori â thrigolion lleol. Byddai'r ymgynghoriad yma yn seiliedig yn fwy penodol ar y cynigion sydd wedi'u hamlinellu yn Strategaeth y Gyllideb (drafft)."
Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020, cafodd trigolion gyfle i gymryd rhan mewn proses ymgynghori gychwynnol a rhannu'u barn cyn i'r Gyllideb (drafft) gael ei llunio. Daeth llawer o safbwyntiau am flaenoriaethau buddsoddi, Treth y Cyngor ac arbedion effeithlonrwydd i'r amlwg, ac fe gafodd y broses ymgynghori ei chynnal ar-lein yn bennaf, o ganlyniad i bandemig COVID-19.
Cafodd 1,044 o arolygon eu cwblhau ac roedd 76% o'r ymatebwyr o’r farn y dylid amddiffyn gwasanaethau'r Cyngor trwy gynnydd o 2.85% yn Nhreth y Cyngor. Erbyn hyn cynigir y dylid lleihau hyn i gynnydd o 2.65%. Yn ogystal â hynny, cytunodd 81% o'r bobl wnaeth ymateb y dylai'r Cyngor ddarparu adnoddau i fynd i'r afael â'r pwysau cynyddol ar ysgolion. Y tri gwasanaeth yr oedd pobl eisiau eu blaenoriaethu oedd Gofal Cymdeithasol i Blant (95%), Ysgolion (92%) ac Iechyd y Cyhoedd (91%). Trafododd y Cabinet adroddiad ymgynghori manwl ochr yn ochr â chynigion ar gyfer y gyllideb.
Wedi ei bostio ar 22/01/2021